Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Lywydd, mae’r amser wedi dod i symud y prosiect datganoli yn ei flaen. Hoffwn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer llywodraeth yng Nghymru i’r Cynulliad, gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad ein bod yn bwriadu ymgorffori’r prif gwangos gweithredol o fewn Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, a’r Cyngor Cenedlaethol—ELWa yn peidio â bod yn gwangos erbyn 1 Ebrill 2006. Bydd eu swyddi a’r gwaith a wnânt yn parhau, wrth gwrs, ond o hynny ymlaen y Gweinidog perthnasol fydd yn atebol am y gwaith hwnnw, nid eu byrddau gweithredol. Siaradaf ar ran fy holl gyd-Weinidogion wrth dalu teyrnged i aelodau bwrdd y tri chorff hynny am eu gwasanaeth ardderchog wrth ddatblygu economi, sgiliau a chymwysterau Cymru ac wrth drawsnewid eu sefydliadau eu hunain. Yn bwysicach na dim, talaf deyrnged i staff y tri chorff y bydd eu gwaith yn parhau, fel yn awr, drwy’r cyfnod trosiannol o 20 mis a gyhoeddwyd gennyf, ac ymhell i’r dyfodol.
Mae’n hollol briodol gwneud y cyhoeddiad hwn i’r Cynulliad er mwyn caniatáu craffu democrataidd llawn cyn gynted ag sy’n ymarferol. Yr wyf eisoes wedi cyfeirio’n gyhoeddus at fwriad y Llywodraeth i gyhoeddi dogfen yn yr hydref, yn nodi ein hymagwedd tuag at wasanaethau cyhoeddus a sut y dylid eu diwygio yng Nghymru.
Ni fyddai haf o ddyfalu ac ansicrwydd, gan geisio rhagweld beth fydd yn natganiad yr hydref, o fudd—[Torri ar draws.]
Y Llywydd: Trefn. Mae’r Prif Weinidog, yn fy marn i, yn gwneud datganiad diddorol. Efallai y bydd yn werth gwrando arno.
Y Prif Weinidog: Felly, o ran y WDA, y bwrdd croeso a’r Cyngor Cenedlaethol—ELWa, mae’r penderfyniad wedi’i wneud, a bydd hynny yn rhoi sicrwydd yn awr ynglyn â’u dyfodol. Bydd y WDA, y bwrdd croeso ac ELWA yn peidio â bod yn gwangos a chaiff eu staff a’r gwaith a wnânt eu trosglwyddo i adrannau perthnasol gweinyddiaeth y Cynulliad. Bydd y strategaethau y cytunwyd arnynt a’u partneriaethau â busnes a sefydliadau eraill yn parhau fel y maent yn awr yn ystod y cyfnod trosiannol hwnnw, a hefyd eu cyfrifoldebau gweithredol, o dan ein cyfarwyddyd strategol, wrth inni ymgynghori ar holl fanylion y broses drosglwyddo, deddfu yn eu cylch yma ac yna eu rhoi ar waith.
Mae parhad busnes o’r pwys mwyaf yn ystod y cyfnod trosiannol. Yn ystod yr 20 mis nesaf, bydd yr holl benderfyniadau a wneir ganddynt ynglyn â rhoi grantiau neu gontractau ac ati yn parhau i gael eu gwneud yn ôl yr arfer. Ni fwriedir cael gwared ar enwau brand sydd o werth gwirioneddol yn y farchnad fyd-eang. Hyd yn oed yn wyneb y targed ymestynnol o’u hymgorffori erbyn Ebrill 2006, yr wyf am i’r cwmnïau, y busnesau a’r cwmnïau hyfforddi sy’n gleientiaid i’r WDA, y bwrdd croeso ac ELWA wybod y bydd gwasanaethau’n parhau ac y cedwir at bob penderfyniad ynglyn â grantiau a chontractau. Dim ond pan fyddant yn peidio â bodoli y daw eu cyfrifoldebau fel cwangos i ben.
Mae gan y WDA a’r bwrdd croeso record hir o lwyddiant o ran gweddnewid ein heconomi. Er mai sefydliad newydd yw ELWA, a grëwyd drwy gyfuno hanner dwsin o gwangos, yr wyf yn hollol ffyddiog y gall bwrdd nodedig ac uwch reolwyr y Cyngor Cenedlaethol—ELWa reoli’r broses o droi’n adain weithredol o Lywodraeth yng Nghymru, gydag atebolrwydd gweinidogol llawn, gyda’r un afael strategol gref a welwyd wrth iddynt reoli newidiadau trefniadol diweddar y sefydliad. Yn y dyfodol, caiff y cyfeiriad strategol ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru ei osod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad. Caiff trafodaethau eu cynnal yn awr ynglyn â’r hyn y mae angen ei wneud i roi’r strategaeth honno ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol.
Staff yw’r ased pwysicaf o ran cyflawni gwasanaethau cyhoeddus, beth bynnag yw eu statws fel gweision cyhoeddus. Pan fo Gweinidogion yn cyhoeddi newidiadau mewn statws staff, yn naturiol mae’n achosi pryder i’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd eu sgiliau a’u galluoedd hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol ac, fel cyflogwyr cyfrifol, byddwn yn sicrhau bod ein staff presennol a staff y cwangos yn cael eu trin yn deg a chyda chysondeb drwy gydol y broses drosglwyddo. Bydd eu hawliau o dan Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Gwarchod Cyflogaeth) 1981 yn cael eu parchu.
Bydd yn rhaid i staff a fydd yn trosglwyddo i adrannau Llywodraeth y Cynulliad fod yr un mor hyblyg ag ydynt heddiw, gyda’r un ffocws masnachol.
Staff transferring to Assembly Government departments will need to be as flexible and commercially focused as they are today.
Nid y ffaith ein bod yn cael gwared ar sefydliadau yw gwir arwyddocâd fy nghyhoeddiad heddiw, ond ein gweledigaeth o’r manteision y bydd y cyfuniad hwn yn eu cyflawni.
Bydd i Lywodraeth y Cynulliad wedd fwy llywodraethol, oherwydd drwy uno’r staff a gyflogir ar hyn o bryd gan y cwangos gyda’n hadrannau presennol, bydd gennym lawer mwy o rym, mwy o swmp, a mwy o allu i lunio polisïau unigryw sydd wedi’u hanelu at Gymru. Bydd mwy o gyfleoedd i staff arbenigo ym meysydd polisi yn eu gyrfaoedd a llai o’r gwahaniaethu ffug rhwng llunio polisïau a’u rhoi ar waith. Bydd yn ein galluogi i uno swyddogaethau gweinyddol, systemau technoleg gwybodaeth a chaffael, a chael gwell gwerth am arian.
Bydd penderfyniadau ynghylch cael gwared ar gwangos eraill yn dibynnu ar y gwaith manwl pellach ar y cyrff sy’n weddill, a pha mor debyg ydynt i’r tri a nodwyd heddiw. Os bydd angen i gyrff eraill aros yn annibynnol ar reolaeth ac atebolrwydd gweinidogion, yna felly y bo. Fodd bynnag, ni chredaf y bydd yn gymwys mewn sawl achos, oherwydd mae’n bosibl y byddant yn cydweddu â’r ystod o fodelau asiantaeth neu gorff hyd braich a geir eisoes yn ein gweinyddiaeth, megis Cadw, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, MasnachCymru Rhyngwladol neu Fwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, neu Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru. O ran y cyhoedd, mae’r cyhoeddiad heddiw yn bwysig, gan y byddwn, drwy symleiddio strwythurau a phrosesau, yn symleiddio’r broses gwneud penderfyniadau a gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion defnyddwyr. Er enghraifft, a yw’n briodol bod yn rhaid i fuddsoddwyr negodi grant datblygu eiddo gyda’r WDA a grant cymorth rhanbarthol dewisol yn uniongyrchol gyda ni? Nac ydyw, wrth gwrs. Mae’r staff wedi sicrhau bod y system honno yn gweithio, ond mae’n system ddiffygiol. Lywydd, mae’r rhain yn ddiwygiadau pwysig. Gyda’i gilydd, mae’r tri chorff hyn yn cyfrif am ddwy ran o dair o dalaith y cwangos yng Nghymru. Maent yn cyflogi tua 1,600 o staff ac mae ganddynt wariant blynyddol gros o oddeutu £920 miliwn.
Bydd siâp ein sector cyhoeddus yn cael ei drawsnewid yn sylfaenol gan y cyhoeddiad hwn. Pan ddaw’r amser i’r Cynulliad drafod y Gorchmynion angenrheidiol i wireddu’r cyhoeddiad hwn, credaf y bydd cefnogaeth helaeth iddynt ar draws y Cynulliad, oherwydd byddant yn derbyn cefnogaeth pobl Cymru. Bydd pobl Cymru yn gweld bod talaith y cwangos yn dechrau dod i ben gyda’r cyhoeddiad hwn, a byddant yn cefnogi’r broses honno. Dim ond dechreuad yw hwn, ac ni fydd troi yn ôl.
Rhaid i’r Cynulliad hwn, gydag awdurdod ei fandad democrataidd, ddod yn gyfrifol ac yn atebol am bolisi cyhoeddus yng Nghymru. Gweinidogion a ddylai benderfynu ar bolisïau, a’r Cynulliad hwn a ddylai ein dwyn i gyfrif. O ganlyniad bydd llywodraeth symlach a mwy atebol i bobl ac i fusnesau yng Nghymru. Dyna pam y’i cymeradwyaf i’r Cynulliad hwn.