Skip to content

Deddf Drwyddedu 2003 - ffurflenni cais dwyieithog

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex , y Gweinidog dros Gyllid,Llywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus
Rwy'n ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau ynghylch y ffaith nad oes ffurflenni cais dwyieithog am drwydded ar gael o dan Ddeddf Drwyddedu 2003.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU wedi datgan eu hymrwymiad i roi effaith i'r egwyddor a sefydlwyd yn Neddf yr Iaith Gymraeg y dylid  trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Nid yw trwyddedu alcohol ac adloniant yn faterion sydd wedi'u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gyhoeddi ffurflenni cais dwyieithog.

Mae Gweinidogion y Cynulliad yn awyddus i sicrhau y dylai unigolion a sefydliadau sy'n delio â chyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru gael yr un cyfle i ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ag a gynigir yn y Saesneg. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i'w hatgoffa o ymrwymiad Llywodraeth y CU i'r iaith Gymraeg ac i ofyn iddi weithredu'n gyflym i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i lenwi fersiynau Cymraeg o'r ffurflenni cais. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wedi hysbysu swyddogion yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am oblygiadau gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg, a'r materion ymarferol sy'n deillio o hynny.

Wrth ymateb i anghenion lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyfieithu'r ffurflenni allweddol i'r Gymraeg ac mae hefyd yn mynd ati i gyfieithu'r ffurflenni sy'n weddill.  Gyda chytundeb Conwy, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hannog i ddilyn esiampl Conwy, ac yn amgáu copïau electronig o'r ffurflenni.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ysgrifennu at holl Adrannau Llywodraeth y DU i'w hatgoffa o'u hymrwymiad i gydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg er mwyn atal sefyllfa o'r fath rhag codi eto yn y dyfodol.