Skip to content

Hynt y gwaith sydd wedi'i wneud ar y Rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Lansiwyd Cynllunio: cyflawni dros Gymru ddwy flynedd yn ôl. Mae'n rhaglen uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy'n anelu at weddnewid y system gynllunio er gwell.

Yr wyf am achub ar y cyfle hwn i adolygu'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ac i edrych ymlaen at y camau nesaf y byddwn yn eu cymryd.  Yn ogystal â gwella'r system gynllunio yn sylweddol, yr wyf hefyd am newid y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, gan gyflwyno diwylliant newydd.

Mae'r cynnig newydd i roi rhan i'r gymuned wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol yn elfen allweddol o'n diwygiadau cynllunio ac mae'n gyson â'n hymrwymiad i roi llais i'r gymuned ym maes datblygu cynaliadwy. Dyma rai o'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r broses hon:

  • Creu'r amodau er mwyn i bobl fedru cymryd rhan yn y broses a chynnig adborth ar adeg pan fyddant yn gallu gweld bod cyfle iddynt ddylanwadu ar y cynllun;
  • Annog pawb sy'n rhan o'r broses i ymrwymo, wrth geisio cytundeb barn, i drafod dewisiadau cynllunio eraill realistig mewn ffordd agored a gonest; 
  •  Cydnabod yr angen i fynd ati i ddenu'r gymuned, gan gynnwys busnesau, i chwarae'u rhan, gan geisio barn y rheini nad ydynt, fel rheol, yn rhan o'r broses.
    Mae'r egwyddorion hyn yn adlewyrchu'n gweledigaeth yn Cynllunio: cyflawni dros Gymru, sydd am sicrhau bod y system gynllunio yng Nghymru:
  • yn agored, yn deg ac yn dryloyw,
  • yn ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd a byd busnes,
  • yn gweithio'n gynt ac yn cynnig gwasanaeth o ansawdd gwell,
  • yn gydnaws â chynlluniau, prosesau a chamau gweithredu eraill, ac  
  • yn gwireddu amcanion cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad.

Yr hyn a gyflawnwyd

Mae dros 160 o dasgau unigol yn y rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru; cyflawnwyd dros 30 o'r tasgau hyn eisoes ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar fwy na 50 o dasgau eraill.   Y ffordd orau o gyflawni'r tasgau hyn yw drwy sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol, byd busnes, a'r sectorau gwirfoddol yn parhau i weithio mewn partneriaeth.  

Bellach, gallwn achub ar y cyfle i weithio mewn ffordd sy'n gyson â'r camau eraill sy'n mynd rhagddynt i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yng nghyd-destun:

  • dyheadau ehangach Llywodraeth y Cynulliad, sy'n cael eu hamlinellu yn Cymru: Gwlad Well,
  • y Cytundeb Cynllunio a lofnodwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a chan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a
  • datganiad Prif Weinidog Cymru am "Greu'r Cysylltiadau".

Dyma'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio:

  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, sydd â chymalau allweddol am Gynlluniau Datblygu Lleol ac am Gynllun Gofodol Cymru.
  • Ymgynghori ynghylch "Gwella Cynlluniau Datblygu yng Nghymru", a chyhoeddi canllawiau diwygiedig dros dro sy'n golygu mai cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol fydd penderfynu pryd i droi at y system newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol.
  • newidiadau mawr i ddulliau o weithio, gan roi rhan i lawer mwy o bobl yn y broses o ddatblygu polisïau cynllunio sy'n cael eu cydnabod ymhlith y rhai mwyaf blaengar yn y DU.  Mae Fforwm Cynllunio Cymru a Bwrdd Rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn, ac maent yn parhau i wneud hynny. Drwy weithio yn y ffordd hon, llwyddwyd i greu sail gadarn ar gyfer datblygu a gweithredu'n system newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol, ac ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru.  
  • mae datlbygu cynaliadwy bellach yn rhan annatod o'n polisi cynllunio a'n cyngor technegol. Mae'n cynnwys canllawiau am Asesiadau Amgylcheddol Strategol ar gyfer y Cynllun Datlbygu Unedol.  Ymhlith yr enghreifftiau eraill y mae Nodyn Cyngor Technegol 15 ar Ddatblygu a Pherygl o Lifogydd, sy'n creu fframwaith ar gyfer ystyried materion sy'n gysylltiedig â pherygl o lifogydd yn gynnar yn y broses gynllunio, ac ar gyfer gwneud hynny mewn ffordd gyson. Enghraifft arall yw'r Polisi Dros Dro ar Garthu Agregau Morol, sy'n anelu at gyfeirio gwaith i gloddio am adnoddau anadnewyddadwy i ardaloedd llai agored i niwed yn Aber yr Hafren ac ym Môr Hafren, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn llwyddo i fodloni'r angen am dywod a graean at ddibenion adeiladu.
  • adnoddau ychwanegol er mwyn i'r awdurdodau cynllunio lleol fedru darparu gwasanaethau. Mae'r adnoddau hyn yn gysylltiedig â hunan-asesu, Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, a chynlluniau gwariant yr awdurdodau cynllunio lleol unigol.   Drwy fynd ati i fonitro, gwelwyd bod yr awdurdodau hyn wedi dechrau arni'n dda o ran gosod y seiliau er mwyn gwireddu amcanion Cynllunio: cyflawni dros Gymru.  Fy nod i yw sichrau bod yr adnoddau ychwanegol, a'r incwm a fydd yn deillio o'r cynnydd yn y ffioedd cynllunio y mis hwn, yn parhau i gael eu defnyddio i gryfhau'r seiliau hyn.
  • mae e-Gynllunio yn dechrau newid y ffordd y mae'r gwasanaeth cynllunio'n cael ei ddarparu, er enghraifft (ar yr amod bod y Cynulliad yn rhoi sêl ei fendith ar y cynllun), bydd pobl yn gallu cyflwyno ceisiadau cynllunio yn electronig erbyn mis Ionawr 2005.
  • dechrau da iawn i'r rhaglen Hyfforddi Aelodau yng Nghymru, sydd wedi rhoi cymorth a gwybodaeth i wleidyddion lleol er mwyn eu helpu i gyflawni'r rôl hanfodol bwysig sydd ganddynt yn y system gynllunio.
  • mae'r Panel Adolygu Dylunio, a sefydlwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran ymwybyddiaeth am yr angen i wella ansawdd dylunio ac o ran yr hyn sydd wedi cael ei ddylunio.
  • cyfraniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol i addysg a hyfforddiant ym maes cynllunio: er enghraifft, yr hyfforddiant ar Asesiadau Amgylcheddol Strategol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd , a gwaith gyda sefydliadau addysgol i sicrhau bod cyrsiau cynllunio yn denu pobl newydd i'r proffesiwn;
  • gweithdrefnau symlach ar gyfer Prynu Gorfodol, sy'n golygu bodd modd paratoi ac ystyried Gorchmynion Prynu Gorfodol yn gynt.

Y Dyfodol

Yr ydym wedi llwyddo i gamu ymlaen, ond mae llawer mwy eto i'w wneud.    Yn benodol, y flwyddyn nesaf, yr wyf am:  
- sicrhau bod yr awdurdodau cynllunio lleol hynny sy'n dymuno dechrau'n gynnar ar y system newydd o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael pob cymorth wrth iddynt newid i'r system honno, a bod y rheini sydd am gwblhau eu Cynlluniau Datblygu Unedol yn cael yr un cymorth;
- sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol ac o reoli datblygu;
- newid diwylliant y system, er mwyn sicrhau bod cynllunio unwaith eto'n cael ei ystyried yn weithgarwch blaengar, lle mae pobl yn mynd ati mewn ffordd effeithiol i roi rhan i'r gymuned (gan gynnwys busnesau).   Bydd angen canolbwyntio'n benodol ar sicrhau safonau o'r radd flaenaf wrth ymdrin â chynlluniau, penderfyniadau, gwybodaeth, cymorth a'r cyngor a roddir i bobl cyn iddynt wneud cais, ynghyd â chanolbwyntio hefyd ar rannu'r arferion gorau.    
- sicrhau bod yr adnoddau ychwanegol ar gyfer cynllunio yn parhau i arwain at welliannau gwirioneddol i'r gwasanaeth drwyddo draw.

I gloi

Yr ydym wedi cyflawni tipyn go lew yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ac yr wyf am weld datblygiadau pellach.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ac ar ddiwygio'r gwasanaeth cyhoeddus, ac mae popeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni yn Cynllunio: cyflawni dros Gymru yn adlewyrchu hynny.   Mae adfywiad ar droed ym maes cynllunio yng Nghymru, a thrwy gael cefnogaeth cyson ein partneriaid, yr wyf yn ffyddiog y gallwn barhau i wella ansawdd ein gwasanaeth cynllunio.