Skip to content

Ymateb i Ddatganiad Canghellor y Trysorlys ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Lywydd, diolch ichi am y cyfle i wneud datganiad ar ganlyniad adolygiad o wariant y Canghellor a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Yn gyntaf, yr wyf am amlinellu effaith yr adolygiad o wariant ar gyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Yna, rhoddaf fy sylwadau ar yr ofnau dealladwy, ond, wedi eu gorliwio, fe gredaf, sy’n bodoli ynghylch swyddi posibl a gollir yng Nghymru. Yn olaf, nodaf ymagwedd Llywodraeth y Cynulliad tuag at effeithlonrwydd yn y sector cyhoeddus.

Bydd adolygiad y Canghellor o wariant yn ychwanegu £2.5 biliwn at floc Cymru erbyn 2007-08. Dywedaf eto: mae hynny’n £2.5 biliwn ychwanegol i floc Cymru erbyn 2007-08. Mae hyn yn ganlyniad rhagorol i Gymru. Ers 1999, mae Cymru wedi elwa ar y twf gwirioneddol mwyaf cyson mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ers Llywodraeth Atlee. Dyma effaith Llafur mewn grym: twf gwirioneddol yn yr economi, twf gwirioneddol mewn gwasanaethau cyhoeddus, diweithdra isel, gweithgarwch economaidd mawr, chwyddiant isel, a chyfraddau llog isel. Yr ydym yn Llywodraeth radical, sy’n diwygio ac yn cyflawni.

Ar ôl twf cyflym yng ngwariant gwasanaethau cyhoeddus dros y pedair blynedd diwethaf, credwyd y byddai gwariant yn cael ei gynnal ar ei lefel uchel. Y gwirionedd yw bod disgwyl i floc Cymru barhau i gynyddu ar gyfartaledd o fwy na 4 y cant. Mae hynny yn dwf o 4 y cant yn fwy na chwyddiant, a mwy na 6 y cant o ran twf arian parod, ym mhob un o’r tair blynedd nesaf. Rhwng 1999 a 2008, pennwyd twf gwirioneddol ar fwy na 4 y cant ym mhob blwyddyn. Mae’r twf cryf, sefydlog, cynaliadwy hwn yn caniatáu ar gyfer cynllunio’n effeithiol gyda phartneriaid i sicrhau y darperir gwasanaethau gwell yn effeithiol. Mae’r adnoddau ychwanegol sy’n llifo i Gymru—£938 miliwn yn 2006-07, gan godi i £1,733 miliwn yn 2007-08—yn golygu y bydd ein cyllideb yn parhau i godi ymhell uwchben chwyddiant. Felly, fel y dywedais, erbyn 2007-08, bydd ein cyllideb £2.5 biliwn yn uwch nag y mae ar hyn o bryd.

Gan droi at anghenion arbennig ein rhaglenni gwariant Ewropeaidd, un o lwyddiannau Llywodraeth y Cynulliad fu cyflawni rhaglenni’r cronfeydd strwythurol. Hyd yma, yr ydym wedi cynnal tua 1,900 o brosiectau â’u gwerth yn gyfanswm o dros £900 miliwn, gan greu neu ddiogelu bron 65,000 o swyddi. Cydnabuwyd y record hon yn ddiweddar gan yr Undeb Ewropeaidd, a ddyfarnodd fonws perfformiad o £65 miliwn inni, a chan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o ran y ffordd yr ydym wedi cyflawni’r rhaglenni.

Mae ein trefniant unigryw gyda’r Trysorlys wedi arwain at wariant ychwanegol at y setliad Barnett arferol yn y ddau adolygiad o wariant diwethaf. Mae ailbrisio’r ewro wedi golygu bod gennym fwy o arian i’w wario yn rhaglenni’r cronfeydd strwythurol. Mae’r Canghellor nid yn unig wedi cytuno i ddarparu gwariant ar gyfer rhaglenni’r cronfeydd strwythurol—Barnett a mwy, os mynnwch—mae hefyd wedi cytuno i gynyddu’r gwariant ychwanegol hwnnw i ystyried gwerth uwch yr ewro. Gallech alw hyn yn Barnett a mwy a mwy. At ei gilydd, am y tair blynedd nesaf, bydd bloc Cymru yn cynnwys £555 miliwn yn ychwanegol at symiau canlyniadol Barnett i gynnal gwariant y cronfeydd strwythurol. Bydd y cronfeydd hyn yn ein galluogi i gyflawni tair blynedd nesaf y rhaglenni ac i barhau i ddod ag adfywiad a ffyniant economaidd i ddwy ran o dair o Gymru.

Yr ydym wedi gweithio’n galed gyda’n cyd-swyddogion yn Swyddfa Cymru i ddadlau dros yr arian ychwanegol hwn. Talaf deyrnged i’r Canghellor am wrando ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i staff, a diolchaf hefyd i’m gweision sifil am eu cyfraniad. Mae’r Canghellor a Llywodraeth y Cynulliad ill dau yn benderfynol o sicrhau bod y twf mewn gwariant cyhoeddus yn arwain at dwf gwirioneddol mewn gwasanaethau effeithiol, gan wella ansawdd bywyd i bawb a gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol cynaliadwy a diogel.
Cred y Canghellor y gellid gwneud gwell defnydd o’r 84,000 o swyddi yn adrannau Whitehall drwy eu symud i’r gwasanaethau rheng flaen. Bydd hyn yn creu anawsterau i unigolion, a bydd angen rheoli’r newid yn dda. Mae gan adrannau Whitehall swyddi gwasanaeth sifil yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaethau annatganoledig, a bydd angen inni nodi’n gynnar pa swyddi yn y gwasanaeth sifil yng Nghymru fydd mewn perygl. Byddwn yn gweithio gyda chyd-aelodau yn Whitehall ac undebau llafur i reoli unrhyw adleoli a meithrin sgiliau newydd. Yr wyf bob amser wedi pwysleisio ein bod yn gwerthfawrogi gweision sifil. Fe’u parchaf am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, ond mae newid yn nodwedd ar fywyd modern, a’n cyfrifoldeb ni, fel Llywodraeth, yw cefnogi cyflogeion yn y broses newid hon. Byddwn yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae swyddi Whitehall yng Nghymru yn tueddu i fod yn y rheng flaen yn fwy na’r rhai yn ne-ddwyrain Lloegr, a byddwn yn disgwyl i gyfran uwch o’n swyddi yn y gwasanaeth sifil yng Nghymru gael ei chadw.

Rhaid inni beidio ag anghofio bod adleoli gweision sifil o dde-ddwyrain Lloegr yn cynnig cyfleoedd inni. Argymhellodd adolygiad Lyons y dylai 20,000 o staff gael eu hadleoli erbyn 2010 a, chyda’n heconomi ffyniannus a’n hansawdd bywyd profedig, mae Cymru yn opsiwn sydd ar gael ac sy’n ddeniadol ar gyfer yr adleoli hwnnw. Yr ydym yn gwneud popeth y gallwn i ddenu’r swyddi hynny i Gymru.

Datganodd y Canghellor ei farn hefyd y gallai effeithlonrwydd, pe bwriedid ei wella yng ngwasanaeth sifil y DU, gael ei wella ac y dylai gael ei wella mewn rhannau eraill o’r Llywodraeth yn y DU—mewn llywodraeth leol a’r gweinyddiaethau datganoledig. O’r 2 filiwn o swyddi yn y sectorau hyn, amcangyfrifodd y gallai tua 1 y cant—20,000 o swyddi—gael eu torri neu eu hadleoli dros y tair blynedd nesaf. Dyna oedd ei amcangyfrif, sy’n cynnwys llywodraeth leol Lloegr yn ogystal â llywodraeth yng Nghymru a’r Alban. Dylwn nodi bod camgymeriad yng nghyhoeddiad y Trysorlys, sy’n disgrifio gweithwyr llywodraeth leol fel gweision sifil.

Awgrymwyd yn y Cyfarfod Llawn ddoe bod yr amcangyfrif hwn yn awgrymu targed penodol ar gyfer swyddi’r gwasanaeth sifil o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nid felly y mae. Bydd nifer y swyddi yn cynyddu neu’n gostwng yn ôl amcanion a blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ac yn ôl ein gwerthusiad o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni’r amcanion hynny. Bydd darllenwyr The Western Mail heddiw wedi nodi bod llefarydd ar ran y Trysorlys yn deall y ffaith gyfansoddiadol hon.


Mae Llywodraeth y Cynulliad yn llwyr ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o’r ansawdd gorau, gan wella effeithlonrwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yr ydym eisoes wedi cyhoeddi adolygiad sylfaenol o’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a’n nod yw rhyddhau cymaint o arian â phosibl i ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Yn ein hadolygiad o wariant, yn ein system gyllidebau, ac yn ein hadolygiad o wasanaethau cyhoeddus, yr ydym yn gweithredu’n gyfan gwbl ar ein liwt ein hunain ac er budd Cymru. Os oes gennym yr un ymrwymiad â Llywodraeth y DU i wasanaethau cyhoeddus a’u heffeithiolrwydd, mae hynny oherwydd y gwerthoedd a rannwn.

Byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau gwariant manwl yn yr hydref. Yr wyf yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o’r ansawdd gorau ledled Cymru mor effeithlon ac effeithiol ag unrhyw le arall yn y DU. Bydd twf gwirioneddol o 4 y cant mewn gwariant a gwariant ychwanegol y cronfeydd strwythurol yn arwain at fwy o wasanaethau a mwy o swyddi yn y rheng flaen. Yn yr hydref, byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau gwariant a’n cynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus ichi. Sail ein cynigion fydd twf cyson mewn gwariant cyhoeddus, a gyflawnir gan Lywodraeth Lafur a Changhellor Llafur y Trysorlys.