Skip to content

Y Cynllun Gweithredu Busnes a'r Amgylchedd ar gyfer Cymru – Adroddiad Blynyddol Cyntaf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Busnes a'r Amgylchedd ar gyfer Cymru ddiwedd Chwefror 2003.  Mae'n deillio'n uniongyrchol o ddyletswydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes datblygu cynaliadwy, ein hamcanion o ran gweithio mewn partneriaeth a'r weledigaeth strategol ar gyfer busnes a'r amgylchedd fel y'i disgrifir yn y bennod "Pennu Cyfeiriad Newydd" yn "Cymru'n Ennill".

Pan lansiais y cynllun yn y Cyfarfod Llawn, nodais fod adroddiad blynyddol yn cael ei gynnwys yn awtomatig mewn cynlluniau gweithredu fel hwn, ac felly rwy'n falch iawn o gael cyhoeddi'r cyntaf o'r adroddiadau hyn. Fe'i lluniwyd mewn ymgynghoriad â'r grwp llywio a gafodd ei greu er mwyn rhoi'r cynllun ar waith.

Mae'r adroddiad yn dangos yn glir y pethau amlwg a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf hon gan bartneriaid ac asiantau eraill a oedd yn gyfrifol am reoli adnoddau'r cynllun.  Mae ansawdd ac amrywiaeth y gweithgareddau y manylir arnynt yn yr adran ar y gwaith sydd ar y gweill hefyd yn argoeli'n dda iawn o ran manteision mawr eraill i fusnesau i'w helpu i roi arferion gorau amgylcheddol ar waith.

Bydd y Panel Arbenigol newydd ar Reoli Adnoddau yn ddylanwad strategol arwyddocaol o ran darparu cyfeiriad strategol a diffinio'r cam nesaf yn y cynllun gweithredu.

Felly, mae'n sicr y bydd cwmpas ac effaith y cynllun yn cynyddu dros y blynyddoedd i ddod ac mae eisoes yn rhan annatod o bolisi a strategaethau craidd Llywodraeth y Cynulliad.  O ganlyniad, mae ganddo ran i'w chwarae wrth gyflawni agweddau allweddol ar ein gweledigaeth strategol yn "Cymru: Gwlad Well".  Yn benodol, mae ganddo rôl glir o gyflawni yng nghynllun datblygu cynaliadwy y Cynulliad Cenedlaethol a ddiweddarwyd - "Dechrau Byw'n Wahanol" - ac yng nghynllun gweithredu drafft datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.   Mae'r Cynllun Gweithredu Busnes a'r Amgylchedd ar gyfer Cymru hefyd yn ymddangos yn strategaethau "Yn Gall Gyda Gwastraff" a "Cymru'n Ennill".

Mae adroddiad blynyddol dwyieithog ar wefan y Datganiadau gan y Cabinet   ynghyd â'r datganiad hwn.