Jane Hutt , Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ers inni ddysgu cerdded a siarad gyntaf, bydd y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein dysgu gan ein rhieni bod baw a germau yn mynd law yn llaw. Mae hysbysebion teledu yn ein bombardio â gwybodaeth am ganyddion sy’n lladd 99 y cant o germau cartref, felly pan fyddwn yn sâl a bydd angen gofal ysbyty arnom, nid yw’n syndod ein bod yn disgwyl i’r amgylchedd fod yn lân. Nid oes dim byd newydd yn hynny: soniwyd am ysbytai glân yn ein cynllun 10 mlynedd, ‘Gwella Iechyd yng Nghymru—cynllun i’r GIG ynghyd â’i bartneriaid’, lle y dywedasom:
‘Mae gan bobl Cymru a’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanynt hawl i ddisgwyl i ofal iechyd gael ei gyflwyno mewn amgylchedd modern, glân a thaclus’.
Yr haf diwethaf, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad defnyddiol yn amlygu materion o ran rheoli a darparu gwasanaethau glanhau ysbytai. Ystyriodd y Pwyllgor Archwilio yr adroddiad a gwnaeth nifer o argymhellion. Croesawaf ganfyddiadau’r Pwyllgor Archwilio, a gosodwyd ymateb Llywodraeth y Cynulliad i hynny gerbron y Cynulliad ar 27 Ionawr. Cymerir camau i weithredu’r argymhellion.
Cyhoeddwyd ‘Safonau Glendid Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru’ ym mis Gorffennaf 2003. Darpara hyn y safonau a fydd yn gymwys ym mhob ysbyty. Caiff y safonau eu monitro mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy gyfrwng ffigurau blynyddol, y mae’n rhaid i ymddiriedolaethau eu cyhoeddi. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o fonitro’r broses weithredu i swyddfeydd rhanbarthol, a derbyniwyd y canlyniadau cyntaf ym mis Chwefror. Gwnaed cynnydd sylweddol tuag at gyrraedd y safonau, a chaiff y cynnydd hwn ei wirio a’i fonitro. Gan fy mod yn benderfynol o gynyddu’r rhan a gaiff cleifion yn yr agenda hon, cafodd y cynghorau iechyd cymuned ran yn y gwaith o archwilio perfformiad yn erbyn y safonau a osodwyd gennym.
Bydd cynghorau iechyd cymuned yn ein helpu i ganolbwyntio ar brofiad cleifion o amgylchedd ysbyty, nid yn unig o ran y gwaith glanhau, ond o ran arwyddion, cyflwr yr addurno, addasrwydd y dodrefn a barn y cleifion am y preifatrwydd a’r parch a ddarperir mewn ysbyty. Mae cynghorau iechyd cymuned eisoes wedi ymgymryd â gwaith mewn 18 o’n prif ysbytai yng Nghymru, a derbyniais eu hadroddiad adeiladol, defnyddiol a llawn gwybodaeth ym mis Chwefror. Bydd y cynghorau iechyd cymuned yn gweithio yn awr gydag ymddiriedolaethau i sicrhau y cwblheir y camau a nodwyd. Er mwyn ategu’r gwaith hwn, sicrhau bod safonau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd, a helpu i ledaenu arferion da, yr wyf wedi sefydlu fforwm cyfleusterau, a chynhelir y cyfarfod cyntaf ym mis Mehefin.
O ran y berthynas rhwng glanweithdra mewn ysbytai a rheoli heintiau, mae’n bwysig bod yn glir o’r cychwyn bod cyngor gwyddonol a phroffesiynol yn ein rhybuddio rhag gwneud tybiaethau rhy syml yn hyn o beth. Yn hytrach na bod yn gynnyrch yr amgylchedd cyffredinol, mae haint yn llawer mwy tebygol o ddilyn methiant mewn arferion hylendid staff: methiant o ran hylendid dwylo yn bennaf. Mae’r dystiolaeth yn hyn o beth yn ddiwrthdro. Mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi cadarnhau pwysigrwydd hylendid dwylo wrth reoli heintiau.
Beth a wnawn ynglyn â hyn? Mae gan Gymru un o’r safleoedd peilot cyntaf ar gyfer ymgyrch ‘glanhau eich dwylo’ yr Asiantaeth Genedlaethol dros Ddiogelwch Cleifion a gaiff ei lansio’n ddiweddarach eleni. Bydd hylendid dwylo yn rhan amlycach hefyd o’r strategaeth newydd ar gyfer rheoli heintiau mewn ysbytai, a gwblhaodd broses ymgynghori broffesiynol yn ddiweddar. Mae’r strategaeth yn cysylltu â ‘Safonau Glendid Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru’. Rhaid i gyfrifoldebau unigol yn hyn o beth gael eu hategu gan welliannau yn y seilwaith sy’n cefnogi’r staff. Drwy’r safonau cenedlaethol, ymgorfforir system arolygu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn y gwasanaeth bellach, ac mae tair rhaglen arolygu orfodol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Bu’n ofynnol i ymddiriedolaethau enwebu rhaglenni perthnasol lleol, gyda thargedau sy’n anelu at leihau nifer yr achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.
Bydd sicrhau canlyniadau ystyrlon yn cymryd amser. Mae hwn yn faes hollol newydd, a phrin yw’r lleoedd yn y byd sydd â phrofiad y gellir elwa arno. Fodd bynnag, yr ydym ar y blaen yn hyn o beth. Yr wyf yn siwr y deuwn o hyd i fentrau a fydd yn gweithio’n amlwg ac eraill na fyddant yn gweithio, a’n nod wedyn fydd rhannu’r canlyniadau hyn mor eang â phosibl er mwyn helpu i sicrhau gwelliant.
Trof yn awr at fater awre?s staffylococws sydd ag ymwrthedd i fethisilin, a’r ymgais i wahanu’r ffeithiau oddi wrth yr ofnau. Mae MRSA yn haint pwysig sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Yr ydym wedi ei ystyried o’r blaen yn organeb ysbyty, ond fe’i gwelir yn gynyddol mewn lleoliadau gofal iechyd eraill, yn arbennig lle mae cleifion yn symud rhwng y gymuned a’r ysbyty. Mae angen cymryd MRSA o ddifrif gan ei fod yn achosi ystod o heintiau, sydd weithiau yn angheuol, ac am ei fod ag ymwrthedd i nifer o wrthfiotigau. Fodd bynnag, dim ond un o sawl haint difrifol sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ydyw, a gall hyd yn oed yr awre?s staffylococws cyffredin, er ei fod yn sensitif i fwy o wrthfiotigau, achosi haint difrifol mor aml â MRSA. Felly, bu inni ymdrin â heintiau drwy bwysleisio pob agwedd ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn hytrach na chanolbwyntio ar un organeb.
Er na all unrhyw system arolygu bresennol warantu data cyflawn, gwyddom mai cymharol fach yw nifer y marwolaethau y flwyddyn a achosir gan hilion sy’n sensitif i wrthfiotigau neu MRSA o’u cymharu â’r rhai a achosir gan organebau eraill megis y rhai sy’n achosi niwmonia. Dyna’r rhesymeg sy’n sail i gyflwyno brechiad niwmococol yn y rhaglen frechu ar gyfer yr henoed.
Mae glanweithdra yn ein hysbytai yn bwysig i bob un ohonom, fel cleifion ac fel staff. Yr wyf wedi amlinellu’r camau a gymerwn mewn perthynas â glanweithdra cyffredinol a rheoli heintiau. Rhoddir sylw manwl i’r materion hyn wrth lunio polisïau ac mewn arferion ledled Cymru. Sefydlwyd llwyfan priodol ac mae perfformiad yn gwella. Os parhawn i weithio gyda’n gilydd ar y mater hwn, bydd y rhagolygon ar gyfer gwella ymhellach yn parhau’n addawol.