Skip to content

Datganiad ar Drafodiad Hysbysadwy o dan Reol Sefydlog Rhif 21: Cynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeonc
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon (Alun Pugh): Mae’r Cynllun Casglu yn sicrhau bod gweithiau celf cyfoes ar gael i unigolion cyffredin yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny drwy roi cyfle iddynt gael benthyciad di-log i brynu gweithiau celf a chrefft cyfoes Cymreig. Ar hyn o bryd, mae tua 79 o orielau yng Nghymru yn cymryd rhan yng Nghynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cynorthwyo preswylwyr y DU i brynu gweithiau celf a chrefft gwreiddiol gan artistiaid byw. Gall unrhyw un sy’n ymweld ag un o’r orielau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ac sydd am brynu eitem sydd ar werth gael credyd di-log tuag at brynu un eitem neu grwp o eitemau. Gall yr eitemau gynnwys paentiadau, arianwaith, serameg, cerflunwaith, gemwaith, printiau, ffotograffau neu decstiliau. Gofynnir i brynwyr dalu blaendal o 10 y cant o gyfanswm y gost. Bydd staff yr oriel yn eu cynorthwyo gyda’r gwaith papur ac yn cyflwyno cais i Gyngor Celfyddydau Cymru ar eu rhan. Fel arfer, cymeradwyir y benthyciad o fewn saith i 10 diwrnod. Rhaid ad-dalu benthyciadau hyd at £2,000 o fewn 10 a 15 mis, yn dibynnu ar faint y benthyciad, ac mae’r isafswm y gellir ei ad-dalu bob mis cyn lleied â £10.


Fodd bynnag, mae problem fawr gyda’r cynllun—ei lwyddiant. Bu’r cynllun mor llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel y bu’n rhaid i gyngor y celfyddydau wrthod nifer o geisiadau am arian gan nad oedd cyllideb ar gael. Bydd benthyciad gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality bron yn dyblu maint y gronfa i £1.1 miliwn a golyga hynny y gall mwy o bobl fod yn berchen ar ddarnau celf a’u casglu i’w mwynhau yn eu cartrefi. Daeth Cymdeithas Adeiladu’r Principality i gytundeb gyda chyngor y celfyddydau i dderbyn cyfradd elw o 3 y cant ar ei benthyciad—tua hanner y gyfradd fasnachol arferol y byddai wedi ei disgwyl. Mae hynny’n ehangiad i’w groesawu i brosiect buddiol iawn, a chadarnhaf y prynhawn yma y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu fel gwarantwr ar gyfer gwerth benthyciad y Principality.


Mae profiad y cynllun presennol yn dynodi y gall cyngor y celfyddydau fforddio’r 3 y cant sy’n daladwy i’r Principality o’r ardoll o 4 y cant mae’n ei godi ar orielau sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn erbyn bob pryniant, ac sydd hefyd yn cyfrannu at y gost o weinyddu’r cynllun. Bydd ehangu’r Cynllun Casglu yn galluogi rhagor o orielau i gael eu cofrestru gyda’r cynllun a chaniatáu mwy o fenthyciadau, ond ni fydd newidiadau i faint a thelerau’r benthyciadau. Bydd y cynllun ehangach o fudd i artistiaid sy’n gweithio ac yn arddangos eu gwaith yng Nghymru, orielau yng Nghymru a phobl sydd am fod yn berchen ar weithiau celf. Mae’n enghraifft ragorol o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus yn cydweithio er mwyn hybu mynediad ehangach i gelf. Mae hwn yn drafodiad hysbysadwy o dan Reol Sefydlog Rhif 21.16. Mae’r trafodiad hysbysadwy yn cynnwys rhwymedigaeth ddibynnol fel y’i diffinir gan Reol Sefydlog Rhif 21.19, sef gwarantu benthyciad gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Uchafswm amcangyfrifiedig y rhwymedigaeth ddibynnol yw £500,000. Pwysleisiaf mai rhwymedigaeth ddibynnol ydyw yn hytrach na rhwymedigaeth wirioneddol, ac ni ddisgwylir y bydd colledion sylweddol. Bydd y rhwymedigaeth ddibynnol yn parhau tan 31 Gorffennaf 2007. Bydd cynyddu’r cynllun hwn yn cynyddu’r galw am gynhyrchwyr celfyddydau yng Nghymru—y cerflunwyr, paentwyr, ffotograffwyr, artistiaid tecstiliau, seramegwyr, a llawer mwy, sy’n gwneud cymaint o gyfraniad i ddiwylliant bywyd ein cenedl.