Skip to content

Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Ar 14 Gorffennaf, nodais fwriad Llywodraeth y Cynulliad i leihau a diwygio’r wladwriaeth gwango yng Nghymru, gan gryfhau atebolrwydd democrataidd. Yr oedd y cyhoeddiadau a wnaed y diwrnod hwnnw’n ymwneud â 70 y cant o’r wladwriaeth gwango. Heddiw, cyhoeddaf ein rhaglen ddiwygio ar gyfer y 30 y cant ohoni sy’n weddill.

Ein polisi yw, os yw cyrff cyhoeddus gweithredol a noddir gan y Cynulliad yn ymgymryd â swyddogaethau sy’n rhai llywodraethol, un ai o ran polisi neu o ran gweithredu, y dylid eu hymgorffori. Gellir cyfiawnhau bodolaeth cyrff hyd braich mewn llywodraeth, ond nid oes y fath beth ag arian cyhoeddus hyd braich. Gweinidog sy’n gyfrifol am ei ddyrannu bob amser a’r Cynulliad sydd bob amser yn gyfrifol am graffu arno. Ni ellir osgoi’r cyfrifoldeb hwnnw.

Tra bo’r penderfyniadau ar Awdurdod Datblygu Cymru, Dysgu ac Addysgu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru yn gymharol syml, gwelir yn y cyrff sy’n weddill gymysgedd mwy cymhleth o swyddogaethau a fframweithiau cyfreithiol ac amddiffyniad rhag ymgorffori yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998. Gofynasom am farn y cyrff dan sylw a chyfarfûm yn unigol â’r cyrff hynny a ofynnodd am gael cwrdd. Nid yw’r penderfyniadau yr wyf yn eu cyhoeddi’n ymwneud o gwbl â pherfformiad cyrff unigol a’u staff, a’u hamcan yw symleiddio ffurf sector cyhoeddus Cymru ar ôl datganoli.

Ynghylch yr amgylchedd, cynllunio a chefn gwlad, er mai swyddogaethau llywodraethol gan mwyaf sydd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mae’r cyngor ar restr y rhai na ellir cyffwrdd â hwy yn Neddf Llywodraeth Cymru a byddai ei ymgorffori’n gofyn deddfwriaeth sylfaenol mewn maes cyfreithiol cymhleth. Er nad oes gennyf unrhyw fwriad i newid swyddogaethau statudol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, bydd cynllun Tir Gofal, sy’n cael ei redeg gan y cyngor ar ein rhan ar hyn o bryd, yn cael ei gynnwys yn y weinyddiaeth erbyn 2007 fel rhan o’r gwaith o weithredu’r cynllun datblygu gwledig newydd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gorff rheoliadol sy’n rhan o gwango ar gyfer Cymru a Lloegr. Ni chynigir unrhyw newid i’w statws ond byddwn yn diweddaru ein cyfarwyddyd statudol i’r asiantaeth er mwyn ategu ein barn am ei rôl fel cynghorydd annibynnol i Lywodraeth y Cynulliad yn bennaf.

Yn lle 12 corff ymgynghorol amaethyddol, sy’n ymdrin â chyflogau ac anheddau amaethyddol, bwriadwn gael un corff.
Ar ddiwylliant, yr iaith a chwaraeon, mae swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn llywodraethol eu natur gan mwyaf, yn ymwneud yn bennaf â llunio polisi a dobarthu grantiau. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad ei pholisi iaith ei hun erbyn hyn, sef ‘Iaith Pawb’, a staff yn gweithio arno. Penderfynais y dylai swyddogaethau’r bwrdd gael eu cyfuno â Llywodraeth y Cynulliad cyn Ebrill 2007. Bydd swyddfa dyfarnydd yn cael ei sefydlu i ymgymryd â swyddogaethau rheoleiddio’r bwrdd. Bydd y swyddfa yn goruchwylio cynlluniau iaith cyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys cynllun iaith y Cynulliad. Bydd y swyddfa yn cael ei sefydlu fel un ymgynghorol i ddechrau, ac yn cael ei rhoi ar sail statudol pan ddaw’r cyfle i ddeddfu.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru yn parhau, gan na all y Llywodraeth ddosbarthu arian y loteri. Mae’r ddau gorff yn cyflawni swyddogaethau llywodraethol mewn dau faes lle y ceir mwyfwy o ryngweithio â meysydd polisi eraill, fel adfywio cymunedol, iechyd ac addysg. Yr wyf felly’n ailddiffinio ein perthynas â’r ddau gorff o ran polisi a strategaeth. Cyfunwn y gallu strategol a chynllunio yn y celfyddydau a chwaraeon a geir yn awr yn y ddau gyngor ac ymysg y staff perthnasol yn y Llywodraeth. Bydd penderfyniadau ar ariannu cwmnïau celfyddydol mawr sy’n gwasanaethu Cymru gyfan yn dod o dan ofal y Gweinidog a’r adran. Bydd rôl ymgynghorol o hyd i gyngor y celfyddydau ar y penderfyniadau hynny.

Swyddogaethau anllywodraethol, yn y bôn, yw rhai Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ni chynigiaf unrhyw newid i’w statws. Er hynny, ceisiwn wella’r cyd-drefnu strategol gyda’n cyrff darparu cenedlaethol, a chyd-rhyngddynt, ar lefel y cadeiryddion a’r prif weithredwyr drwy sefydlu Bwrdd Diwylliant i Gymru—Diwylliant Cymru.

Trosglwyddwn swyddogaethau Bwrdd Henebion Cymru a Chyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn CCNC ymgynghorol, a’u hailgyfansoddi’n baneli ymgynghorol yn y Llywodraeth, fel rhan o Cadw. Ni fydd unrhyw newid i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n gorff gweithredol y mae ei swyddogaethau yntau’n rhai anllywodraethol. Ceisiwn gronni’r adnoddau prin, arbenigol a geir ym maes y dreftadaeth adeiledig a chael un enw brand ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau sy’n ymwneud â threftadaeth adeiledig Cymru yn y dyfodol, ond heb effeithio ar y Siarter Frenhinol ei hun.

Ynghylch addysg a dysgu gydol oes, gwnaed sawl ymgymeriad gan Weinidogion yn ystod hynt Mesur Llywodraeth Cymru am Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r bwriad i gadw trefniadau hyd braich, ac adlewyrchwyd hynny wedyn yn y Ddeddf ei hun. Ni fyddai’n iawn ymgorffori ei swyddogaethau. Ynghylch Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, deuthum i’r casgliad y dylem ymgorffori ei swyddogaethau yn Llywodraeth y Cynulliad cyn gynted ag y bo modd, a chyn Ebrill 2007. Byddwn yn cadw uniondeb ei farn broffesiynol annibynnol ar bob un o’i swyddogaethau rheoliadol. Byddwn yn ymgynghori gyda golwg ar ymgorffori’r cyn-gwango, Cyngor Ieuenctid Cymru, yn 2006, gydag ymrwymiad parhaus i gyflawni’r amrediad o weithgareddau y mae’n ymgymryd â hwy ar hyn o bryd.

Ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r agenda wedi symud ymlaen ers creu Proffesiynau Iechyd Cymru fel CCNC gweithredol. Mae angen y swyddogaethau hynny o hyd, ond deuthum i’r casgliad y gellid eu cryfhau a’u cyflawni’n symlach drwy gyrff iechyd sydd eisoes yn bod. Caiff Proffesiynau Iechyd Cymru ei ddirwyn i ben a throsglwyddir ei swyddogaethau erbyn Ebrill 2006. Sefydlir Canolfan Iechyd Cymru yn ffynhonnell cyngor annibynnol ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd, a rhaid i’r cyhoedd allu gweld ei bod yn annibynnol. Awn ymlaen i sefydlu’r ganolfan ond ymgynghorwn gyda golwg ar roi iddi swyddogaethau rhyw naw o’r pwyllgorau ymgynghorol presennol ar iechyd, a ddynodwyd yn CCNC ymgynghorol, sy’n cynnig cyngor proffesiynol, gwyddonol a meddygol.

Ad-drefnwyd y GIG yn 2003-04 a rhaid i unrhyw newid pellach fod yn organig yn hytrach na chyffredinol. Gofynnwn am gynigion ar gyfer cyfuno ymddiriedolaethau GIG a byrddau iechyd lleol os ydynt yn cydffinio ac os bydd y cyfuno’n cynnig manteision gwirioneddol i gleifion a chleientiaid. Byddwn hefyd yn gofyn am gynigion lle y mae byrddau iechyd lleol, drwy gytuno ag ymddiriedolaethau lleol, yn ceisio ymgymryd â chyfrifoldeb dros elfennau mewn gwasanaethau iechyd cymunedol. Swyddogaethau annibynnol a chwbl reoliadol yn y bôn yw rhai Cyngor Gofal Cymru, ac ni chynigiaf unrhyw newid.

Yr wyf yn sicrhau staff sy’n gweithio yn y cyrff a effeithir ein bod wedi ymrwymo i sicrhau y cânt eu trin yn deg ac yn gyson drwy gydol y broses trosglwyddo, ac y parchir hawliau a geir o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Gwarchod Cyflogaeth) 1981 os cânt eu trosglwyddo. Drwy hyn, ynghyd â’r penderfyniadau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, byddwn wedi cymryd cam mawr ymlaen, erbyn diwedd y Cynulliad hwn, wrth leihau’r wladwriaeth gwango yng Nghymru. Yr hyn a geir o ganlyniad fydd atebolrwydd democrataidd cliriach ar gyfer yr arian cyhoeddus a wariwn, a gwell gwasanaeth i bobl Cymru.