Skip to content

Trefniadau Cynllunio'r Llywodraeth ar gyfer Argyfwng

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prig Gweinidog
Mae'r ymosodiadau terfysgol diweddar yn Sbaen wedi ein gorfodi ni oll i wynebu'r realiti y gall terfysgwyr ymosod yn unrhyw le, ar unrhyw bryd.

Mae Llywodraeth y DU wrthi'n gweithio tuag at gryfhau ei gallu i gynllunio ar gyfer ymosodiadau terfysgol, paratoi ar eu cyfer, delio â hwy a dod drostynt. Mae'n gwneud hyn ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.  Ers peth amser, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi chwarae rôl weithredol yn y broses hon ac mae'n cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i ddatblygu gwytnwch cenedlaethol.  Mae'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhagor ar eu gallu i ddelio ag achosion o derfysgaeth.  Yr wythnos diwethaf, mynychais ymarfer gwrth-derfysgaeth yn Abertawe lle y gwelais â'm llygaid fy hun sut mae'r holl asiantaethau ymateb yn cydweithio i geisio sicrhau y byddai effeithiau unrhyw achos o derfysgaeth, pe bai'n digwydd yng Nghymru, yn cael eu lliniaru.

Mae creu Ysgrifenyddiaeth Paratoadau Sifil Swyddfa'r Cabinet, cyflwyno'r Mesur Paratoadau Sifil a sefydlu'r Rhaglen Alluoedd i gyd yn dangos y pwyslais sy'n cael ei roi ar wytnwch a diogelu'r seilwaith cenedlaethol.  Yn benodol, mae'r Mesur yn darparu'r pwerau deddfwriaethol angenrheidiol i ganiatáu i Lywodraeth y Cynulliad, y gwasanaethau brys a phartneriaid eraill ffurfio partneriaeth effeithiol i ymateb i unrhyw achosion difrifol, boed yn drychinebau naturiol neu'n weithredoedd terfysgol.

Pe bai argyfwng yn digwydd yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd Cydgysylltydd Argyfwng yn cael ei benodi i Gymru i arwain y gwaith o gydgysylltu'r ymateb.  Fi, fel Prif Weinidog, yn ôl pob tebyg, fydd yn ymgymryd â'r rôl hon yn bennaf. Prif ddiben y rôl hon yw hwyluso'r gwaith o gydgysylltu gweithgareddau o dan reoliadau brys.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cryfhau ei pherthynas â'i phartneriaid yng Nghymru. Rwyf i'n cadeirio Fforwm Cymru Gydnerth gyda Phrif Swyddogion, sy'n trafod materion strategol o ran paratoi ar gyfer argyfyngau yng Nghymru.  Mae hwn yn arwydd o lefel y cydweithredu amlwg sy'n digwydd, bellach, ledled Cymru, wrth inni wynebu'r heriau newydd.  Mae'r Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd a chynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 14 Ionawr 2004.  Ar lefel swyddogol, mae gennym Weithgor Argyfwng yng Nghymru i gynorthwyo'r fforwm ac i sicrhau bod pob sefydliad sy'n rhan o'r gymuned cynllunio ar gyfer argyfyngau yng Nghymru yn cael cyfle i gyfrannu syniadau ac awgrymiadau i wella'r trefniadau cynllunio ar gyfer argyfyngau yng Nghymru.  Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â'r pedwar grwp aml-asiantaeth ym mhedair ardal yr Heddlu.  Y grwpiau hyn yw sylfaen unrhyw ymateb gweithredol i argyfyngau yng Nghymru.  Rydym hefyd yn paratoi'r gwasanaethau iechyd ac yn helpu'r GIG i sicrhau bod eu trefniadau mor gadarn â phosibl, yn wyneb bygythiad o derfysgaeth gemegol, fiolegol, radiolegol neu niwcliar.

Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a'r grwpiau cyd-asiantaethol yng Nghymru i ddatblygu rhagor ar ein trefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng. Rydym eisoes yn cyfrannu at raglen waith Llywodraeth y DU i wneud gwasanaethau cyffredinol allweddol yn fwy effeithiol, gan ganiatáu inni ymateb i'r argyfyngau mwyaf anodd.  Byddwn yn parhau i fod yn rhan o'r rhaglen honno a theilwra'r hyn sy'n deillio ohoni mewn ffordd ymarferol, weladwy ar lawr gwlad yng Nghymru.