Skip to content

Fesurau I Ddiwygio'r Pac

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gan y Gweinidog Dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Ym mis Chwefror cyhoeddais y byddai Cymru yn mabwysiadu'r model hanesyddol ar gyfer y Taliad Sengl. Erbyn hyn mae nifer o faterion pwysig eraill sy'n ymwneud â diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Gallaf gyhoeddi dewis ddull Llywodraeth Cynulliad Cymru o symud ymlaen yn hyn o beth.

Rwyf o'r farn bod y pecyn hwn o benderfyniadau yn egluro ymrwymiad y Llywodraeth i wella'r amgylchedd ac i'r egwyddor o roi taliadau i ffermwyr sy'n cyfateb i'r manteision cyhoeddus sy'n cael eu sicrhau ganddynt.

Yn gyntaf, roedd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2003 yn dangos cefnogaeth gref i gynllun amaeth-amgylcheddol sylfaenol a fyddai'n rhoi cyfleoedd ehangach i ffermwyr yng Nghymru gymryd camau amaeth-amgylcheddol cadarnhaol ar eu fferm. Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu cyflwyno cynllun sylfaenol. Bydd y cynllun, a elwir yn Tir Cynnal, yn ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy'n cymryd rhan ddilyn cyfres o amodau amgylcheddol ar eu tir, gyda'r nod o ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt, tirlun traddodiadol, henebion a nodweddion hanesyddol yn ogystal â lleihau llygredd a chadw hawliau tramwy.

Fy mwriad yw lansio'r cynllun ar draws Cymru yng ngwanwyn 2005. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, bydd fy swyddogion yn cydweithio â ffermwyr mewn dwy ardal o Gymru i brofi manylion y cynllun.  

Y targed yw gwneud 60% o'r tir amaethyddol yng Nghymru nad yw eisoes mewn cynllun amaeth-amgylcheddol yn rhan o Dir Cynnal o fewn dwy neu dair blynedd gyntaf gweithredu'r cynllun. Mae hyn yn golygu tua 10,000 - 12,000 o ffermydd. Er bod yr amodau amgylcheddol yn ymwneud â'r fferm gyfan, mae'r dull talu arfaethedig ar gyfer y cynllun yn cyfyngu'r cyllid i 100 o hectarau. Byddai'r dull gweithredu yn canolbwyntio'r arian ar ffermydd bach a chanolig, hy y fferm deulu draddodiadol sy'n gonglfaen amaethyddiaeth yng Nghymru.

Mae disgwyl i Tir Cynnal gostio £20m y flwyddyn unwaith y bydd wedi'i sefydlu'n llawn a bydd yn cael 50% o'i gyllid o ffynonellau ychwanegol a ddarperir gan y Trysorlys a 50% drwy fodiwleiddio (neu frigdorri) taliadau PAC i ffermwyr.

Rwy'n hynod o falch o fod wedi gallu sicrhau'r cymorth hwn o'r Trysorlys sy'n ychwanegol at gyllideb graidd y Cynulliad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymeradwyo'n gryf egwyddor sylfaenol diwygio'r PAC, sef symud cymorth oddi wrth gymorthdaliadau cynhyrchu traddodiadol i fesurau datblygu gwledig gan gynnwys diogelu'r amgylchedd. Rwyf hefyd o'r farn bod hon yn fargen dda iawn ar gyfer teuluoedd sy'n ffermio. Drwy ymuno â Tir Cynnal, byddant yn gallu ehangu'r gwaith y maent eisoes yn ei wneud i ddiogelu'r amgylchedd ac yn cael eu talu am wneud hynny.

Bydd yr UE yn cyflwyno'r drefn o wneud modiwleiddio taliadau PAC i ffermwyr yn orfodol yn 2005. Bydd rheoliadau dros dro hefyd yn caniatáu modiwleiddio ychwanegol uwchlaw'r cyfraddau hyn i ariannu cymorth ar gyfer yr amgylchedd. Os bydd yr ymateb i Tir Cynnal yn cyrraedd y targedau a ragwelir, amcangyfrifir y bydd angen i Gymru fodiwleiddio ar lefel o tua 10% erbyn 2006.

Bydd y rheoliadau, sy'n cael eu cwblhau'n derfynol gan y Comisiwn ar hyn o bryd, yn caniatáu i wahanol gyfraddau modiwleiddio gael eu cymhwyso gan y pedair gweinyddiaeth o fewn y DU. Bydd y penderfyniad terfynol ar gyfraddau modiwleiddio yng Nghymru yn dibynnu ar gyflwyno'r rheoliadau hyn yn ôl y disgwyl yn ogystal â'r ymateb i'r cynllun.

Fel rhan o'r pecyn i ddiwygio'r PAC, mae yna ddisgresiwn i sefydlu amlen genedlaethol i fynd i'r afael ag agweddau amgylcheddol posibl ar drefn newydd y Taliad Sengl neu i helpu mentrau marchnata neu busnes. Byddai'r amlen yn cael ei hariannu drwy dynnu hyd at 10% o'r Taliad a wneir i ffermwyr.

Rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen ag Amlen Genedlaethol Cymru yng ngoleuni'r modiwleiddio ychwanegol y bydd ei angen er mwyn cynnal y cynllun sylfaenol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ychydig o gymorth sydd o fewn y gymuned ffermio ar gyfer cysyniad yr amlen.  Bydd Tir Cynnal yn rhoi cyfle am sylfaen ehangach o ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn y gwaith o weithredu manteision amylcheddol cyhoeddus. Byddai sylfaen fynediad fwy cyfyngedig i'r defnydd o amlen a byddai hynny'n creu beichiau gweinyddol ychwanegol ar lefel y fferm, sy'n anghyson â symleiddio taliadau fferm sydd wrth wraidd y broses o ddiwygio'r PAC. Rwyf wedi cymryd i ystyriaeth hefyd y safbwyntiau a gyflwynwyd i'r cynigion ymgynghorol a gyhoeddwyd ar sut y gellid gweithredu amlen yng Nghymru.

Daeth ymgynghoriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd i ben ar gynigion ar gyfer y drefn drawsgydymffurfio PAC newydd a'r defnydd o gronfa genedlaethol ar 2 Mehefin. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi manylion ar yr agweddau gweithredol ar drawsgydymffurfio a'r gronfa genedlaethol ddiwedd yr haf.