Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar TB mewn Gwartheg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog dros yr Amgylchedd , Cynllunio a Chefn Gwlad
Croesawaf adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar yr ymchwiliad i dwbercwlosis mewn gwartheg. Yr wyf yn falch bod y pwyllgor wedi gallu cael consensws trawsbleidiol ar un o’r problemau mwyaf dyrys a dadleuol sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod yr angen i reoli ymlediad y clefyd hwn. Yn gynharach eleni, yn yr ymgynghori cyhoeddus a gafwyd ynghylch datblygu strategaeth gynaliadwy ar TB ar gyfer y DU gyfan, tynnwyd sylw at bwysigrwydd diogelu’r rhannau hynny o Gymru lle na chafwyd achosion o dwbercwlosis mewn gwartheg. Mae’r gwaith o ddatblygu strategaeth newydd y DU ar dwbercwlosis mewn gwartheg yn mynd rhagddo. Disgwylir ei chyhoeddi ar ddechrau 2005. Bydd egwyddorion o ran rhannu costau, gweithio ar y cyd, ac atal yn hytrach na gwella, fel y’u nodir yn y strategaeth ar iechyd a lles anifeiliaid, yn sail i’r strategaeth TB hefyd.

Gan droi’n awr at yr agwedd Gymreig, mae’n siwr bod Aelodau’n falch o gael gwybod o’r datganiad ysgrifenedig fy mod wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad. At hynny, yr wyf eisoes wedi cymryd camau i roi rhai ohonynt ar waith, er enghraifft, drwy sefydlu grwp gweithredu ar TB i Gymru, a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ar 4 Tachwedd ac sy’n awyddus i wneud cynnydd wrth fy nghynghori ynghylch y modd i hyrwyddo prif argymhellion yr adroddiad. Mae aelodaeth y grwp, a arweinir gan gynrychiolydd o’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol, yn cynnig gwir gydbwysedd rhwng buddiannau’r diwydiant a rhai sy’n ymwneud â bywyd gwyllt.

Wrth baratoi’r ymateb hwn, cefais fewnbwn gan gyrff allanol, gan gynnwys undebau’r ffermwyr a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’r cyrff hyn, a gynrychiolir ar y grwp gweithredu ar TB, wedi nodi eu bod yn barod i weithio ar y cyd. Byddant hefyd yn cynnig cyngor i helpu Llywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo a gweithredu ar y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Yr hyn sydd bwysicaf gennyf yw cyflwyno mesurau sy’n ymarferol, yn gymesur ac yn gynaliadwy, gan ystyried y cyngor a gaf gan y grwp gweithredu ar TB.

Mae rôl allweddol i’w chwarae gan y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol. O ganlyniad, mae fy swyddogion yn rhoi rhan flaenllaw iddo yn y gwaith y mae’n rhaid ei wneud i roi’r argymhellion hyn ar waith. O dan gyfarwyddyd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, mae’r gwasanaeth yn cyflawni rhaglen waith i dynhau’r trefniadau profi a lleihau ymlediad y clefyd i ardaloedd newydd. Bydd y mesurau llymach hyn yn peri y bydd y rheolaethau hefyd yn fwy cyson â’r gyfarwyddeb Ewropeaidd berthnasol sy’n llywodraethu’r fasnach wartheg oddi mewn i’r gymuned Ewropeaidd. Gan fod y mesurau tymor byr hyn wedi’u rhoi ar waith bellach, bydd y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol mewn gwell lle i ddarganfod TB drwy gynnal profion yn fwy rheolaidd yn yr ardaloedd hynny lle y mae’r clefyd wedi ymsefydlu, gan dreulio mwy o amser yn mynd i’r afael â’r clefyd, a chan dargedu ardaloedd lle y gallai’r clefyd ymddangos cyn iddo ymledu ymysg gwartheg eraill neu anifeiliaid gwyllt.

Yr wyf wedi egluro yn fy ymateb ysgrifenedig y bydd anifeiliaid gwyllt sy’n farw, ar fin marw neu wedi’u lladd ar ffyrdd yn cael eu casglu a’u profi y tu allan i’r ardaloedd lle y ceir problem TB. Dylai hynny fod yn fodd i gynnig gwybodaeth ychwanegol, er cadw gwyliadwriaeth, a fydd yn goleuo gwaith y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol o ganfod ardaloedd lle y gallai heintiad gan anifeiliaid gwyllt fod wedi cyfrannu at achosion o’r clefyd.

Mae’r bwriad i gyflwyno profion cyn symud gwartheg ac i wneud profion yn amlach yn codi materion o bwys i’r diwydiant, y practisiau milfeddygol preifat a’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol. Gan hynny, ymgynghoraf ynghylch y manylion yng ngwanwyn 2005. Yr oedd adroddiad y pwyllgor yn argymell cyflwyno sawl mesur a oedd â’r bwriad o wella’r cyfathrebu rhwng y rhai sy’n ymwneud â ffermio a Llywodraeth y Cynulliad. Yr wyf eisoes wedi penderfynu cyflwyno llinell gymorth bwrpasol a phecynnau gwybodaeth am TB i ffermwyr.

Awgrymodd y pwyllgor hefyd y dylwn roi ar waith argymhellion y panel annibynnol ar hwsmonaeth. Gwneir ymchwil pellach ynghylch llawer ohonynt ar hyn o bryd. Mae’r rhai sy’n weddill yn ymwneud â chamau i’w cymryd gan ffermwyr, felly mae fy swyddogion wrthi’n paratoi cynigion i helpu ffermwyr i gymryd camau sy’n cyfyngu ar y cysylltiadau rhwng gwartheg ac anifeiliaid gwyllt.

Argymhellwyd y dylid defnyddio’r prawf am gama interfferon ar gyfer pob buches sydd wedi’i heintio â TB. Cyflwyno gwell dulliau o ganfod TB mewn gwartheg yw un o brif amcanion y rhaglen ymchwil bell-gyrhaeddol ym Mhrydain Fawr sy’n ymwneud â thwbercwlosis mewn gwartheg. Ymchwilir yn drwyadl i’r posibilrwydd o ddefnyddio’r prawf am gama interfferon, i ategu’r prawf ar groen, fel rhan o ragbrawf ar fuchesau cymwys ledled Cymru. Mae llwyddiant y rhagbrawf yn dibynnu ar y graddau y bydd ffermwyr yn cymryd rhan ynddo ac yr wyf wedi cymryd camau, ac yn dal i’w cymryd, i hybu ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb yn y rhagbrawf, er mwyn annog nifer helaeth o berchnogion y buchesau cymwys i gymryd rhan.

Os na cheir tystiolaeth i ddangos mai yn sgîl symud gwartheg y trosglwyddwyd yr haint, gellir ymchwilio wedyn i’r prif rywogaethau anifeiliaid gwyllt y gwyddys eu bod yn cario’r clefyd o fewn dau gilomedr i’r fuches sydd wedi’i heintio. Os ceir wedyn fod y gronfa bywyd gwyllt yn cynnwys TB buchol, y Gweinidog fydd yn penderfynu ar unrhyw gamau pellach sydd i’w cymryd.

Mae’r argymhelliad i sefydlu ardal driniaeth ddwys yn un allweddol, sy’n codi sawl her. Mae’r grwp gweithredu ar TB eisoes wedi ystyried goblygiadau’r argymhelliad hwn ac wedi argymell y dylid sefydlu grwp prosiect, oherwydd natur gymhleth ac ansicr yr ystyriaethau gwyddonol, i ystyried y dull o reoli ardal driniaeth ddwys, yng ngoleuni’r dystiolaeth wyddonol bresennol a’r hyn a ddaw i’r golwg.

Yr wyf wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer mesurau i reoli TB dros y tair blwyddyn ariannol nesaf. Darparwyd cyllid i helpu i roi mesurau ataliol ar waith sydd â’r amcan o reoli a lleihau nifer achosion y clefyd. Fodd bynnag, fel y cydnabyddir yn adroddiad y pwyllgor ar yr ymchwiliad ac yn unol ag egwyddorion y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid, ni fydd y Llywodraeth yn dwyn yr holl gostau ar ei phen ei hun gan y bydd ffermwyr yn cael budd o gyflwyno mesurau i gyfyngu ar ymlediad daearyddol clefydau. Yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion fynd rhagddynt gan dybio y bydd costau’n cael eu rhannu rhwng Llywodraeth ac eraill, lle bynnag y bo hynny’n bosibl ac yn briodol.

Cydnabu’r pwyllgor fod y broblem hon yn un gymhleth a bod sawl her i’w hwynebu wrth hyrwyddo ei argymhellion. Credaf fod dechrau da wedi bod ar hyn eisoes. Os yw’r clefyd hwn i’w reoli, rhaid wrth ymrwymiad, cymrodeddu a chydweithredu ar ran pawb sy’n gysylltiedig. Mae’n gofyn dull gweithredu cadarnhaol ar y cyd.