Skip to content

Y Newyddion Diweddaraf Ar Y Datblygiadau I'r Strategaeth Leoli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau i'r Strategaeth Leoli.

Ym mis Mai dywedodd fy nghydweithiwr, y Prif Weinidog, y byddai lleoliad swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Ngogledd Cymru ar safle blaenorol Hotpoint yng Nghyffordd Llandudno, ar yr amod bod contractau yn cael eu cwblhau.  Cytunwyd ar Benawdau'r Telerau ar gyfer prynu’r tir ar y safle a ddewiswyd. Mae trafodaethau masnachol mewn llaw hefyd am safle ar gyfer swyddfa Canolbarth Cymru yn ardal Aberystwyth.  Fe fyddaf yn hysbysu Aelodau o'r union safle pan fydd y trafodaethau wedi eu cwblhau. Ar sail y cyngor a gafwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, rydym wedi gwella dyluniad swyddfa Merthyr Tudful. Er i hyn olygu ychydig o oedi, mae'r gwaith yn parhau ar y trywydd iawn. Yn amodol ar y caniatâd cynllunio terfynol, byddwn ar y safle yn fuan y flwyddyn nesaf, a'r adeilad wedi ei gwblhau a'r gweithwyr wedi symud i mewn erbyn haf 2006.

Bydd y swyddfeydd hyn yn gyfrwng i ddatganoli o Gaerdydd  ac yn gyfle i adleoli staff o'u swyddfeydd presennol, yn ogystal â darparu lle ar gyfer y swyddogaethau newydd sydd wedi eu mabwysiadu gan y Cynulliad. Mae hyn yn cadarnhau'r nodau sydd wedi eu rhestru yn "Creu'r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru” i ddarparu cyfleoedd gwell er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'r Llywodraeth yn agosach at y bobl, yn fwy cydlynol, ac yn ymateb yn well i amrywiadau rhanbarthol.

Nid yw'r swyddogaethau sydd i symud i swyddfa Merthyr wedi newid. Cyhoeddwyd y rhain ym mis Mawrth 2003, ac maent fel a ganlyn:

Y Gyfarwyddiaeth Gymunedau
Yr Uned Diogelwch Cymunedol
Y Gyfarwyddiaeth Dai
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)
Swyddfa De Cymru Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti
Is-adran y Sector Gwirfoddol

Rwy'n derbyn llawer o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda ni ar y symudiadau hyn.  

Mae llawer o waith yn cael ei wneud i nodi'r swyddogaethau penodol a fydd wedi eu lleoli yn swyddfeydd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Gallaf gadarnhau y bydd swyddfa Gogledd Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhannau hynny o Addysg a Dysgu Gydol Oes a Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, sy'n fwyaf perthnasol i waith ELWa, WDA a Bwrdd Croeso Cymru, a swyddogaethau Cefn Gwlad a Gwledig ar gyfer Canolbarth Cymru. Bydd y ddwy swyddfa yn cynnwys 'siop stop cyntaf' i'r cyhoedd gael gwybodaeth a chyngor gan unrhyw ran o'r Cynulliad. Mae'r penderfyniad i uno'r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ag Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cyfle gwell i ganolbwyntio ar ardal arbennig.  

Ar ôl ymgynghori ymhellach ag aelodau'r staff, bwriadaf wneud cyhoeddiad arall ym mis Ionawr.