Skip to content

Mesur Addysg 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg A Dysgu Gydol Oes
Yn sgil datganoli, rydym wedi cael nifer o gyfleoedd i ystyried ac i greu agenda sy'n unigryw i Gymru, yn arbennig o ran ein cynlluniau i sefydlu Cymru fel Gwlad sy'n Dysgu.  Er mwyn bwrw'n hagenda yn ei blaen mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn llawn i lywio cynigion deddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion ein gwlad orau. Gan gofio hynny, rwy'n falch dweud y bydd Mesur Addysg 2004, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, yn cael ei gyflwyno i'r Senedd fory.

Y Mesur fydd thema 4ydd sesiwn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU - ar ryddhau ein gwasanaethau cyhoeddus i wella darpariaeth. Caiff hyn ei adlewyrchu mewn mesurau yr ydym wrthi'n eu datblygu yng Nghymru, er enghraifft llwyth gwaith athrawon a rhyddhau mwy o amser ar gyfer dysgu ac addysgu drwy leihau pwysau biwrocrataidd diangen: mesurau a gyhoeddwyd yn Y Wlad sy'n Dysgu, ein dogfen ymbaratoi ar gyfer deddfwriaeth ym maes addysg gynradd ac uwchradd a'n datganiad strategol ar raglen addysg a dysgu gydol oes gynhwysfawr yng Nghymru hyd 2010.

Mae'r Mesur Addysg yn gweithredu ymrwymiadau polisi a chynigion yr Adran dros Addysg a Sgiliau a nodwyd yn y Five Year Strategy for Children and Learners a New Relationship with Schools. Ar gyfer Cymru mae'n parhau i fynd i'r afael â'r ymrwymiadau polisi a'r cynigion a gyflwynwyd gyntaf yn Y Wlad sy'n Dysgu.

Mae'r Mesur yn ymdrin â Chymru a Lloegr yn unig, ar wahân i ddwy ddarpariaeth sy'n ymdrin â'r Deyrnas Unedig. Bydd yn cael ei rannu'n 5 rhan ac mae tua 120 o gymalau a 19 o Atodlenni ynddo. Ar y cyfan mae'r darpariaethau'n ymwneud â Chymru a Lloegr (59 o gymalau), er bod amrywiaethau yn y darpariaethau manwl ar gyfer y ddwy wlad. Mae nifer o ddarpariaethau (40 cymal) yn ymwneud â Chymru'n unig: mae nifer o ddarpariaethau (25 cymal) yn ymwneud â Lloegr yn unig.

Yn gyffredinol, bydd y Mesur yn darparu ar gyfer:
 
  Arolygiadau mewn ysgolion ac arolygiadau eraill gan arolygwyr ysgolion
 trefniadaeth ysgolion
 hyfforddi gweithlu'r ysgol
 materion amrywiol, gan gynnwys: ariannu ysgolion a gynhelir; darparu addysg uwch mewn ysgolion a gynhelir; darparu a rhannu gwybodaeth;  dulliau eraill o ddarparu addysg ar gyfer disgyblion sydd wedi'u gwahardd
 materion cyffredinol: diddymu, cychwyn ac ati


Golyga hyn y byddwn yn gallu:

 datblygu'r trefniadau arolygu yng Nghymru ymhellach fel yr ydym ni'n eu hystyried yn briodol, ac o fewn amserlen o'n dewis ni, wrth i'r fframwaith arolygu cyffredin gael ei sefydlu

 egluro rolau a chyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â swydd y Prif Arolygydd ac amodau a thelerau Arolygiaeth Ei Mawrhydi.

 sicrhau bod y gwaith o arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yn gyfartal â meysydd eraill

 sefydlu panel i gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar faterion yn ymwneud ag Estyn

 galluogi ysgolion i ddarparu modiwlau addysg uwch - neu sesiynau profi - ar gyfer y disgyblion mwyaf galluog, gan agor llwybrau dysgu newydd a fydd yn helpu i ehangu mynediad i addysg uwch a chynyddu'r nifer sy'n mynd i addysg uwch

 cyflwyno trefniadau ar gyfer casglu data a rhannu gwybodaeth o ran oedolion sy'n gweithio yn y sector ysgol i'n helpu i lywio'n polisïau ar gyfer y dyfodol, er enghraifft y galw neu gyflenwad o ran y gweithlu

 cefnogi'n polisi cynhwysiant cymdeithasol drwy gyflwyno ffyrdd o rannu data i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu manteisio ar hynny'n rhwydd

 cefnogi'n polisïau o ran ymdrin â disgyblion sy'n ymddwyn yn wael, o ran mynd i'r afael â dadrithiad ac o ran lleihau absenoldeb drwy geisio sicrhau bod disgyblion yn mynychu darpariaethau addysg amgen

 rhoi hyd yn oed mwy o gymorth i'r gweithlu ysgol ehangach.

Ar wahân i ddarpariaethau sy'n berthnasol i Loegr yn unig, er enghraifft pwerau i gyflwyno proffil ysgol, mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru yn alluogol o ran eu natur. Golyga hyn, yn amodol ar ddeddfiad, y bydd gan y Cynulliad bwerau disgresiwn i benderfynu i ba raddau y cânt eu cyflwyno yng Nghymru, fel y nodwyd yn Y Wlad sy'n Dysgu ac wedi hynny drwy gychwyn a gweithredu darpariaethau yn y Ddeddf Addysg 2002 sy'n berthnasol i Gymru.

Ar y cyfan bydd y Mesur yn ymdrin ag ysgolion neu faterion sy'n gysylltiedig ag ysgolion. Yng nghyd-destun ein rhaglen tymor hirach ar gyfer addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru hyd 2010, bydd yn gam deddfwriaethol arall ymlaen yn ein rhaglen bellgyrhaeddol i gefnogi a datblygu'n rhaglen gynhwysfawr ar gyfer addysg a dysgu gydol oes, sydd wedi'i disgrifio yn Y Wlad sy'n Dysgu.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol fod yn fodlon gyda'r hyn fydd ar ddalen flaen y Mesur. Cyflawnwyd hyn drwy feithrin perthynas waith agos a chynhyrchiol â Swyddfa Cymru. Mae'n dangos yn glir sut y mae datganoli'n gweithio i sicrhau y gallwn fod yn hyderus wrth ddarparu system addysg a hyfforddiant unigryw sydd, yn anad dim, er budd dysgwyr ym mhob rhan o Gymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd copïau o'r Mesur a'r Nodiadau Esboniadol ar gael drwy Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau.