Skip to content

Bapur Gwyrdd yr Heddlu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol as Adfywio

Croesawaf y cyfle i wneud y datganiad hwn ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r Papur Gwyrdd ar ddiwygio'r heddlu, 'Adeiladu Cymunedau Mwy Diogel', a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ar 2 Tachwedd 2003.
Mae'r papur yn nodi cyfres o gynigion i wneud cynnydd o'r newydd i foderneiddio gwasanaeth yr heddlu. Mae'n archwilio ystod o faterion sy'n rhychwantu pedair thema allweddol: sicrhau mwy o gyfranogiad gan y gymuned, cryfhau atebolrwydd, gwella effeithiolrwydd gweithredol a moderneiddio gwasanaeth yr heddlu. Mae'r newidiadau a wnaed hyd yn hyn, wedi helpu i ddatblygu a gwella perfformiad. Mae'r perfformiad gwell hwnnw, ynghyd â gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru ac wedi creu partneriaethau ehangach rhwng yr heddlu a chymunedau yng Nghymru.
Mae'r papur yn cynnwys nifer o faterion sy'n berthnasol i Gymru. O ran awdurdodau'r heddlu, mae'r papur yn ystyried sut y gellid gwella cyfranogiad aelodau a thrwy hynny wella perfformiad. Yn ôl un opsiwn, efallai y gallai aelodau o awdurdodau'r heddlu gael eu hethol yn uniongyrchol. Yng nghyd-destun Cymru, yr wyf yn ymwybodol o'r ffaith bod pedwar awdurdod yr heddlu yng Nghymru yn cwmpasu rhwng pedair a saith ardal cyngor lleol. Byddai etholiadau uniongyrchol yn y cyd-destun hwnnw yn ddrud ac yn anodd eu rheoli. Gallai hyn olygu na fyddai darpar ymgeiswyr medrus yn barod i sefyll i gael eu hethol. Rhaid ystyried hynny ochr yn ochr â'r broblem o ran y niferoedd bach o bobl sy'n pleidleisio mewn unrhyw etholiad a'r problemau a all godi wedyn o ran pa mor gynrychioliadol yw'r aelodau a etholwyd.
Am y rhesymau hynny, mae ymateb Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi opsiwn gwahanol a amlinellir yn y Papur Gwyrdd, sef caniatáu i awdurdodau lleol enwebu cynghorwyr etholedig i gynrychioli anghenion eu cymuned. Un fantais fyddai'r cyswllt rhwng atebolrwydd democrataidd awdurdod yr heddlu ac atebolrwydd awdurdod lleol. Byddai hefyd yn arwain at ymagwedd fwy cyfannol a chydgysylltiedig tuag at faterion yn ymwneud â diogelwch cymunedol yn fwy cyffredinol, gan roi hwb i rôl partneriaethau.
Cyfeiria'r Papur Gwyrdd hefyd at faint heddluoedd unigol a'r cyswllt rhwng maint ac effeithiolrwydd gweithredol. Mae ein hymateb yn seiliedig ar y gred y dylai pob heddlu fod o faint priodol i ymateb i anghenion eu cymunedau lleol, ac mae'n cydnabod bod cymunedau'n amrywio oherwydd eu hanes a'u diwylliant. Yn hanesyddol, mae'r pedwar heddlu yng Nghymru wedi adlewyrchu eu diwylliannau lleol penodol. Mae gan y Cynulliad gyfrifoldeb hefyd dros y gwasanaethau brys eraill-y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân-â oedd â'r un ffiniau â gwasanaeth yr heddlu i ddechrau ond, dros amser, newidiodd y ffiniau i adlewyrchu'r cymunedau'n well ac i fod yn fwy addas at ddibenion strategol. Mae hyn wedi arwain at greu tair ardal gydffiniol ar gyfer y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans sy'n cyfateb â chynghreiriau strategol gwasanaethau cyhoeddus eraill. Yn fy ymateb i'r Papur Gwyrdd gofynnais a fyddai'n fwy effeithlon ail-lunio ffiniau pedwar heddlu Cymru i gyfateb â ffiniau'r gwasanaethau brys eraill. Gadewch imi bwysleisio mai codi'r mater yn unig a wna'r ymateb hwn-nid yw'n dadlau o blaid canlyniad penodol. Yn hytrach, mae'n nodi'r angen i ystyried y mater hwn yn briodol ac ar sail tystiolaeth.
Beth bynnag fo ffurf derfynol yr heddluoedd yng Nghymru, mae ein hymateb yn pwysleisio'r angen i'w gwasanaethau yn y cefndir-ymdrin â galwadau, cysylltiadau, cyllid a gweinyddiaeth-fod yn fwy cydgysylltiedig. O ran rheoli, ymdrin â galwadau, a chysylltiadau, byddai'n fanteisiol pe bai'r rhain yn fentrau ar y cyd â'r gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans, ac mae hyn yn rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn Nyfed Powys. Gallai hyn roi gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol gydag arbedion cost. Yn y tymor hwy, gellid gwneud arbedion cost eraill drwy gydgysylltu gwasanaethau cefndir â chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, sy'n ymgymryd â mwy o swyddogaethau sy'n debyg i swyddogaethau'r heddlu drwy ymgymryd â thrwyddedu, safonau masnach a wardeiniaid cymunedol. Yn ogystal â gwell ymgysylltu ar y lefel ymarferol hon, mae ymateb Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn tynnu sylw at yr angen am y synergedd mwyaf posibl rhwng cyfrifoldebau plismona'r Swyddfa Gartref a'n cyfrifoldebau ym meysydd llywodraeth leol, iechyd ac addysg. Mae angen inni gydweithio i ddatblygu'r polisi plismona mwyaf effeithiol i Gymru.
Mae'r Papur Gwyrdd hefyd yn trafod nifer o faterion mwy cyffredinol. Ar ran y weinyddiaeth, yr wyf wedi croesawu'r cysyniad o gydweithredu rhwng yr heddlu a chymunedau lleol, tra'n gofyn am eglurhad ynglyn â sut y câi'r cysyniad ei roi ar waith. Yr wyf wedi awgrymu mai'r ffordd orau o sicrhau cydweithrediad a phartneriaeth rhwng cyrff perthnasol ar lawr gwlad fyddai drwy ddefnyddio'r strwythurau presennol. Yng Nghymru, mae partneriaethau diogelwch cymunedol wedi datblygu gweithgorau sy'n seiliedig ar themâu, megis trais yn y cartref, neu ar ardaloedd sydd fel arfer yn seiliedig ar wardiau cyngor ac ardaloedd arolygwyr yr heddlu. Gan fod y grwpiau ardal yn bwydo i mewn i'r partneriaethau diogelwch cymunedol cyffredinol i'r sir gyfan, mae'r partneriaethau yn gallu dylanwadu ar blismona yn y ward a'r fwrdeistref ynghyd â monitro perfformiad lleol. Mae yma fodelau, a allai helpu, yn ein barn ni, gydag ymgais y Papur Gwyrdd i ddod o hyd i ddulliau mwy effeithiol o sicrhau atebolrwydd lleol.

Drwy fanteisio ar y strwythurau presennol gellir lleihau'r angen am eiriolwyr cymunedol. Mae'r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad yn radical ac yn bellgyrhaeddol. Mae'r prif themâu, sef mwy o ymgysylltu rhwng yr heddlu a chymunedau, ymateb yn well i anghenion lleol, a bod yn fwy atebol, i'w croesawu. Mae'r ymateb a amlinellais y prynhawn yma wedi'i gynllunio i ystyried y themâu hyn a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn yng Nghymru yn y ffordd orau i ddiwallu ein hanghenion, ein hamgylchiadau a'n hagenda bolisi unigryw ein hunain.