Skip to content

Ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar Weithredu Strwythurau Rheoli Gwleidyddol Newydd o fewn Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r adroddiad hwn ar gyflwr y gweithdrefnau penderfynu mewn llywodraeth leol yn amserol ac i’w groesawu. Mae’n waith da, sy’n seiliedig ar gasglu tystiolaeth ac ymchwil drwyadl, ac mae’n dod i gasgliadau pendant a chadarnhaol. Mae’n amserol gan ein bod newydd gael etholiadau i’r holl gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru ac, oherwydd hynny, mae hon yn adeg ragorol i adolygu’r gwersi a ddysgwyd yn y blynyddoedd diwethaf a gweld a oes angen unrhyw newidiadau i’r arferion presennol, y gall y cynghorau newydd eu hystyried.


Yr oedd cyflwyno trefniadau gwleidyddol newydd drwy ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn newid sylfaenol i’r modd yr oedd llywodraeth leol yn gweithredu. Am y tro cyntaf, yr oedd y cyhoedd yn gallu gweld pwy yn union a oedd yn gyfrifol am benderfyniadau pwysig ac, mewn llawer achos, cynghorwyr unigol a’i gwnaeth. Yr oedd hyn yn peri i’r system fod yn fwy tryloyw. Mae penderfyniadau gan gabinet, neu aelodau cabinet, yn debygol o gael eu gwneud yn gyflymach nag o’r blaen, sy’n awgrymu y gwelir gwell effeithlonrwydd.

Gwn hefyd na chafodd y trefniadau newydd eu cyflwyno yn gwbl ddidrafferth, ac mae hynny’n ymwneud i ryw raddau â’r hyn y mae’r cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r cabinet neu’r bwrdd yn ei wneud â’u hamser. Yr wyf yn falch bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gallu ystyried y materion dan sylw’n fanwl. Mae wedi ymdrin â hyn yn ymarferol, heb geisio troi’r cloc yn ôl, ond drwy wneud gwelliannau lle’r oedd eu hangen. Fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, dymunaf ddiolch iddo am ei waith a’i ddull trylwyr o weithredu.


Mae fy natganiad ysgrifenedig yn egluro’n fanwl yr hyn y bwriadaf ei wneud mewn ymateb i’r adroddiad. Nid oes diben trafod pob manylyn yn awr. Nid wyf yn gwrthod unrhyw argymhellion. Mae rhai ohonynt yn gofyn am waith gyda’n partneriaid ym maes llywodraeth leol ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i hyrwyddo addysg a datblygiad aelodau etholedig, yn enwedig y rhai a etholwyd o’r newydd y mis diwethaf. Mae eraill yn ymdrin â’r modd y mae cynghorau’n ymddwyn ac yn rhoi gwybod i eraill am yr hyn y maent yn ei wneud a’r modd y maent yn ei wneud.


Yr wyf yn falch bod y pwyllgor wedi rhoi llawer o sylw i’r gwaith o graffu, ac nid yw hynny’n peri syndod o gofio mai dyma yw un o brif rolau’r pwyllgor pwnc. Heblaw yn achos y cynghorau hynny yng Nghymru sy’n dilyn y pedwerydd dewis, lle y mae gweithdrefnau’n cael eu rheoli’n bennaf gan ein rheoliadau ni, prin yw pwer statudol y Cynulliad dros weithrediad y trefniadau craffu. Gobeithiaf y gallwn ddwyn perswâd ar lywodraeth leol a gwella ein canllawiau fel y bydd arferion gorau’n cael eu mabwysiadu ledled Cymru. Hoffwn drafod hynny ymhellach gyda’r Comisiwn Archwilio cyn symud ymlaen ar hyn gan ei fod wedi ystyried yn fanwl y modd y mae arferion gorau’n gweithio’n lleol.


Un mater sy’n arbennig o ddyrys yw dyrannu cadeiryddiaeth pwyllgorau craffu. Mae’r pedwerydd dewis yn eu dyrannu eisoes yn ôl cydbwysedd gwleidyddol, ond cafwyd problemau mewn mannau eraill. Mewn rhai achosion, gwrthododd y gwrthbleidiau dderbyn cadeiryddiaeth pwyllgorau. Mewn eraill, am ba bynnag reswm, gwnaeth y pleidiau a oedd yn rheoli yr hyn a wnaethant erioed o dan yr hen system pwyllgorau a rhoi’r gadeiryddiaeth i’w haelodau eu hunain.


Mae’r adroddiad yn nodi’n gywir mai gan San Steffan y mae’r pwer i newid hynny, pe bai’n dymuno. Ni chredaf y gellir cael cadeiryddion da ar bwyllgorau craffu o’r blaid sy’n rheoli—ac yr wyf yn siwr y bydd y rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad yn cytuno â mi ar hynny—ond mae’n bwysig bod y cyhoedd yn gweld nad oes unrhyw dwyllo’n digwydd wrth graffu. Gan hynny, yr wyf o blaid y syniad o ddyrannu’r gadeiryddiaeth yn ôl cydbwysedd gwleidyddol, neu hyd yn oed ymhellach na chydbwysedd gwleidyddol os oes mwyafrif mawr gan y grwp sy’n rheoli. Bwriadaf sicrhau bod y canllawiau’n cael eu cryfhau ac y cynhelir trafodaethau gyda CLlLC a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog i ystyried deddfu ar y mater hwn.


Ni ddylai cynghorau ofni craffu effeithiol. Gwn fod hwn yn gysyniad newydd iddynt ond, yn y pen draw, dylai arwain at well penderfyniadau. Nid ymrwymaf yn llwyr ynghylch y mater sy’n ymwneud â hawl cadeiryddion i atal galw penderfyniadau i mewn. Cytunaf â’r egwyddor a’r farn am hyn ond, unwaith eto, ystyriaf farn llywodraeth leol a’r Comisiwn Archwilio ar hynny. Wrth hybu’r broses craffu, dylem sicrhau hefyd fod mesurau ar waith i atal unrhyw gamddefnydd ohoni ac ni fyddwn am agor bwlch a allai arwain at atgyfeirio gwacsaw, a fyddai’n amharu ar effeithlondeb y cyngor.


Yn olaf, gwnaf sylw am y cynnig y dylem lacio’r rheolau ynghylch newid trefniadau. Ar adeg cyflwyno’r rheoliadau presennol, yr oedd rheswm da dros eu gwneud yn rhai eithaf cyfyngiadol. Yr oedd fy rhagflaenydd am ganiatáu cyfnod o amser pan fyddai awdurdodau—nad oedd pob un ohonynt wedi croesawu’r trefniadau newydd—yn peri i’w cyfansoddiadau newydd weithio, gan adael iddynt wneud newidiadau eilaidd, y byddai rhai ohonynt yn gofyn am ganiatâd gan y Cynulliad. Yr oedd y sefyllfa yn Lloegr yn wahanol—yr oeddent yn delio â channoedd o gynghorau o wahanol fathau a meintiau, ac ni fuasai’n ymarferol gweithredu mewn modd mor dynn.


Mae’r sefyllfa yng Nghymru wedi newid. Cawsom rai blynyddoedd sefydlog, ond cawsom rai newidiadau eithaf dramatig yng ngwneuthuriad gwleidyddol ein cynghorau hefyd. Yn ddigon naturiol, mae rhai ohonynt am wneud newidiadau i’w trefniadau cyfansoddiadol. Yr wyf am roi rhyddid iddynt wneud hynny, ar yr amod y ceir ymgynghori cyhoeddus a chymeradwyaeth gan y Cynulliad i’r newidiadau mwyaf sylweddol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â newid y model gwleidyddol sylfaenol. Byddaf yn cynnig newidiadau i’r rheoliadau gyda hyn. Adroddaf i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cynnydd a wneuthum mewn ymateb i’w holl argymhellion.