Skip to content

Ariannu Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodreath Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus


Mae hwn yn ddatganiad gan y Cabinet ar y ddarpariaeth o £22 miliwn sy'n deillio o adroddiad rhag-gyllidebol Gordon Brown. Ar 10 Rhagfyr, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ddyraniadau uwch i lywodraeth yn Lloegr, a arweiniodd at ychwanegu £22.382 miliwn arall at y cyllid sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer 2004-05. O'r arian ychwanegol hwnnw, mae £20.026 miliwn yn deillio o gynnydd yn y cyllid i awdurdodau lleol yn Lloegr.

Hoffwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â dyrannu'r arian ychwanegol. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu y caiff £20 miliwn o'r arian ychwanegol ei ddefnyddio i roi mwy o gyllid i lywodraeth leol yn 2004-05. Ni fu'n bosibl ystyried rhoi'r swm ychwanegol hwn drwy'r grant cynnal refeniw, gan fod y Cynulliad wedi gwneud penderfyniad terfynol ar y grant hwn ar 10 Rhagfyr a bod statud yn ein hatal rhag newid lefel y grant y penderfynwyd arno.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu y caiff awdurdodau lleol £19.508 miliwn yn ychwanegol ar ffurf grant arbennig i gynyddu'r capasiti i ofalu am bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau. Wrth wneud y penderfyniad hwn, llywiwyd ein barn gryn dipyn gan yr adroddiad ar anghenion gwariant a gyflwynwyd i Lywodraeth y Cynulliad y llynedd i'w helpu i baratoi ar gyfer cyllideb 2004-05. Bu i'r grant cynnal refeniw ymateb i'r pwysau â'r flaenoriaeth uchaf a nodwyd o ran cyflogau, prisiau, pensiynau a llwyth gwaith athrawon. Er bod hyn yn ddigonol i gynnal y capasiti presennol mewn gwasanaethau cymdeithasol nid oedd o reidrwydd yn darparu ar gyfer y capasiti cynyddol a oedd yn flaenoriaeth a nodwyd ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol.

Drwy ddiffinio diben y grant penodol ar gyfer yr henoed yn fras, bydd cyfle i awdurdodau lleol arloesi ac ymateb i amgylchiadau lleol. Mae telerau'r grant yn cael eu hystyried gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o bryd, ond rhagwelir y gall gynnal gwariant ym maes gofal cartref a gofal preswyl, addasu tai a buddsoddiadau newydd ac mewn gwahanol fathau o gymorth i gymunedau. I'r graddau yr oedd awdurdodau lleol yn bwriadu ariannu'r capasiti newydd yn y meysydd hyn drwy gynyddu'r dreth gyngor, effaith y grant newydd hwn fydd sicrhau na fydd y dreth gyngor yn cyrraedd y lefelau y byddai wedi eu cyrraedd fel arall. Fe'n cynghorwyd yn adroddiad Wanless y dylem fuddsoddi mewn mathau o ofal sy'n lleihau'r galw am ofal yn yr ysbyty. Bydd y grant hwn yn cael yr effaith honno. Bydd y fformiwla a ddefnyddir i ddosbarthu'r grant cymdeithasol hwn yn seiliedig ar y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo'r angen am wasanaethau cymdeithasol i'r henoed yn y grant cynnal refeniw. Mae'n ffordd o ddosbarthu arian yr ydym wedi cytuno arni gyda llywodraeth leol o'r blaen ar ôl ymgynghori.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn dyrannu dros £0.5 miliwn i gynyddu'r grant amddifadedd yn unol â chwyddiant. Bydd hyn yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn unol ag addewid Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu gwell Cymru i bawb. Dosberthir yr arian hwn yn seiliedig ar fynegai amlamddifadedd Cymru, sy'n adlewyrchu amrywiaeth eang o ddangosyddion amddifadedd.

Caiff y gwasanaeth iechyd £2 filiwn i gefnogi gwasanaethau arennol. Bydd yr arian yn fodd inni barhau â'r lefel bresennol o driniaeth yng nghanolfan driniaeth Abertawe yn Nhreforys, sef tair sesiwn yr wythnos, a chynyddu nifer y sesiynau yng nghanolfan Caerdydd o ddwy i dair yr wythnos. Mae darparu gwasanaethau o safon dda i bobl sy'n dioddef o glefyd yr arennau yn flaenoriaeth ym marn Llywodraeth y Cynulliad. Bydd hyn yn sicrhau bod y cymorth a roddir ar hyn o bryd i gleifion y mae angen dialysis arnynt yn parhau.

Yn olaf, byddaf yn dyrannu tua £350,000 arall i'r gyllideb diwylliant i helpu i ariannu rhaglenni sy'n datblygu cyfleoedd nofio am ddim, gan gynnwys cyfleoedd i bobl hyn. Mae hyn yn unol â'n blaenoriaeth i gefnogi ffyrdd o fyw sy'n rhoi cyfle i bobl fod yn iachach.

Mae £22 miliwn yn swm ychwanegol defnyddiol i'n cyllideb ar gyfer 2004-05, a fydd bellach yn fwy na £11.9 biliwn. Mae'r dyraniadau a gyhoeddais yn ymateb i anghenion gwirioneddol pobl Cymru mewn ffordd sy'n cefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth Cynulliad hon.