Skip to content

Adeilad Newydd Y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex , Y Gweinidog dros Gyllid,Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Rwyf bellach mewn sefyllfa i roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad am y cyllidebau ar gyfer Adeilad Newydd y Cynulliad.

Mae rhagolwg alldro diweddaraf y gwaith adeiladu ar gyfer contract Taylor Woodrow yn £41.50m (heb gynnwys TAW). Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth 30 o amrywiadau contract ers i'r gwaith adeiladu ailddechrau ym mis Awst 2003. Mae 10 o'r rhain wedi codi o gyfleoedd peirianneg ychwanegol eu gwerth, gan olygu arbedion o ran costau; mae 14 ohonynt yn welliannau cost niwtral. Mae'r amrywiadau sy'n weddill wedi codi o waith dylunio manwl pellach yn ymwneud ag egluro gofynion seilwaith TGCh a chostau cysylltiedig gwaith yr adeiladwyr mewn cysylltiad â hyn. Nid oedd modd rhagweld y rhain yn gynharach gan nad oedd proses dendro Merlin wedi'i chwblhau. Mae'r newidiadau eraill yn ymwneud â gwelliannau pellach o ran diogelwch ar gyngor Gwasanaeth Diogelwch y Llywodraeth.

Ar ôl ymgynghori â'r Grwp Llywio Polisi, rwyf wedi cytuno ar gyllidebau ar gyfer darparu offer TGCh a’r Cyfryngau, Dodrefn Rhydd a Chelf fel a ganlyn:

Offer TGCh a’r Cyfryngau £6.7m (gan gynnwys TAW)
Dodrefn Rhydd £1.6m (gan gynnwys TAW)
Celf £0.3m (gan gynnwys TAW)

Mae'r costau sy'n weddill y tu allan i'r contract cyfandaliad yn ymwneud â ffioedd proffesiynol, ac amcangyfrifir dros dro fod y rhain tua £2.2m (gan gynnwys TAW).