Skip to content

Coleg Gwent

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Dywedais y byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf am Goleg Gwent i Aelodau'r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes.  Er mwyn bod yn ddefnyddiol i bob Aelod, bydd yr wybodaeth ganlynol ar gael ar ffurf datganiad ysgrifenedig.

Bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu at Sheila Drury, Cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol-ELWa, ar 11 Mai ynghylch Coleg Gwent.  Ceisiais gael barn ELWa ynghylch a yw'r newidiadau a'r sicrwydd a gynigir yn gymesur ac yn briodol.  Rwy'n disgwyl i ELWa, fel y corff strategol sy'n gyfrifol am addysg a hyfforddiant ôl-16, sicrhau bod newidiadau'n cyd-fynd â'i gynlluniau ehangach ar gyfer ardal Gwent a bod y cynigion yn cyd-fynd â'r hyn y mae darparwyr eraill yn ei gynnig.  Rwyf hefyd yn dibynnu ar ELWa i wneud asesiad o ddefnydd y Llywodraethwyr a'r tîm rheoli o'r dystiolaeth a lywiodd y ffordd y gwnaeth ei benderfyniadau.  

Mae swyddogion ELWa wedi cyfarfod â thîm uwch-reolwyr Coleg Gwent a byddant yn parhau i gyfathrebu'n agos â'r coleg.

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'i weithrediadau mae Coleg Gwent yn cynnig ei fod yn ailstrwythuro. Ystyriwyd data wedi'i feincnodi o golegau eraill yn y DU a gasglwyd gan arbenigwyr allanol.  Mae'r adolygiad wedi edrych ar anghenion pob maes o'r cwricwlwm ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf.  Ystyriodd Llywodraethwyr y coleg y cynigion ar 4 Mai 2004 ac wedi hynny cychwynnodd y coleg ar gyfnod ymgynghori o 30 diwrnod gyda staff, myfyrwyr, awdurdodau lleol a CCET yn ardal Gwent.  Os bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu, byddant yn dod i rym ym mis Medi.  

Mae newidiadau mewn trefniadaeth yn rhan arferol o weithrediadau coleg ac mae ELWa yn hyderus fod Coleg Gwent yn trin y mater hwn yn broffesiynol ac yn effeithiol.  Mae'r Coleg wedi pennu tri maes ar gyfer newid: lle mae'r galw eisoes yn isel neu'n lleihau; lle mae'r galw'n cynyddu; a lle cafwyd newid sylweddol yn y dull o gyflawni.  Mae anghenion a galwadau yn newid dros amser ac mae'n rhaid i ddarparwyr ymateb i hynny.  Gall hyn olygu ail-ganoli gweithgareddau ac adleoli adnoddau.

Pan fydd y newid yn effeithio ar y dysgwyr, mae Coleg Gwent wedi rhoi sicrwydd y bydd pob myfyriwr ar gwrs yr effeithir arno yn gallu cwblhau y cwrs hwnnw.  Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud hynny yn yr un lleoliad.  Bydd lleiafrif yn gorfod symud ond bydd Coleg Gwent yn darparu trafnidiaeth ar eu cyfer.

Mae tîm rheoli'r coleg wedi hysbysu'r staff o'r newidiadau ac mae'n cynnal trafodaethau ag Undebau Llafur (ACM, NATFHE ac Unsain) gyda'r nod o leihau diswyddiadau - amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd  tua 35 o swyddi'n cael eu colli.  Y gobaith yw y bydd y diswyddiadau arfaethedig yn rhai gwirfoddol neu gan bobl sy'n ymddeol.  Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben bydd y Corff Llywodraethu yn dod i benderfyniad.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd ELWa yn gweithio'n agos â Choleg Gwent i asesu'r effaith ar ddysgwyr yn y dyfodol.  Bydd yn adolygu cynllun busnes y Coleg ac yn cyflwyno asesiad i mi yn y man.

Bydd Sheila Drury yn adrodd yn ôl i mi eto o fewn pedair wythnos a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor bryd hynny.