Skip to content

Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd – Strategaeth ar gyfer Ysbytai Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i rwystro cymaint â phosibl o’r heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn ysbytai Cymru.  Er mwyn helpu’r rhaglen o reoli heintiau cafodd “Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd - Strategaeth ar gyfer Ysbytai Cymru” ei lansio yn swyddogol gennyf ar 9 Medi.

Nodau’r Strategaeth yw:

 Bod yr holl staff yn deall effaith heintiau ac arferion rheoli heintiau i’w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau personol i gleifion, staff eraill, ymwelwyr a hwy eu hunain.

 Bod cleifion yn cael eu trin mewn amgylcheddau sy’n lleihau’r risg o heintiau.

 Bod trefniadau atebolrwydd clir gyda’r rheolwyr, gyda phob cyfarwyddiaeth yn gweithio gyda’r arbenigwr rheoli heintiau i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn eu maes hwy.

 Bod ymddiriedolaethau yn mabwysiadu rhaglenni monitro ac archwilio cynhwysfawr i gadw llygad ar y rhaglenni rheoli heintiau a’u cyfarwyddo.

Mae cynlluniau gweithredu cynhwysfawr, fydd yn cael eu monitro’n rheolaidd, yn rhan annatod o’r broses o roi’r Strategaeth ar waith.

Cafodd y Strategaeth ei datblygu gan grwp aml-ddisgyblaethol, sef yr Is-grwp Heintiau o’r Pwyllgor dros Reoli Heintiau Trosglwyddadwy.  

Er na allwn fyth rwystro pob haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, mae’r strategaeth newydd yn gosod camau clir i’r GIG a fydd yn helpu i gadw’r heintiau i’r lleiafswm.  Ni ellir cadw rheolaeth effeithiol oni fydd yr holl weithwyr iechyd yn gwneud eu rhan.  Bydd y Strategaeth yn gofyn am ymroddiad pawb sy’n ymwneud â hi, ar draws y bwrdd, a byddwn yn monitro’n ofalus i ba raddau y caiff ei gweithredu.  Gweithio gyda’n gilydd yw’r allwedd i leihau nifer yr heintiau.

Mae’n bwysig nodi bod y Strategaeth hon yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru.  Mae gennym un o’r systemau gorau o fonitro clefydau yn y DU. Y llynedd rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad gyllid i bob Ymddiriedolaeth yn benodol i brynu cyfarpar TG a ffurfio Timau Rheoli Heintiau fel y gallant ddatblygu eu systemau monitro.  Hefyd, mae gennym feddygon a thimau Rheoli Heintiau ym mhob Ymddiriedolaeth, ond fel y mae’r strategaeth yn ei gwneud yn glir, mae rhwystro heintiau yn gyfrifoldeb i’r holl staff.

Bydd ail gynllun yn cael ei gyhoeddi a fydd yn delio â rhwystro heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd mewn sefyllfaoedd cymunedol a gofal sylfaenol.