Sue Essex, Y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru ar gyfer 2005-06.
Y Setliad Cyffredinol
Y flwyddyn nesaf, ar ôl addasu ar gyfer trosglwydiadau, a darparu rhai adnoddau ychwanegol, caiff yr awdurdodau lleol yng Nghymru gynnydd cyfartalog o 5.3% ar setliad cymorth refeniw y flwyddyn flaenorol.
Wrth baratoi’r setliad terfynol rwyf wedi cymryd i ystyriaeth yr ymatebion a gefais trwy’r ymgynghori ar y setliad dros dro a’r £7.4 miliwn ychwanegol y bydd Cymru’n ei gael o ganlyniad i Gyhoeddiad y Canghellor cyn y Gyllideb. Yng ngoleuni hyn a’r trosglwyddiadau i’r setliad a nodwyd yn y gyllideb derfynol a gyhoeddwyd hefyd y mis diwethaf ceir cynnydd o 0.3% ar y swm a gyhoeddwyd yn y setliad dros dro. Yn ogystal rwyf wedi cynyddu 5% ar yr arian ar gyfer y grant amddifadedd sy’n darparu cymorth refeniw ychwanegol heb ei glustnodi ar gyfer yr awdurdodau mwyaf amddifad; ac rwyf wedi cynyddu 2.5% ar y Grant Cymell Perfformiad. Yn olaf, rwyf wedi llwyddo i sicrhau cynnydd o £0.4 miliwn yn yr arian newydd a gyhoeddwyd adeg cyhoeddiad y setliad dros dro ar gyfer Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau yr ac rwyf yn cyhoeddi am y tro cyntaf dosbarthu’r cymorth ychwanegol hwnnw sydd heb ei glustnodi.
I gyd mae hyn yn golygu fy mod yn cyhoeddi dosbarthu heddiw £14 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd yn y setliad dros dro.
Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau
Rwyf hefyd yn falch o ddarparu manylion pellach heddiw’r Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnes. Am y tro cyntaf rwyf yn cyhoeddi dosbarthu’r arian o £13.4 miliwn ar gyfer LABGI sydd ar gael yn 2005-2006.
Mae’r cynllun hwn yn anelu at wobrwyo’r cyfraniad a wneir gan yr awdurdodau lleol at ddatblygu economaidd. Trwy’r cynllun hwn mae dros £60 miliwn yn cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf, y tu allan i gyllideb arferol y Cynulliad i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru. Am na allwn ond amcangyfrif faint o dwf y bydd yr awdurdodau lleol yn ei gynhyrchu ar sail dadansoddiad o’r tueddiadau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyfanswm yr adnoddau ychwanegol sydd ar gael yn cael ei alw’n Wariant a Reolir yn Flynyddol ac mae’n ei adolygu ddwywaith y flwyddyn. Mae’r cynllun hwn yn gwobrwyo ac yn cynnig cymhelliant i awdurdodau lleol Cymru am eu llwyddiant o ran datblygu economaidd ac yn darparu’r adnoddau i’r awdurdodau lleol i gynnal twf pellach.
Seilir dosbarthu ar fodel sy’n adlewyrchu tueddiadau mewn twf dros gyfnod o wyth mlynedd. Mae’r model yn dynodi tri chategori o dwf o dan fodel is-ranbarthol Cymru a oedd yn cael ei ffafrio gan CLlLC mewn ymateb i ymgynghori.
Grantiau penodol
Fel gyda’r setliad dros dro, rwyf hefyd yn rhoi manylion i’r awdurdodau lleol am y grantiau penodol eraill y gallant ddisgwyl eu cael y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhoi i’r awdurdodau y darlun cynhwysfawr o’r arian y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2005-06, er mwyn caniatáu iddynt gyllidebu yn effeithiol. Mae’r wybodaeth yr wyf yn trefnu ei bod ar gael yn dangos, y caiff yr awdurdodau dros £500 miliwn hefyd mewn grantiau penodol, yn ogystal â’r £3.3 biliwn a gânt trwy’r setliad
Dosbarthu rhwng awdurdodau
Mae’r arian ychwanegol ar y cyd â chyflwyno ffigurau gwirioneddol y sylfaen drethi a ddarparwyd gan yr awdurdodau a diweddariadau data eraill wedi arwain at rai newidiadau yn y dyraniadau ar gyfer awdurdodau unigol.
Mae Llywodraeth Leol wedi croesawu’r cynnig a nodais adeg y setliad dros dro i gyflwyno gwarant isafswm cynnydd y bydd yr holl awdurdodau’n cael isafswm cynnydd a warantir yn eu grant cynnal refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn aros yn 3.5%, yn unol â’n hamcangyfrif o chwyddiant tâl a phrisiau cyffredinol o fewn llywodraeth leol fel y’i nodir yn y setliad dros dro. Arloesiad synhwyrol yw hwn yn amgylchiadau’r ansefydlogrwydd presennol.
Mae asesiad o gyfanswm y gwariant safonol ar gyfer pob awdurdod yn deillio o asesiad o’r prif feysydd gwasanaeth gan gynnwys addysg a gwasanaethau cymdeithasol. I wella tryloywder yn arian llywodraeth leol rwyf hefyd yn cyhoeddi’r asesiadau gwasanaeth hyn.
Gosodir setliad eleni yn erbyn cefndir yr ailbrisiad cyntaf o’r Dreth Gyngor ers deuddeg o flynyddoedd. Mae’n ofyniad cyfreithiol i ni gynnal ailbrisiadau o’r fath er mwyn sicrhau bod y ffordd o ddosbarthu atebolrwydd ar gyfer y Dreth Gyngor yn aros yn deg dros amser. O gofio’r setliad hwn a phennu cyllidebau yn rhesymol gan yr awdurdodau lleol, ni ddylai talwyr y Dreth Gyngor yng Nghymru weld llawer o newid yn eu treth gyngor.
I’r rhai nad ydynt yn symud i fyny band, bydd cynllun rhyddhad trosiannol, a gaiff ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth y Cynulliad, yn cyfyngu ar yr effaith ar filiau treth gyngor aelwydydd yn y flwyddyn sydd i ddod.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pryderu y dylai pawb yng Nghymru sydd â hawl i gael Budd-dâl y Dreth Gyngor ei gael. Er nad mater dirprwyedig yw hwn, rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a chyda’r awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i wireddu hyn.
Mae datganiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Creu’r Cysylltiadau”, yn nodi’r ymrwymiad i sicrhau bod y twf mewn adnoddau yn canolbwyntio’n fwyfwy ar wella ansawdd gwasanaeth a bod modd sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y ffordd y cyflwynir gwasanaethau. Rydym wedi pennu targed o £600 miliwn yn y pum mlynedd nesaf. Wrth gyllidebu i ymdopi â phwysau ar gostau ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru gan gynnwys llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf rwyf wedi rhagdybio y ceir arbediad o 1% y flwyddyn nesaf ac ym mhob blwyddyn olynol. Bydd unrhyw arbedion effeithlonrwydd y bydd yr awdurdodau’n eu gwneud yn ychwanegol at hyn yn creu’r gallu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ychwanegol.
Rwyf yn argyhoeddedig bod gan lywodraeth leol y gallu a’r uchelgais i wneud arloesiadau o bwys wrth gyflawni. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi llywodraeth leol yn hyn o beth trwy arian newydd ar gyfer cynllun Rhagoriaeth Cymru i hybu a throsglwyddo arferion da, trwy gynyddu arian i gefnogi gwelliant mewn awdurdodau unigol a thrwy “Gwerth Cymru”, ffynhonnell ar draws y sector cyhoeddus o arbenigedd ar gaffael a gwasanaethau ar y cyd.
Setliad Cyfalaf
O ran y setliad cyfalaf, mae’r dyraniad cyfalaf ar gyfer 2005-06, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol wedi cynyddu i £596.9 miliwn, sef cynnydd o 16.4%.
Rwyf wedi cynyddu’r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol £15.7 miliwn (8%) yn 2005-2006. Mae hon bellach yn dod i gyfanswm o £212.8 miliwn. Arian cyfalaf heb ei glustnodi yw hyn ac o hwnnw mae £48.7 miliwn yn cael ei dalu fel grant cyfalaf; darperir y gweddill, rhyw £164.1 miliwn, fel cymorth ar gyfer benthyca (gynt cymeradwyaethau credyd).
Mewn perthynas â grantiau cyfalaf penodol mae’r rhain wedi cynyddu 21.7% i £384.1 miliwn.
I gloi credaf mai setliad teg a rhesymol i’r awdurdodau lleol yw hwn. Fe’i paratowyd yn ofalus yn sgil rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y setliad dros dro a barn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Rwyf hefyd wedi trefnu bod gwybodaeth ar gael am grantiau penodol er mwyn rhoi i’r awdurdodau gymaint o wybodaeth â phosibl i seilio eu cynlluniau cyllidebol eu hunain arni, gan wybod yr hyn y gallant ddisgwyl ei gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rwyf yn disgwyl yn llawn i’r awdurdodau weithredu gydag ystyriaeth ofalus debyg wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Credaf fod cynnydd rhesymol yn y gyllideb i’r awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf. O dan yr amgylchiadau hyn byddai’r mwyafrif helaeth o dalwyr y Dreth Gyngor yng Nghymru yn elwa o’r ailbrisiad trwy gael ychydig yn unig o gynnydd neu ostyngiad yn eu Treth Gyngor. Ceir cyfrifoldeb ar yr awdurdodau lleol i geisio rheoli cyfradd y cynnydd yn y dreth i aelwydydd sy’n symud i fyny band a thrwy hynny i bennu eu hamcan o gadw’r cynnydd yn y gyllideb o fewn terfynau rhesymol.