Skip to content

Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau peilot yn Lloegr a’r Alban, penderfynwyd y bydd Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol sy’n cynnig cymorth ariannol yn seiliedig ar brawf modd rhwng £10 a £30 i bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed sy’n dilyn cyrsiau addysg amser llawn, ar gael yn y ddwy wlad honno o fis Medi 2004 ymlaen.

O werthuso’r cynlluniau peilot gwelwyd bod Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n dilyn cyrsiau ôl-16 yn yr ardaloedd peilot.  Mae Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol yn cael effaith bositif ar godi dyheadau pobl ifanc i fynd yn eu blaen i Addysg Bellach ac i aros yn ymrwymedig i’w cyrsiau a gwella lefelau presenoldeb.  Mae’r dull yma o ‘gynnig rhywbeth er mwyn cael rhywbeth yn ôl’ sy’n sail i’r cynllun Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol, yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r myfyrwyr lunio cytundebau gyda’r canolfannau addysgu gan eu hannog i roi o’u gorau a chael eu gwobrwyo am wneud hynny.

Rydym eisoes wedi cyflwyno Grantiau Dysgu’r Cynulliad yng Nghymru y mae nifer o bobl ifanc 18 oed a throsodd wedi elwa ohonynt, ac ni fyddwn yn tanbrisio potensial cynllun Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol yn annog pobl ifanc yng Nghymru i barhau â’u haddysg ar ôl yr oed addysg gorfodol.  Yn dilyn trafodaeth a gafwyd â’r Trysorlys yn ddiweddar, cytunwyd y byddai cyllid ychwanegol ar gael i alluogi i gynllun â meini prawf cyfatebol o ran bod yn gymwys am yr arian gael ei gyflwyno yng Nghymru.  Mae cyfle hefyd i gydweithio ag Adran Addysg a Dysgu Gogledd Iwerddon i ddatblygu system o gyflwyno Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol yn y ddwy wlad a rhoddais gyfarwyddyd i’m swyddogion roi hyn ar waith gyda’r nod o gyflwyno cynllun Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.

Bydd y Lwfansau ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs addysg bellach dan arolygaeth am o leiaf 12 awr yr wythnos mewn chweched dosbarth mewn ysgol, coleg chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.  Mae’r cyrsiau cymwys yn cynnwys y rheini sydd hyd at lefel 3 – AS/A2, TGAU, CGC a chymwysterau galwedigaethol eraill.

Cynigir taliadau wythnosol  o £30 i fyfyrwyr os yw’r incwm teuluol yn llai na  £19,000; £20 os yw’r incwm rhwng £19,000 a £23,000; a £10 os yw’r incwm teuluol o dan £30,000.

Telir bonws o £100 i fyfyrwyr cymwys ym mis Ionawr a mis Gorffennaf ym mhob blwyddyn academaidd, gyda bonws ychwanegol ym mis Medi/Hydref i’r rhai hynny sy’n dychwelyd am ail flwyddyn. Gan amlaf bydd myfyrwyr cymwys yn gallu hawlio Lwfans am hyd at  ddwy flynedd.

Yn ystod blwyddyn cyntaf y cynllun, telir Lwfansau i fyfyrwyr cymwys sy’n 16 oed.  Yn ystod ail flwyddyn y cynllun estynnir y cynllun i gynnwys myfyrwyr sy’n 17 oed, a bydd myfyrwyr 18 oed yn cael eu cynnwys yn nhrydedd flwyddyn y cynllun.