Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr wyf yn falch o allu cyhoeddi dyraniadau i awdurdodau lleol o £42.064 miliwn ar gyfer prosiectau gwella adeiladau ysgolion mawr yn dechrau yn 2005-06, a £42.451 miliwn ar gyfer 2006-07. Addawyd tua £560 miliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf ysgolion fel un o ddeg ymrwymiad uchaf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer yr ail Gynulliad. Cyhoeddais y llynedd y byddai’r cyfanswm i’w ddyrannu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn adeiladau ysgolion yn cynyddu i £139 miliwn y flwyddyn o 2005-06 ymlaen.
Yr oedd y cynlluniau yn cynnwys yr ymrwymiad y byddai’r grant gwella adeiladau ysgolion yn cynyddu’n sylweddol fel bod awdurdodau yn cael cyfandaliad ychwanegol o £9 miliwn rhwng 2005 a 2010 i’w galluogi i ymgymryd â phrosiectau mawr. Mae hyn yn ychwanegol at gyfrannau blynyddol o’r grant gwella adeiladau ysgolion, sy’n gwneud cyfanswm o tua £35 miliwn, y bydd pob awdurdod yn parhau i’w gael.
Dyrannwyd y gyfran gyntaf o arian ychwanegol i awdurdodau sy’n gallu ymgymryd â phrosiectau yn 2005-06 a 2006-07. Yr wyf wedi gallu sicrhau bod pob un o’r 16 awdurdod a gyflwynodd gynigion cadarn i ddefnyddio eu dyraniadau yn y blynyddoedd hyn yn gallu dechrau ar y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’r gwaith y maent am ei wneud, fel y gofynasant. Gall yr awdurdodau hyn, os bydd angen, addasu’r symiau ar gyfer cynlluniau o fewn eu cyfanswm ar gyfer pob blwyddyn er mwyn sicrhau gwariant llawn.
Cymeradwywyd cyfanswm o 32 o brosiectau, ac fe’u rhestrir yn y tabl sydd wedi ei atodi i’r datganiad hwn, ac a e-bostiwyd at yr Aelodau. Yr awdurdodau sydd wedi dewis y prosiectau. Rhoddir y cymeradwyaethau heb effeithio ar unrhyw benderfyniadau y bydd yn rhaid imi eu gwneud efallai ar gynigion statudol cysylltiedig. Wrth ystyried dyraniadau maes o law ar gyfer 2007-08 a thu hwnt, rhoddir y flaenoriaeth i’r awdurdodau hynny nas cynhwyswyd yn y cylch cyntaf hwn.
Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at awdurdodau sydd â chynlluniau cymeradwy i nodi amodau llawn y grant. Bydd y rhain yn cwmpasu materion cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni, mynediad i’r anabl, mynediad diogel i ysgolion ac atebolrwydd ariannol.
Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru yn ategu ein hymrwymiad i gyflawni addewid ‘Gwellcymru.com’ y bydd pob adeilad ysgol, erbyn 2010, mewn cyflwr da ac yn cael ei chynnal a’i chadw’n dda. Mae gwella adeiladau ysgolion yn flaenoriaeth allweddol: rhaid inni wneud hyn er mwyn ein plant ac er mwyn y rhai sy’n gweithio yn ein hysgolion.
Ni allai’r tabl dyraniadau gael ei ddosbarthu ar we’r Siambr. Felly, yr wyf wedi ei e-bostio at yr Aelodau, a darllenaf y dyraniadau yn awr. Y dyraniadau yw: Cyngor Sir Ynys Môn, £3 miliwn yn 2005-06 a £3 miliwn yn 2006-07 ar gyfer ysgol newydd i Ysgol y Bont, Ysgol y Graig ac Ysgol Uwchradd Caergybi, a chreu canolfan dysgu gydol oes. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, £4 miliwn yn 2005-06 a £2.5 miliwn yn 2006-07 ar gyfer ysgol newydd yn lle Ysgol Babanod Garn Fach ac Ysgol Iau Coed Cae ar safle Coed Cae, ac ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Willowtown. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, £800,000 yn 2005-06, £2,055,000 yn 2006-07, ac, i gwblhau’r rhaglen, £3,115,000 yn 2007-08. Mae hynny ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai ac ysgol gynradd newydd yng Nghaerau.
Y dyraniad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw £4.8 miliwn yn 2005-06, £3,100,000 yn 2006-07 ac £1,100,000 yn 2007-08 ar gyfer bloc newydd o 12 ystafell ddosbarth ac estyniad i’r gampfa ar gyfer Ysgol Gyfun Rhymni, adeilad newydd ar gyfer Ysgol Ifor Bach Senghennydd, adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Rhymni Isaf, ac ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Babanod Oakdale ac Ysgol Iau Rhiw Syr Dafydd. Cyngor Sir Caerfyrddin, £3 miliwn yn 2005-06, a £3 miliwn yn 2006-07, ar gyfer adeilad newydd i Ysgol y Bryn, ac ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol yr Ynys ac Ysgol Iau Llwynhendy ar safle presennol Ysgol yr Ynys. Cyngor Sir Ceredigion, £1 filiwn yn 2005-06 ac £1.75 miliwn yn 2006-07 ar gyfer ysgol gynradd newydd i Ysgol Gynradd Gymunedol Ffynnon Bedr.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cael £775,000 yn 2005-06, £4,325,000 yn 2006-07 ac £1,400,000 yn 2007-08 ar gyfer ysgol gynradd newydd ym Mhrestatyn, labordai gwyddonol newydd yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, ffreutur i Ysgol Dinas Brân ac Ysgol Brynhyfryd, a phedair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer Ysgol Emmanuel, y Rhyl. Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, £2,500,000 yn 2006-07 a £750,000 yn 2007-08 ar gyfer ysgol gynradd newydd yn Aberfan yn lle Ysgol Gynradd Ynysowen, Ysgol Gynradd Mount Pleasant ac Ysgol Feithrin Ynysowen, adleoli Ysgol Gymraeg Rhyd-y-grug i safle Ysgol Gynradd Ynysowen, ac ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Gynradd Sirol Ysgol y Graig ac Ysgol Feithrin Trefechan. Cyngor Sir Mynwy, £3.5 miliwn yn 2005-06, £2 filiwn yn 2006-07, ar gyfer Harold Road y Fenni, ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Iau Harold Road ac Ysgol Babanod Park Street, ac Ysgol Gymraeg y Fenni, ysgol Gymraeg newydd ar safle presennol ysgol St David’s.
Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, bydd y dyraniad yn £2,191,000 yn 2005-06, a £489,000 yn 2006-07, ar gyfer ysgol arbennig newydd yn lle Ysgol Arbennig Llansawel. Ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd, £3 miliwn yn 2005-06, £2.4 miliwn yn 2006-07, a £100,000 yn 2007-08, i ailadeiladu Ysgol Gynradd Ty-du. Cyngor Sir Penfro, £1 filiwn yn 2005-06, £4,250,000 yn 2006-07, a £3,750,000 yn 2007-08, ar gyfer ystafelloedd dosbarth ychwanegol a darpariaeth arbenigol i bobl ifanc 16 i 19 mlwydd oed yn Ysgol y Preseli, codi adeilad newydd yn lle Ysgol Iau Pendergast a’i ailadeiladu gyferbyn ag Ysgol Babanod Pendergast i greu ysgol gynradd newydd, a gwella’r adeiladau yn Ysgol Uwchradd Greenhill.
Ar gyfer Cyngor Sir Powys, y dyraniad fydd £2,948,000 yn 2005-06, a £2,832,000 yn 2006-07, ar gyfer cam 2 yr adeilad newydd yn Ysgol Arbennig Penmaes, a gwaith ymestyn ac adnewyddu cam 2 yn Ysgol Uwchradd Maes y Dderwen.
Ar gyfer Dinas a Cyngor Sir Abertawe, y dyraniad fydd £3,300,000 yn 2005-06, £2,500,000 yn 2006-07, ac £1,850,000 yn 2007-08, ar gyfer gwelliannau i fynd i’r afael ag adeiladau is na’r safon yn Ysgol Gyfun Gwyr, parhau â’r gwaith adeiladu yn Ysgol Gyfun Bryntawe, darparu bloc o ystafelloedd dosbarth newydd yn lle’r adeiladau presennol yn Ysgol Gyfun Treforys, bloc o ystafelloedd dosbarth newydd a chael gwared ar yr ystafelloedd dosbarth is na’r safon yn Ysgol Gyfun Tregwyr, ac ysgol gynradd newydd yn lle ysgolion babanod ac iau Dynfant, a gwelliannau i’r adeiladau presennol.
Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, y dyraniad fydd £2,750,000 yn 2005-06, a £2,750,000 yn 2006-07, i resymoli’r ddarpariaeth uwchradd yng ngogledd Tor-faen. Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, £6 miliwn yn 2005-06, a £3 miliwn yn 2006-07, i adnewyddu adeiladau Ysgol Gynradd Coed Poeth i rannu’r defnydd rhwng ysgol Saesneg newydd, Ysgol Penygelli, ac ysgol Gymraeg newydd, Ysgol Bryn Tabor, adnewyddu Ysgol Gynradd y Rhos i rannu’r defnydd rhwng ysgol gynradd Saesneg newydd, Ysgol y Rhos, ac ysgol gynradd Gymraeg newydd, Ysgol Hooson, ac adnewyddu adeiladau yn Ysgol Uwchradd Clywedog ac Ysgol Uwchradd Rhosnesni.