Skip to content

Datganiad ar ‘Creu’r Cysylltiadau’—Dogfen Ymgynghorol ar Wasanaethau Cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Prif Weinidog , Rhodri Morgan
Yr hyn a wnaed ym mhedair blynedd cyntaf y Cynulliad oedd sefydlu ffurf gwbl newydd o lywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru. Ein blaenoriaeth ar gyfer yr ail dymor yw ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a’r dull o’u dyfeisio a’u darparu yng Nghymru. Gan hynny, yr wyf heddiw’n cyhoeddi dogfen bolisi Llywodraeth y Cynulliad, ‘Creu’r Cysylltiadau’, sy’n nodi’r weledigaeth honno. Yr wyf wedi trefnu i gopïau o’r ddogfen gael eu dosbarthu i’r holl Aelodau y prynhawn yma. Mae’r Llywodraeth wedi cychwyn ar gyfnod o wariant cyhoeddus uchel a pharhaus ar ein gwasanaethau cyhoeddus na welwyd ei debyg ers tro, gan fod cyfanswm y gwariant wedi dyblu bron o ychydig yn fwy na £7 biliwn yn 1999-2000 i bron £14 biliwn yn 2007-08 ar y cynlluniau presennol. O ganlyniad, gwelwn ganlyniadau gwell o lawer, gyda gostyngiad sydyn mewn diweithdra, cynnydd sydyn yn nifer yr hyfforddeion sy’n dilyn prentisiaeth, gostyngiad sydyn yng nghyfradd marwolaethau babanod, a chynnydd sydyn yn nifer y rhai a gaiff eu hyfforddi a’u cyflogi wedyn gan y GIG fel meddygon, nyrsys ac eraill yn y proffesiynau sy’n berthynol i iechyd.

Rhaid inni wella’r dull o ddarparu gwasanaethau a chael y budd mwyaf posibl o’n gwariant. Mae ‘Creu’r Cysylltiadau’ yn cyfuno ac yn ychwanegu at y gwahanol elfennau meddwl a roesom ar waith ers datganoli. O ganlyniad i hynny ceir dull gweithredu integredig sy’n sail i gynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd hon yn rhaglen sylweddol, dan fy arweiniad i, a fydd yn ymestyn ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus ac yn cynnwys awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd gwladol, cwangos a chyrff eraill. Mae nifer o’n partneriaid eisoes yn gweithio ar bynciau llosg, a byddwn yn ymgynghori ac yn gweithio gyda hwy ar gynllun gweithredu dros y chwe mis nesaf. Byddaf yn cadeirio bwrdd gwella gwasanaethau cyhoeddus er mwyn arolygu’r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr o’r prif sectorau hefyd yn aelodau o’r bwrdd, ochr yn ochr â Gweinidogion.

Mae ein dull o weithredu wedi’i seilio’n gadarn ar y farn y sicrheir y canlyniadau gorau yng Nghymru drwy gydweithio a chyd-drefnu, nid drwy gystadlu. Mae hyn yn cyd-fynd â natur Cymru fel gwlad fach a’r ymdeimlad cryf o berchnogaeth sydd gan bobl Cymru ar eu gwasanaethau cyhoeddus. Mae pedair egwyddor yn sail i’n gweledigaeth. Y gyntaf yw bod angen inni roi dinasyddion a chymunedau ar ganol y llwyfan er mwyn sicrhau gwasanaethau sy’n ymatebol. Drwy alluogi’r dinesydd a’r gymuned yr hyrwyddir y gwelliant. Defnyddiaf y gair ‘dinesydd’ yn ei ystyr mwyaf cynhwysol fel un sy’n cwmpasu pawb, ac fe’i defnyddiaf er mwyn pwysleisio bod pobl Cymru’n llawer mwy na chwsmeriaid gwasanaethau cyhoeddus. Mae ganddynt hawl i alw gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif, ac mae cyrff gwasanaethau cyhoeddus o dan ddyletswydd i ymateb. Yn bwysicach byth, a hwythau wedi’u galluogi, rhaid i ddinasyddion Cymru chwarae eu rhan, fel disgyblion, rhieni, cleifion, neu fel aelodau o’r gymuned yn gyffredinol, gan fod rhaid i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr fod ar yr un ochr i gael y canlyniadau gorau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn ‘Creu’r Cysylltiadau’, nodwn amryw o gamau gweithredu ymarferol i roi dinasyddion ar ganol y llwyfan. Yn eu plith y mae cael gwell gwybodaeth am eu hanghenion a’u canfyddiadau, atebolrwydd cryfach, mwy o hyblygrwydd, mwy o ran i ddinasyddion a chymunedau wrth ddyfeisio a chynllunio gwasanaethau a gwell mynediad at y rheng flaen. Mewn cysylltiad â hyn, byddwn yn nodi ein cynlluniau ar gyfer Cymru Ar-lein yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Yr ail egwyddor yw ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Yn ‘Cymru: Gwlad Well’, nodasom y modd y byddem yn anelu adnoddau at y rhai mwyaf anghenus. Gwnaethom hefyd nodi ym mha fodd y dylai gwasanaethau cyhoeddus estyn allan at y rhai a allgaewyd a’r rhai sy’n agored i niwed, gan roi pwyslais penodol ar bobl a chymunedau sy’n profi anfantais.

Y drydedd egwyddor yw y bydd y cyrff presennol, drwy weithio gyda’i gilydd fel gwasanaeth cyhoeddus Cymru, yn gallu sicrhau arbedion maint ac ansawdd gwell mewn gwasanaethau cyhoeddus. Nodasom ein cynigion ar gyfer hybu cydweithio rhwng cyrff, ar gyfer symleiddio cysylltiadau ac ar gyfer lleihau beichiau biwrocrataidd a rheoliadol yn y rheng flaen. Yr oedd y cyhoeddiad a wneuthum ym mis Gorffennaf ynghylch cyfuno ag Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru a Dysgu ac Addysgu Cymru yn rhan o’r agenda ar gyfer symleiddio, a disgwyliaf gyhoeddi penderfyniadau pellach am CCNC eraill y mis nesaf.

Y bedwaredd egwyddor yw ein penderfyniad i sicrhau y caiff pobl Cymru’r gwerth mwyaf posibl o’r buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Yr ydym yn gosod targed o £600 miliwn y flwyddyn o arbedion drwy effeithlonrwydd erbyn 2010 yn y gwasanaeth cyhoeddus drwyddo draw a sefydlwn fframweithiau i helpu gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau’r arbedion hynny. Un o’r fframweithiau hynny yw Gwerth Cymru, swyddfa gwasanaethau caffael a chefnogi genedlaethol. Uned fusnes yn Llywodraeth y Cynulliad yw’r swyddfa hon, nid CCNC. Mae Gwerth Cymru yn deillio o’r fenter gaffael Cymru lwyddiannus, a bydd yn gweithio gydag asiantaethau sydd â record dda fel Cyflenwadau Iechyd Cymru. Byddwn hefyd yn disgwyl i gyrff cyhoeddus sicrhau effeithlonrwydd drwy rannu gwasanaethau cymorth corfforaethol a mentrau eraill. Er enghraifft, gallaf gadarnhau bod prosiect rhannu gwasanaethau’r Gogledd yn mynd rhagddo’n awr, i ystyried y modd y gellir darparu gwasanaethau busnes ar gyfer cyrff y GIG yn fwy effeithiol.

Agenda ar gyfer newid mawr yw hwn a bydd yn hollbwysig sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad y gweithwyr a’r rheolwyr. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â’r undebau llafur wrth baratoi’r cynllun gweithredu a’i roi ar waith. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi manylion ‘Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru’, sy’n deillio o’n menter arloesol ar gyfer rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus. Ei rôl fydd datblygu dull gweithredu penodol Gymreig o ddatblygu gweision a rheolwyr cyhoeddus yng Nghymru.


Cymerir llawer o’r camau gweithredu drwy’r rhaglenni gwariant presennol ond mae arnom angen cyllideb neilltuol hefyd. Gan hynny, mae’r Gweinidog Cyllid wedi darparu £32 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gynnal y cynllun gweithredu.

Mae agenda ‘Creu’r Cysylltiadau’ yn hollbwysig. Dim ond ar rai agweddau y gallaf roi manylion heddiw. Yr ydym am roi amser i Aelodau’r Cynulliad dreulio’r hyn a gyhoeddais heddiw a darllen y ddogfen. Byddwn yn rhoi amser ar gyfer dadl lawn tua diwedd y cyfnod ymgynghori.

Cymeradwyaf y cynigion hyn i’r Cynulliad.