Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones):
Cyhoeddaf i’r Cynulliad Cenedlaethol benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef, wrth roi diwygiadau’r polisi amaethyddol cyffredin ar waith, y bydd y model hanesyddol yn sail i’r taliad sengl i ffermwyr a fydd yn gweithredu yng Nghymru o 2005 ymlaen.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ystyried yr holl opsiynau ar gyfer trefn dalu newydd y PAC yn ofalus. O fewn fframwaith cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd, nid yw’n bosibl llunio trefniadau a fyddai’n bodloni pawb o fewn y gymuned ffermio yn ogystal â grwpiau allweddol eraill sydd â diddordeb, fel y lobi amgylcheddol a’r lobi cadwraeth.
Mae swyddogion wedi dadansoddi yn fanwl yr opsiynau ar gyfer y taliad sengl i ffermwyr, a nodir yn y papur sy’n dwyn y teitl, ‘The Economic and Distributional Impacts of the Implementation Options Available for CAP Reform’. Yr wyf wedi rhoi copïau i’r gwrthbleidiau ac yr wyf hefyd wedi gosod copi yn y Llyfrgell. Mae’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y taliad sengl i ffermwyr yn cynnwys datgysylltu, sy’n newid pwysig yn system gymorth y PAC. Dim ond yn awr y mae amaethyddiaeth yn dangos arwyddion clir o adferiad a hyder cynyddol ar gyfer y dyfodol.
Byddai cymhwyso opsiwn taliad safonol ar sail arwynebedd, lle y mae’r holl dir ffermio yn derbyn taliad cyfartal, yn golygu ailddosbarthu derbyniadau cyfredol y PAC gryn dipyn. Yn arbennig, byddai’r opsiwn hwn yn rhoi’r ffermydd teuluol traddodiadol llai yng Nghymru sef asgwrn cefn ffermio yng Nghymru o dan anfantais. O dan yr opsiynau hybrid, sy’n cyfuno elfen ar sail arwynebedd ac elfen hanesyddol, caiff llawer o dderbyniadau’r PAC ei ailddosbarthu, unwaith eto, oddi wrth y ffermydd bach. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, felly, fod unrhyw fodel ar gyfer y taliad sengl i ffermwyr sy’n cynnwys elfen ar sail arwynebedd er budd amaethyddiaeth Cymru ar hyn o bryd. Yr opsiwn hanesyddol yw’r ffordd ymlaen i Gymru. Bydd hyn yn cyflawni ein hymrwymiad yn ‘Ffermio i’r Dyfodol’, bydd yn gyson â’r safiad yr ydym ni, fel rhan o dîm y DU, wedi’i fabwysiadu drwy’r negodiadau manwl ar lefel Ewropeaidd, a chaiff ei gefnogi gan ein hundebau ffermio. Bydd y model hanesyddol yn caniatáu i ffermio barhau i gyfrannu at gydlyniad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cefn gwlad Cymru.
Yn bwysig ddigon, mae pecyn diwygio PAC 2003 yn rhoi’r pwer i Lywodraeth y Cynulliad ddiwygio’r PAC yn ôl anghenion Cymru a ffermio yng Nghymru. Bydd y penderfyniadau ynglyn â sut yr ydym yn rhoi diwygiadau ar waith yng Nghymru yn cael effaith hirbarhaol, a bydd yn arwain ffermio yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd eisoes y bydd penderfyniadau ar becyn diwygio’r PAC yn cael eu llywio gan ymgynghori helaeth gyda’n partneriaid allanol yng Nghymru. Yr wyf wedi gosod yn y Llyfrgell grynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar ddiwedd y llynedd ar yr opsiynau ar gyfer y drefn dalu newydd a materion cysylltiedig. Caiff aelodau gyfle i drafod hyn a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r PAC yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mawrth. Daeth yr ymgynghoriad ar y pecyn diwygio a’r sector llaeth i ben yn ddiweddar. Yr wyf yn ystyried yr ymatebion ar hyn o bryd a byddaf yn cyhoeddi’r penderfyniadau maes o law.
O dan y system taliad sengl i ffermwyr, rhaid ffermio yn rhagweithiol a bodloni gofynion sy’n ymwneud â safonau amgylcheddol, lles anifeiliaid a ffermio. Cyfeirir at hyn fel trawsgydymffurfio. Bydd y rhan fwyaf o’r safonau yn seiliedig ar gyfarwyddebau a rheoliadau presennol yr UE ac felly nid ydynt yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ffermwyr. Bydd trawsgydymffurfio yn ymwneud ag arwynebedd cyfan ffermydd. Os na chydymffurfir â’r safonau gallai taliadau i ffermwyr gael eu gostwng. Fy mwriad i yw y dylid seilio’r gyfundrefn trawsgydymffurfio ar safonau gofynnol. Amcangyfrifir y byddai tua 200 o ffermydd yng Nghymru yn cael arolygiad blynyddol at ddibenion cydymffurfiaeth. Cedwir cyfundrefn arolygu 5 y cant y system gweinyddu a rheoli integredig presennol. Cyhoeddir papur ymgynghori yn fuan ar gynigion ar gyfer trawsgydymffurfio, a bwriadaf gyhoeddi’r canlyniad ar ddechrau’r haf.
Ceir rhyddid i sefydlu amlen genedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol posibl a allai godi yn sgîl lleihau cynhyrchiant o dan y broses ddatgysylltu neu i gefnogi mentrau marchnata neu ansawdd. Gall amlen fod hyd at 10 y cant o derfyn uchaf ariannol Cymru. Caiff opsiynau posibl ar gyfer defnyddio’r amlen yng Nghymru eu cynnwys mewn papur ymgynghori, a gaiff ei gyhoeddi’n fuan. Fodd bynnag, byddai’n rhaid imi gael fy argyhoeddi y byddai’n fanteisiol yn gyffredinol i ffermio yng Nghymru pe bai amlen a fyddai fel arall yn gorbwyso’r effaith ar dderbyniadau ffermwyr unigol o dan y taliad sengl i ffermwyr. Fy mwriad fyddai cyhoeddi a ddylem gael amlen i Gymru ac, os felly, sut y gallai weithredu, ar ddechrau’r haf.
O ganlyniad i ddewis y sail hanesyddol i’r taliad sengl i ffermwyr, bydd angen inni sefydlu cronfa genedlaethol i Gymru. Drwy’r cyfrwng hwn y byddai’r rhai sy’n newydd i ffermio, neu’r rhai nad ydynt yn gallu profi eu bod yn gymwys o’r cyfnod cyfeirio 2000 i 2002 yn cael hawl i gael taliadau. Ymgynghoraf ynghylch y meini prawf a ddefnyddir i weithredu cronfa genedlaethol yng Nghymru.
Cyhoeddir ffurflenni cais y taliad sengl i ffermwyr yn gynnar yn 2005, a byddwn yn nodi sut i gyfrifo’r taliad sengl i ffermwyr. Rhaid dychwelyd y ffurflenni hyn erbyn 15 Mai 2005. Yn dilyn hynny cynhelir yr arolygiadau yn seiliedig ar y system gweinyddu a rheoli integredig a’r arolygiadau trawsgydymffurfio, a gwneir taliadau i ffermwyr rhwng 1 Rhagfyr 2005 a 30 Mehefin 2006. Yn amlwg, y nod fydd dosbarthu taliadau sengl i ffermwyr cyn gynted â phosibl o fewn y ffenestr daliadau honno. Fel rhan o’r broses hon, bydd swyddogion yn cysylltu â thua 20,000 o ffermwyr o ddiwedd y gwanwyn ac yn gofyn iddynt wirio’r gweithgaredd a gafwyd ar y fferm yn ystod y cyfnod 2000 i 2002. Rhoddir cyhoeddusrwydd mawr i’r ymarfer hwn hefyd er mwyn inni allu sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael taliad o dan drefn newydd y PAC yn cael eu nodi.
Mae cyhoeddiad heddiw ar y model hanesyddol yn gam sylweddol ymlaen yn y broses o ail-lunio trefn y PAC i ddiwallu anghenion Cymru a ffermwyr yng Nghymru. Mae penderfyniadau pwysig eraill i’w gwneud, ond credaf mai’r penderfyniad allweddol yw mabwysiadu’r model hanesyddol. Bydd yr ymgynghoriad a addawyd ar drawsgydymffurfio, yr amlen genedlaethol a’r gronfa genedlaethol yn golygu y bydd y rhai sy’n rhan o’r gymuned ffermio a thu hwnt yn dechrau gweld ymagwedd gyffredinol Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddiwygio’r PAC.