Skip to content

Adroddiad o Adolygiad Lyons ar Adleoli'r Sector Cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Cyhoeddwyd adroddiad Syr Michael Lyons o'i adolygiad annibynnol ar adleoli'r sector cyhoeddus ar 15 Mawrth. Mae'r adroddiad yn cynnig cyfle cyffrous i Gymru fod yn lleoliad ar gyfer Adrannau ac Asiantaethau'r Llywodraeth a all gael eu hadleoli o Whitehall neu ardal ehangach yn y De-ddwyrain.  Ni fydd Cymru yn cael ei hystyried ar gyfer adleoli gweithgareddau a gynhelir yn Llundain gan Adrannau'r Llywodraeth ar sail Lloegr yn unig.  Caiff Cymru ei hystyried ar gyfer swyddogaethau a gynhelir ar sail y DU megis yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Trysorlys.

Cyfarfûm â Syr Michael yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn, fel y gwnaeth Syr John Shortridge hefyd, ac fe wnaethom bwysleisio'r manteision sydd gan Gymru i'w cynnig fel cartref posibl i'r Adrannau a'r Asiantaethau yn Whitehall, Llundain a'r De-ddwyrain a all gael eu hadleoli.  Pwysleisiwyd y traddodiad anrhydeddus a'r enw rhagorol sydd gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ac atgoffwyd Syr Michael o'n llwyddiannau hyd yma. Mae'r rhain yn cynnwys sefydlu'r DVLA yn Abertawe ac adleoli'r Bathdy Brenhinol i Lantrisant, Tŷ'r Cwmnïau i Gaerdydd, a'r SYG a'r Swyddfa Batentau i Gasnewydd.

Un o flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad hwn yw adeiladu ar y llwydiant hwnnw a sicrhau hyd yn oed mwy o brosiectau sector cyhoeddus i'w gwasgaru yng Nghymru.  Un o'r blaenoriaethau penodol hefyd yw targedu'r ardaloedd hynny nad ydynt wedi gweld digon o brosiectau adleoli hyd yma, ac nad ydynt o anghenraid yn dargedau ar gyfer strategaeth adleoli'r Cynulliad ei hunan.  Rydym wedi bod yn weithredol iawn wrth farchnata Cymru fel lleoliad posibl ers cyhoeddi Adolygiad Lyons am y tro cyntaf yng Nghyllideb y llynedd.  Rwyf wedi sefydlu tîm prosiect arbennig yn cynnwys arbenigwyr profiadol ym maes adleoli a mewnfuddsoddi o blith ein swyddogion a'r WDA er mwyn rhoi hwb i'n hymgyrch.  Cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth i adrannau ac asiantaethau sy'n ystyried adleoli ac mae'r tîm wedi mynychu cynadleddau a digwyddiadau eraill sy'n ymwneud â Lyons.

Mae gennyf ddiddordeb personol brwd yn hyn fy hunan, ac eisoes rwyf wedi cynnal cinio i ddylanwadwyr allweddol yn Adrannau ac Asiantaethau'r Llywodraeth a all fod yn gysylltiedig o bosibl â symud lleoliadau o Dde-ddwyrain Lloegr. Mae rhagor o ddigwyddiadau hyrwyddo ar y gweill a bydd mwy o weithgarwch eto'n digwydd ar lefel uwch i geisio annog mwy o wasgaru i Gymru.

Rwy'n cydweithio'n agos â'r Ysgrifennydd Gwladol ar hyn ac mae ef wedi bod yn pwysleisio manteision Cymru i'w gydweithwyr yn y Cabinet.  Byddwn yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol ac eraill fel bod pob rhan o Gymru yn cael eu hystyried ar gyfer yr adleoli.  Wrth gwrs, nid yw pob adleoliad yn deillio o Lyons ac yn ddiweddar cafodd Adran Waith a Phensiynau newydd ei lansio yn Noc Penfro sy'n gwasanaethu cleientiaid yn byw yn Llundain.  Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos mwyaf cymhellgar ar gyfer cyfleoedd o'r fath.
   
Mae'r cyfeiriadau at leoliadau posibl yng Nghymru yn Adolygiad Lyons i negodiadau cyfredol yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried adleoli 600 o swyddi o Lundain naill ai i Gasnewydd, lle mae gan y Swyddfa bresenoldeb sylweddol eisoes, neu i Fryste neu Gaerdydd.

Ceir hefyd gyfeiriad at swyddfa gefn bosibl i swyddfa Adnoddau Dynol yr Adran Masnach a Diwydiant yn symud i Gaerdydd.  Ni chredir fod nifer y swyddi yn uchel, ond bydd yn ddylanwadol gan y bydd yn cael ei dynodi fel Canolfan Ragoriaeth Adnoddau Dynol.  Ni chredir bod angen adeilad newydd yno, gan y gall ddefnyddio lle sy'n wag yn adeiladau presennol yr Adran Masnach a Diwydiant.

Mae hwn yn ymarfer cystadleugar iawn lle bydd pob ardal yn Lloegr a'i threfi a dinasoedd allweddol ar gyfer swyddfeydd, a lle bo'n briodol o ran  swyddogaethau heb eu datganoli, Cymru a'r Alban yn mynd benben i berswadio Gweinidogion a'r swyddogion sy'n gwneud y penderfyniadau i adleoli i'w hardal hwy.  Gall yr ystod posibl o swyddi ychwanegol a allai adleoli i Gymru fod unrhywbeth rhwng 500 a 1500, yn dibynnu ar faint o'r unedau gwasanaeth sifil heb eu datganoli fydd yn symud o gwbl, a faint o lwyddiant a ddaw i Gymru o'r cystadlu benben hyn.

Byddwn yn parhau i wthio hawliau Cymru a'i lleoliadau mwyaf addas, gan geisio sicrhau bod y lleoliadau hynny yn cyfateb i becynnau gwaith yr ymgeisydd.