Skip to content

Ynni Adnewyddadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a Carwyn Jones , y Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
1. Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, at ddibenion ymgynghori, Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim Gweinidogol drafft a Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8) ar ynni adnewyddadwy. Mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn newid y canllawiau cynllunio ynni adnewyddadwy ar gyfer pob technoleg, ac yn bwrw ymlaen ag egwyddor cynllunio gofodol er mwyn cyflawni ein polisi ynni glân.

2. Credwn y bydd y polisi a’r cyngor cynllunio diwygiedig yn darparu fframwaith cynllunio a fydd yn hwyluso ein hamcan datblygu cynaliadwy a’r strategaeth ynni er mwyn i Gymru fod yn esiampl i weddill y byd o ran ynni glân erbyn 2010.

3. Ym Mhapur Gwyn y DU ar Ynni ac yn Strategaeth Ynni Llywodraeth y Cynulliad mae gostwng lefelau carbon wrth wraidd y penderfyniadau a wneir ynghylch y ffordd yr ydym yn creu ac yn defnyddio ynni. Ond i Gymru, fel unrhyw wlad arall, mae cyflenwad ynni digonol a dibynadwy’n bwysig er mwyn hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd.
 
4. Mae’n rhaid i ni felly ddod o hyd i ffyrdd o ostwng gollyngiadau carbon yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy. Golyga hynny fod yn rhaid chwilio am ffyrdd cost effeithiol ond glanach o gynhyrchu ynni yng Nghymru ac felly hybu twf a ffyniant economaidd heb niweidio’r amgylchedd.

5. Dyma’r her sydd wrth wraidd ein Strategaeth Ynni. Mae’r strategaeth honno’n ymwneud yn anad dim â datblygu ynni adnewyddadwy glân, ymgyrch gryfach dros effeithlonrwydd ynni a gwella’r seilwaith a fydd yn ein galluogi i ddangos esiampl o ran symud tuag at ddyfodol carbon isel.

6. Mae ein targedau meincnod ar gyfer trydan adnewyddadwy o 4TWh y flwyddyn hyd 2010 a 7TWh hyd 2020 yn rhoi i Gymru gyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac ar yr un pryd yn cyflawni ein dyletswydd o ran datblygu cynaliadwy.

7. Mae datblygu 4TWh o ynni adnewyddadwy’n golygu capasiti o tua 1,500 MW. Yng Nghymru, ar hyn o bryd mae capasiti wedi’i osod o 381MW o ran ynni gwynt ar y tir a phwer trydan dwr, sef tua 1.18TWh. Felly mae angen ychydig dros 1,000 MW (tua 2.62TWh, yn dibynnu ar ffactorau llwyth sylfaenol) o gapasiti adnewyddadwy ychwanegol er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer 2010.

8. Mae yng Nghymru ddigonedd o adnoddau adnewyddadwy, rhai’n gludadwy a rhai ar safleoedd penodol, a phob un â sylfaen gostau wahanol. Ar y wyneb mae hynny’n awgrymu bod amryw o opsiynau technolegol ar gael er mwyn cyrraedd targed 2010. Fodd bynnag, wrth ystyried y technolegau a all gyflawni targed 2010, bu’n rhaid i ni ystyried marchnad ynni gystadleuol y DU a statws masnachol technolegau adnewyddadwy.

9. Ynni gwynt ar y tir yw’r unig dechnoleg ynni adnewyddadwy masnachol sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd. Mae ynni gwynt ar y môr yn dechnoleg sy’n datblygu ac ni all gystadlu’n fasnachol ag ynni gwynt ar y tir ar hyn o bryd heb gymorth grant. Ystyrier prosiectau Rownd 1 ffermydd gwynt ar y môr. Mae’r holl bwer trydan dwr sylweddol yng Nghymru eisoes wedi’i ddatblygu ac ychydig o le sydd i’w ddatblygu ymhellach. Mae defnyddio bio-màs i gynhyrchu trydan am brisiau cystadleuol yn dal i fod yn her. Mae Technolegau Tonnau a Llanw a Thrai yn dal i ddatblygu ac mae tipyn o ffordd i fynd cyn y gellir eu cymhwyso’n fasnachol. Mae ffotofoltäeg (PV) yn ddiddorol ar raddfa fach, ond nid yw hynny’n fasnachol hyfyw y tu allan i systemau adeiladu. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o botensial hirdymor iddynt a chroesawn yn fawr fuddsoddiad Sharp mewn gweithgynhyrchu systemau PV yn Wrecsam.

10. Ein casgliad felly yw mai ynni gwynt ar y tir yw’r brif dechnoleg adnewyddadwy a all gyfrannu’n anad dim at gyrraedd targed 2010 ym marchnad ynni’r DU ar hyn o bryd. Bydd gan dechnolegau eraill gyfraniad gwerthfawr ond cyfyngedig i’w wneud ond bydd hynny’n dibynnu i raddau helaeth ar gael cymorth grant digonol.

11. Cadarnheir y farn honno i raddau helaeth gan yr Adolygiad Arloesedd Ynni Adnewyddadwy a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon a’r DTI ac a ddaeth i ben ym mis Chwefror eleni. Un o’r prif gasgliadau oedd mai ynni gwynt, ar y tir ac ar y môr, ar hyn o bryd yw’r unig dechnoleg raddadwy a all sicrhau’r rhan fwyaf o’r twf sydd ei angen o ran ynni adnewyddadwy i gyrraedd targed 2010 a pharhau i fod yn brif dechnoleg hyd at 2020. Rydym yn falch bod fferm wynt gyntaf y DU ar y môr yng Ngogledd Cymru, ond nid ydym yn llwyr gefnogi optimistiaeth yr adroddiad ynghylch rhoi ar waith ffermydd gwynt mawr iawn ar y môr erbyn 2010. Rydym yn ymwybodol iawn y bydd yn rhaid cynnal asesiad amgylcheddol strategol llawn cyn lleoli rhagor o safleoedd oddi ar ein harfordir.

12. Er mwyn pennu faint o wynt y bydd ei angen ar y tir i gyfrannu at darged 2010, buom yn ystyried:

 Pa dechnolegau sy’n cynhyrchu trydan yn fasnachol ar y farchnad;
 y ffactorau sy’n cyfyngu ar ddatblygu adnoddau adnewyddadwy yng Nghymru a dynodiadau amgylcheddol o arwyddocâd cenedlaethol;
 yr ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a’r cynlluniau a gafodd ganiatâd;
 seilwaith y grid yng Nghymru a materion yn ymwneud â chapasiti’r gwifrau;  
 portffolio’r prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu datblygu yng Nghymru erbyn 2010.

13. Wedi ystyried hyn oll, rhagwelwn y bydd angen datblygu ynni adnewyddadwy er mwyn cyrraedd y targed o 4TWh erbyn 2010 fel a ganlyn:

 Ynni gwynt ar y tir ar raddfa fawr 800 MW
 Technolegau eraill (gan gynnwys ynni gwynt ar y môr, safleoedd tir llwyd/cymunedol, bio-màs a PV) 200 MW.

14. Felly, er mwyn cyrraedd targedau meincnod 2010 credwn bod angen datblygu o leiaf 800 MW o ynni gwynt ar y tir yng Nghymru yn y mannau chwilio strategol a nodwyd yn y polisi cynllunio.

15. Hyd yma, datblygwyd ffermydd gwynt ar y tir mewn ffordd ad-hoc a thameidiog. Drwy’r polisi cynllunio hwn rydym am hybu i’r eithaf gyfleoedd cadarnhaol i ddatblygu ynni adnewyddadwy gan effeithio cyn lleied ag y bo modd ar ein hamgylchedd gwerthfawr.

16. Gall datblygiadau ym maes ynni adnewyddadwy greu cyfleoedd i Gymru, er enghraifft drwy weithgynhyrchu ac ychwanegu gwerth yn y gadwyn gyflenwi a chymunedol. Gallant gynnig cyfleoedd economaidd a ffordd o greu amgylchedd glanach. Credwn y dylai cymunedau lleol yng Nghymru gael manteision gwirioneddol o unrhyw ddatblygiadau, yn unol â’r hyn a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd megis Navarre yn Sbaen. Disgwyliwn i unrhyw ddatblygiadau o’r fath yng Nghymru wneud hynny hefyd. Gall cymunedau’n benodol fod ar eu hennill o gyfuno datblygiadau ynni adnewyddadwy â gweithgareddau eraill ac rydym am weld cymunedau’n elwa i’r eithaf ar ddatblygiadau adnewyddadwy yn y dyfodol. Fe ddylai hynny hefyd hyrwyddo ein hamcanion o ran adfywio ac amrywiaeth.

17. Rydym yn ffyddiog y bydd y polisi cynllunio’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran cyrraedd y targedau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd yn rhoi ffocws a fframwaith o ran lle y gellid datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr ar y tir gydag ystyriaeth briodol a mesurau diogelu.

18. Bydd yr ymgynghori ar TAN 8 yn rhoi cyfle i garfanau perthnasol fynegi eu barn ar y ffordd ymlaen a gynigiwn. Mae TAN 8 yn gyfle i Gymru fod ar flaen y gad o ran darparu canllawiau clir a diamwys i Awdurdodau Lleol, y diwydiant, y Llywodraeth a’u hasiantaethau er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

19. Mae hyn yn rhan o beirianwaith ehangach i gyflawni’r strategaeth ynni yng Nghymru. Mae’r tyrbin nwy mwyaf effeithlon y byd eisoes yn cael ei ddatblygu gan General Electric ym Maglan, ac mae buddsoddiadau LNG enfawr ar y gweill gan Exxon, Petroplus ac NGC Transco yn Aberdaugleddau a’r cyffiniau, a mynegwyd diddordeb tebyg yn Ynys Môn. Soniais eisoes am ddatblygiad cyffrous Sharp a fferm wynt gyntaf y DU ar y môr yn y gogledd. Gyda chymorth Amcan Un, y gobaith cyn hir yw sefydlu Canolfan Ymchwil Ynni Cymru yn ein prifysgolion a Thecniwm ynni yn Sir Benfro. Ac fe ddylai TAN 8 beri bod ein capasiti ynni gwynt ar y tir yn cynyddu’n gyflym o’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, sef 173Mw wedi’i osod a 120 â chaniatâd.

20. Byddwn yn ymgynghori hefyd cyn hir ar fap ynni hirdymor, a fydd yn edrych ar yr opsiynau o ran rhoi ein strategaeth ynni ar waith. Y gobaith yw y bydd yn cymell diwydiant, asiantaethau a grwpiau rhanddeiliaid i gymryd mwy o ran yn hyn oll. Bydd yn canolbwyntio ar faterion megis gollyngiadau carbon, cyflenwad sicr ac ati, a manteision economaidd drwy ddatblygu ynni glân ac amrywiol i Gymru. Ar yr un pryd bydd yn annog ac yn cefnogi technolegau’r dyfodol drwy raglen o arloesi ac ymchwil a datblygu.


The hyperlink below will take you to the following documents:

Renewable Energy Consultation covering letter
Draft Tan 8
Draft Tan 8 Map 1
Draft Tan 8 Map 2
Draft MIPPS
Draft MIPPS Map 12.1  

http://www.wales.gov.uk/subiplanning/content/tans/tan08/mipps-index-e.htm