Skip to content

Ymweliad  De Affrica : 23-26 Ionawr 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog
Cefais wahoddiad i fynychu'r digwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant a chwarter brwydrau Isandlwana a Rorkes Drift yn nhalaith KwaZulu Natal, De Affrica.  

Yn ogystal â gweld ailgread ardderchog iawn o frwydr Isandlwana a gwasanaeth coffa yn Rorkes Drift, cefais nifer o gyfarfodydd busnes yn Johannesburg a Durban a chwrdd â nifer o arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys Dr Lionel Mtshali, Prif Weinidog KwaZulu Natal, talaith fwyaf poblog De Affrica a'r Pennaeth Mangosuto Buthelezi.

Fel pob ymweliad tramor, manteisiais ar y cyfle i gwrdd â Swyddogion Masnachol y Conswlad Prydeinig er mwyn iddynt gael rhoi darlun imi o'r sefyllfa economaidd yn y wlad, gan gynnwys yr argoelion ar gyfer allforio o Gymru a mewnfuddsoddi i Gymru.

Yn ardal Johannesburg a'r Rand, ymwelais ag Ysgol Umqhele yn Ivory Park, treflan wasgarog anferth hanner ffordd rhwng Johannesburg a Pretoria. Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos ag Ysgol Gyfun Llanhari ac mae'r myfyrwyr wedi bod yn cyfnewid llythyrau ers tro byd. Roedd yn braf cael rhoi llythyrau a lluniau i ddisgyblion Umqhele a oedd wedi'u hanfon cyn Nadolig gan ddisgyblion Ysgol Llanhari ond a gyrhaeddodd wedi i'r ysgol gau am y Nadolig.

Cawsom gyngerdd ryfeddol o ganu corawl a dawnsio Zulu gan ddisgyblion talentog yr ysgol, lle defnyddiwyd dawnsiau traddodiadol i sôn am brofiadau merched yn eu harddegau sy'n cael eu camdrin yn rhywiol ac i annog rhoi diwedd ar yr arfer.   Y ddolen gyswllt rhwng Llanhari ac Umqhele yw Mrs Janice Mowlam, gwraig Cyfarwyddwr Masnach a Buddsoddi y Conswlad Prydeinig yn Johannesburg a rhaid ei llongyfarch am ei hymrwymiad i'r berthynas rhwng y ddwy ysgol.

Anerchais seminar hefyd a oedd yn cael ei gynnal gan Visit Britain i hybu twristiaeth ym Mhrydain. Bill Ishmael, sy'n enedigol o Bontrhydygroes, yw Pennaeth Visit Britain yn Ne Affrica.  Fe a  ofynnodd imi annerch grwp o drefnwyr gwyliau o Dde Affrica i'w hannog i roi Cymru ar eu rhaglenni wrth drefnu teithiau i Brydain.

Buom ni ar yr heol am bedair awr a hanner wrth deithio o Durban tua'r gogledd i faes y gad yn Isandlwana.

Roedd miloedd o bobl  - yn bobl leol ac yn dwristiaid - wedi dod i'r ailgread a gweld y Zulus a grwp o Brydeinwyr sy'n byw yn Ne Affrica yn chwarae rhan y milwyr. Roedd nifer o bwysigion o Brydain a De Affrica yno ar gyfer y seremoni, gan gynnwys Jacob Zuma, Dirprwy Arlywydd De Affrica. y Pennaeth Mangosuto Buthelezi, Brenin Zululand a nifer o weinidogion o Gabinet talaith KwaZulu Natal ynghyd â chynrychiolwyr o luoedd Prydain a Brenin Zululand.

Wedi ailgreu'r frwydr, gosodwyd torch i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn y frwydr 125 mlynedd yn ôl. Cefais y fraint o osod y dorch ar ran Cymru i gofio'r milwyr o Gymru fu farw yno.

Collodd rhyw 1300 o filwyr Prydeinig eu bywydau ym mrwydr Isandlwana, ac o'r rheini, roedd 600 yn perthyn i'r 24ain Bataliwn a ddaeth yn South Wales Borderers yn ddiweddarach, a Chatrawd Brenhinol Cymru wedi hynny.

Y bore canlynol, euthum i wasanaeth mewn eglwys ac ar y safle i gofio'r rheini gafodd eu lladd yn Rorkes Drift. Cefais y fraint unwaith eto o osod torch wrth y gofeb a godwyd ar y safle.

Yn ôl yn Durban, cefais gyfarfod ag uwch-swyddogion y Toyota Motor Corporation sy'n rhedeg busnes llwyddiannus iawn yn Ne Affrica ac sydd wedi crynhoi'r rhan fwyaf o'r prosesau cynhyrchu ar un safle. Roedd Tim Williams, Prif Weithredwr y Wales Automotive Forum hefyd yn y cyfarfod i gyfnewid barn ac i weld a oedd yna gyfleoedd i gwmnïau o Gymru ddod yn ddolen yn y gadwyn i gyflenwi'r gwaith yn Ne Affrica.

Rhan bwysig arall o'r ymweliad hwn â De Affrica oedd y cwmnïau niferus a oedd wedi dod gyda ni fel rhan o'r daith fasnach. Dyma'r ail daith fasnach y mae MasnachCymru Rhyngwladol wedi'i threfnu i Dde Affrica yn y flwyddyn ariannol hon. Roedd rhyw 17 o gwmnïau wedi ymuno â'r daith hon - daeth 21 ar y daith ym mis Awst 2003. Mae MasnachCymru Rhyngwladol wedi bod yn weithgar iawn yn Ne Affrica dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae tair taith fasnach a rhyw 51 o gwmnïau o Gymru wedi ymweld â'r wlad yn y 18 mis diwethaf. Mae gwerth rhyw £1.1m o gytundebau wedi'u gwneud yn ystod y teithiau, gydag addewid o werth £1.34m o fusnes. Bydd y daith nesaf yn ymweld â'r wlad ym mis Medi nesaf.

Yn ogystal â threfnu teithiau masnach i Dde Affrica, cafodd teithiau masnach eu trefnu hefyd o Dde Affrica i Gymru. Yn dilyn fy ymweliad ag Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy ym mis Medi 2002, daeth taith fasnach amgylcheddol o Dde Affrica i Gymru ym mis Mawrth llynedd. A daeth cynrychiolwyr y diwydiant ceir ym mis Mehefin 2003. Roedd nifer dda o gwmnïau o KwaZulu Natal ar y ddwy daith. Hefyd, ym mis Medi llynedd, ymwelodd cynrychiolwyr busnesau TGCh/Canolfannau Galwadau o Ddinas Durban â Chymru.

Yr eitem olaf ar fy amserlen yn Durban oedd ymweld â Gwaith Carthffosiaeth Southside, un o dargedau'r cwmnïau amgylcheddol, gan gynnwys Odour Control System o Benarlâg, oedd ar y daith fasnach.

Rwy'n disgwyl ymlaen yn fawr at gryfhau ein perthynas â De Affrica eto fyth pan fydd Cymru yn croesawu Cynhadledd Rhwydwaith Llywodraethau Rhanbarthau dros Ddatblygu Cynaliadwy (NRG4SD) yng Nghaerdydd fis nesaf.