Skip to content

Datganiad ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ynghylch Tai ar gyfer Pobl Hyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol
Croesawaf adolygiad ac adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ynghylch tai ar gyfer pobl hyn. Dengys ymrwymiad y pwyllgor, a’m hymrwymiad i, i hyrwyddo’r agwedd bwysig hon ar y strategaeth ar gyfer pobl hyn. Mae’r adroddiad hwn yn ganlyniad i lawer o waith caled, ac fe’m calonogwyd gan y cydweithredu clòs a fu rhwng y pleidiau, yn enwedig gan fod hynny wedi sicrhau nad oedd y sylw’n troi oddi wrth bobl hyn a’u hanghenion lawer.
Mae’r adroddiad yn gwneud 26 o argymhellion, a’r rheini’n cwmpasu sawl sector, yn enwedig ar dai, iechyd a gofal cymdeithasol. Os cawsoch gyfle i ddarllen eich papurau cyllideb, gwelwch fod newydd da yn fy nghyllideb ar y grant tai cymdeithasol ac arian Wanless, a fydd o gymorth i ni, yr wyf yn gobeithio, o ran sicrhau cydweithio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ystyriodd y pwyllgor sawl pwnc pwysig fel darparu ar y cyd, gwasanaethau therapyddion galwedigaethol, tai gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol, yn ogystal â chyfraniad gwerthfawr y sector gwirfoddol at ddarparu gwasanaethau. Yn ystod camau ymchwil a chasglu tystiolaeth yr adolygiad, cafwyd sawl ymweliad â chynlluniau gofal cymdeithasol yn ogystal â sawl asiantaeth gofal a thrwsio. Teg yw dweud bod gan y pwyllgor feddwl mawr o’r hyn a welodd. Trawyd Aelodau gan amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau a gynigir, a’r arloesi a’r arferion da a geir, a hefyd gan y proffesiynoldeb, yr ymroddiad a’r ymrwymiad mawr a amlygwyd gan y cyrff hyn a’u staff.
Yr oedd yr adroddiad yn ganlyniad i ymgynghori eang, ar lafar a drwy ohebu, ac yr oedd penodi cynghorwr arbenigol hefyd yn bwysig o ran cael cyfarwyddyd, gwybodaeth ac arbenigedd. Fodd bynnag, proses barhaus yw ymgynghori’n aml, a chan fod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi bellach byddem yn croesawu sylwadau ar y cynnwys, yr argymhellion a’r cyfeiriad y dylem ei ddilyn yn ein polisi yn y dyfodol gan y rhai â diddordeb.
Mae ymchwil wedi dangos y bydd y boblogaeth yn heneiddio’n sylweddol dros y 40 mlynedd nesaf. Mae pobl hyn yn fwy tebygol na phobl iau o brofi amgylchiadau tai gwael, o fod heb fwynderau a chyfleusterau modern yn eu cartrefi ac o fod ag angen addasiadau i’w galluogi i fyw’n annibynnol. Er eu bod yn berchen ar eu cartrefi, mae incwm llawer o bobl hyn yn gymharol isel ac ychydig o gynilion sydd ganddynt ac, o ganlyniad, maent yn aml yn wynebu anawsterau mawr wrth ymdopi â chostau atgyweirio, gwella ac addasu. Mae pobl hyn yn fwy tebygol o lawer hefyd o ddioddef gan salwch tymor hir sy’n cyfyngu ar eu gweithgareddau ac yn gofyn rhyw fath o ofal, cymorth neu addasu ar eu cartrefi.
Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o’r materion hyn yn yr adroddiad, ac yr wyf yn llwyr dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad, fel yr oedd fy natganiad ysgrifenedig yn egluro. Mae’r argymhellion yn ymwneud yn bennaf â’r angen am fwy o ofal integredig a gweithio ar y cyd, mwy o gyllid ar gyfer gofal yn y cartref, yr angen am fwy o dai gwarchod, tai arbenigol a chyfleusterau gofal ychwanegol, cymorth parhaus i wasanaethau gofal a thrwsio, atebion i ddatrys prinder therapyddion galwedigaethol, adolygiad o gyfundrefn y grant cyfleusterau i’r anabl, ac ystyriaeth i gynlluniau rhyddhau ecwiti a dulliau benthyca eraill fel dewisiadau dichonol. Mae nifer o’r argymhellion yn galw am ganllawiau ac ymchwil pellach, tra bo eraill, fel yr adolygiad o’r grant cyfleusterau i’r anabl, pecynnau benthyca gwahanol a chymorth parhaus ar gyfer gofal a thrwsio yn cael eu hyrwyddo eisoes.
Ynghylch cynlluniau tai â gofal ychwanegol, bu sawl landlord cymdeithasol cofrestredig yn ymwneud yn agos ag awdurdodau lleol a phartneriaethau iechyd penodol wrth ddatblygu cynlluniau tai ar gyfer yr henoed. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn cydnabod y gallai maint yr angen mewn rhai ardaloedd gwledig fod yn annigonol i gyfiawnhau datblygu mathau o ddarpariaeth arbenigol fel y math o gynlluniau gofal ychwanegol sydd wedi’u cwblhau bellach yn rhai o’n trefi a’n dinasoedd. Yn yr ardaloedd hyn, ac mewn mannau eraill, bydd angen cael atebion ar raddfa fach yn aml, a chydnabyddaf yr angen am ddulliau cyllido a chynllunio strategol a fydd yn ddigon hyblyg i hwyluso atebion o’r fath. Adlewyrchir hynny yn y canllawiau diwygiedig a roddwn i ategu argymhelliad 2.
Rhoddir gwedd eglurach ar y rhan y bydd tai gwarchod a mathau eraill o dai arbenigol yn gallu ei chwarae yn amrediad cyffredinol y ddarpariaeth gan y prosiectau ymchwil yr wyf wedi cytuno i’w cynnal o dan argymhellion 18 a 19. Mae’n debyg y bydd y rhain hefyd yn fodd i gynnig enghreifftiau o arferion da a gwersi a ddysgwyd o gynlluniau cynharach.
Mae’r strategaeth ar gyfer pobl hyn, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnig dull gweithredu cynhwysfawr ac integredig ac yn dilyn ymgynghori eang â’r holl bartneriaid, gan gynnwys pobl hyn. Yn ogystal â hynny, mae’n cynnig fframwaith i’w ddefnyddio gan yr holl gyrff statudol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer yr hyn y bydd cymdeithas sy’n heneiddio yn ei olygu, i ymdrin â gwahaniaethu ar sail oed ac i wella gwasanaethau ar gyfer pobl hyn yn awr. Mae awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol yn gwneud cynnydd rhagorol wrth weithredu’r strategaeth arloesol hon, y rhoesom £10 miliwn o gyllid i’w hyrwyddo dros bedair blynedd.
Un o’r prif ymrwymiadau yn y strategaeth ar gyfer pobl hyn, mewn cysylltiad â thai ac annibyniaeth, yw y cynhelir dadl genedlaethol ar ddiwallu anghenion tai pobl hyn yn y dyfodol. Mae is-bwyllgor Cabinet y Cynulliad ar bobl hyn wedi nodi’r mater hwn fel prif flaenoriaeth hefyd.
Ochr yn ochr â’r paratoi ar gyfer y ddadl genedlaethol, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y bydd anghenion pobl hyn o ran tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu trafod gyda’i gilydd fwyfwy. Mae’r angen i sicrhau cysylltiadau cryf ar bob lefel rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, wrth hyrwyddo adroddiad Wanless ac adroddiad grwp strategaeth gofal Cymru drwy hybu annibyniaeth neu atal pobl rhag mynd yn fwy dibynnol. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, byddwn yn sefydlu tîm integredig o swyddogion tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Gan hynny, mae cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio’n amserol ac yn gymorth o ran cynnig cyd-destun a thystiolaeth ar gyfer y gwaith pwysig pellach a fydd yn dilyn ar dai a phobl hyn.