Skip to content

Setliadau Refeniw a Chyflaf Dros Dro Llywodraeth Leol 2006-07

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw rwy'n cyhoeddi manylion setliadau refeniw a chyfalaf 2006-07 ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru.

Y Setliad Cyffredinol

Y flwyddyn nesaf, ar ôl gwneud addasiadau ar gyfer trosglwyddo arian, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 5.1%, ar gyfartaledd, ar setliad y flwyddyn flaenorol.

Mae'r cynnydd hwn yn yr arian a ddarperir gan y Cynulliad yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl o'r pwysau cyllid y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu.  Mae'r ystyriaeth hon wedi'i llywio gan y lefel uchel o gydweithredu sy'n parhau â llywodraeth leol drwy'r Is-Grwp Gwariant, i nodi'r pwysau, ac i gytuno ar y rhagdybiaethau sy'n sail i'r penderfyniadau ynghylch costau'r pwysau hyn. Mae'r broses hon yn caniatáu inni nodi'n fanylach y rhagdybiaethau cost y mae'r setliad yn seiliedig arnynt, gan barhau ein pwyslais ar dryloywder o fewn y setliad.

Er mwyn talu am y cynnydd yng nghostau cyflogau a phrisiau yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyfraniadau pensiwn a chostau gweithredu archwiliadau cyflog cyfartal rydym wedi barnu y dylir ddyrannu £107 miliwn ychwanegol.

Hefyd mae £45 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phwysau yn y system gofal cymdeithasol, gan gynnwys cefnogi'r nod o sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn gofal gartref ac yn eu cymunedau, gan osgoi mynd â phobl i'r ysbyty, gwella'r broses gomisiynu a mynd i'r afael â'r costau sy'n gysylltiedig â chyrraedd safonau gofal uwch ynghyd â phwysau eraill a nodwyd gan yr Is-Grwp Gwariant o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio.

Mae £12 miliwn arall wedi'i gynnwys i gwblhau'r gwaith o weithredu Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon. Mae hyn yn ychwanegol at y £58 miliwn a gyflwynwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, gan rhoi gwaelodlin cyfredol o £70 miliwn.

Hefyd mae'r setliad yn cynnwys £3 miliwn arall i gydnabod y costau ychwanegol y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu yn sgil treth dirlenwi uwch a £1 miliwn i awdurdodau baratoi ar gyfer cyflwyno'r arfer o drwyddedu tai amlfeddiannaeth.

Mae'r Grant Cynnal Refeniw hefyd yn cynnwys yr £20 miliwn a ddarparwyd yn flaenorol drwy'r Grant Adnoddau Ymarferol.  Mae'r Grant yn cynnal gallu llywodraeth leol i gynorthwyo'r oedrannus yn eu cymunedau a lleihau trosglwyddiadau gofal ohiriedig.  Wedi'u cynnwys hefyd mae'r £15 miliwn o ail gam Grant Rhoi Plant yn Gyntaf a £6 miliwn o'r Grant Gofalwyr. Mae'r trosglwyddiadau hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i drosglwyddo Grantiau Penodol i'r setliad i bob awdurdod, lle bo hynny'n briodol.

Grantiau Penodol

Er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr o'r arian y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2006-07, ac i ganiatáu i'r awdurdodau gyllidebu'n effeithiol, rwyf heddiw hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y grantiau penodol eraill y gallant ddisgwyl eu derbyn y flwyddyn nesaf. Mae'r wybodaeth yr wyf yn ei rhyddhau am grantiau penodol yn dangos y bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £3.5 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn mwy na £400 miliwn mewn grantiau penodol. Mae'r prif elfennau cyllid a ddarperir drwy grant penodol yn cynnwys £54 miliwn ar gyfer Cymorth sy'n darparu rhwydwaith o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn gwella eu cyfle mewn bywyd a thua £35 miliwn i ariannu teithio bws am ddim i oedolion hŷn a'r anabl.

Wrth inni fwrw ymlaen â'r cynlluniau gwario y cytunwyd arnynt i mewn i'w hail flwyddyn, mae angen inni sicrhau bod gan bobl hyder o hyd yn y cynlluniau hynny. Rwyf wedi bod yn ofalus iawn i beidio â thynnu'n ôl ar unrhyw un o'r ymrwymiadau gwario a wnaed gennyf y llynedd, heb fod angen. Byddai gwneud hynny yn tanseilio trefniadau cynllunio'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n benderfynol o lynu at y cyfeiriad yr ydym wedi'i bennu o ran cynaliadwyedd hirdymor, sef buddsoddi yn ein plant a'n pobl ifanc ac yn ein seilwaith cyfalaf. Mae rhan bwysig gan Lywodraeth Leol i'w chwarae wrth fwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn, gan gynnwys addysg a gofal cymdeithasol.

Dosbarthu rhwng Awdurdodau

Mae goblygiadau cyffredinol y setliad i awdurdodau unigol yn dibynnu ar fformiwla'r asesiad o wariant safonol. Mae tabl sy'n traethu dadansoddiad o'r setliad ar gyfer bob awdurdod yn cyfeilio'r datganiad yma.  Mae manylion  o'r cynnydd mewn dyraniadau'r setliad refeniw ar gyfer bob awdurdod wedi'u mynegi ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau ac effaith yr Adroddiad Diwygiedig ar gyfer 2004-05 ar 2005-06.  Mae'r Adroddiadau Diwygiedig yn adlewyrchu yr effeithiau sy'n codi o chywiriadau i'r amcangyfrifon pobloageth a ddefnyddiwyd yn y fformiwla.  Mae tablau pellach gan gynnwys dyraniadau unigol o'r setliad cyfalaf i'w gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'n bwysig diweddaru'r fformiwla yn gyson i adlewyrchu mor gywir â phosibl angen pob awdurdod i wario er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau.  Ond gall y newidiadau hyn yn y fformiwla greu cryn gythrwfl o ran y cyllid ar gyfer llywodraeth leol fel oedd yr achos  ar gyfer y flwyddyn presennol yn dilyn cyflwyniad, ymysg eraill, y fformwlâu newydd i wasanaethau cymdeithasol personol ar gyfer phlant a phobl ifanc ac oedolion hŷn  . Mae'n bwysig eleni bod gan awdurdodau rywfaint o sefydlogrwydd yn eu cyllid er mwyn rheoli'r ddarpariaeth gwasanaeth ac osgoi rhoi gormod o bwysau ar godiadau mewn treth gyngor. Rwyf wedi cytuno felly â Llywodraeth Leol a thrwy'r Fforwm Ymgynghorol dros Gyllid na ddylid newid y fformiwla ar gyfer 2006-07.

I'r rhai a fydd yn symud i fyny dri band neu fwy, bydd cynllun rhyddhad trosiannol yn parhau, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth y Cynulliad, er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar filiau treth gyngor y perchnogion tai hyn yn y flwyddyn i ddod.  Yn ogystal â'r cyllid a ddarperir drwy'r setliad, rwy'n rhoi amcangyfrif o £3 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol i'r diben hwn.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i bawb yng Nghymru sydd â hawl i Fudd-dal y Dreth Gyngor ei dderbyn. Er nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gyflawni hyn.

Setliadau Tair Blynedd

Ar gyfer 2007-08 a 2008-09, bydd y ffigurau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft y Cynulliad ar gyfer y Grant Cymorth Refeniw yn rhoi mwy o'r manylion angenrheidiol i'r awdurdodau er mwyn paratoi eu cynlluniau ariannol a strategol canol tymor. Bydd papur ymgynghori yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon, a fydd yn nodi'r materion y mae angen mynd i'r afael â hwy er mwyn symud i lefel uwch byth o sefydlogrwydd a sicrwydd o ran cynlluniau strategol llywodraeth leol drwy greu setliadau tair blynedd.

Creu'r Cysylltiadau

Mae datganiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, "Creu'r Cysylltiadau", yn nodi'r ymrwymiad i sicrhau bod y twf mewn adnoddau yn cael ei ganolbwyntio'n fwyfwy ar wella ansawdd y gwasanaeth a bod arbedion sylweddol yn cael eu sicrhau drwy effeithlonrwydd yn y dull o ddarparu gwasanaeth.  Fe ddisgwylir i lywodraeth leol yng Nghymru i wneud cynnydd effeithlonrwydd o 1%  ar eu gwariant blynyddol, mae thua £33 miliwn o hyn i'w gymryd o 'haenen uchaf' RSG - mae hyn yn arbedion arian ac yn cyfrannu tuag at y cynnydd gwasanaeth a honnir yn RSG.  Mae'r gweddill yn aigylchiedig i flaenoriaethau yr awdurdodau lleol eu hun.  Byddaf yn gweithio ar y cyd â chynghorau i arolygu eu Cynlluniau Gwerth ei arian i wirip sut y cyflawnir hyn.

Rwyf wedi fy narbwyllo bod gan lywodraeth leol y gallu a'r uchelgais i arloesi ar lefel sylweddol wrth ddarparu gwasanaeth.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi llywodraeth leol yn hyn o beth drwy'r cynllun Rhagoriaeth Cymru i hyrwyddo a throsglwyddo arferion da a thrwy "Gwerth Cymru", ffynhonnell arbenigedd ar draws y sectorau cyhoeddus ar gaffael a rhannu gwasanaethau.  

Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod ei bod yn gyfrifoldeb arni hefyd i leihau'r baich ar lywodraeth leol lle bo hynny'n bosibl. I'r diben hwnnw mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i leihau'r baich cynlluniau ar awdurdodau lleol.  

Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau

Mae Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau hefyd yn parhau eleni. Nod y cynllun hwn yw gwobrwyo cyfraniad awdurdodau lleol i ddatblygiad economaidd. Drwy'r cynllun hwn mae mwy na £60 miliwn yn cael ei ddarparu, y tu allan i gyllideb arferol y Cynulliad i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru dros y 3 blynedd nesaf. Gan mai dim ond amcangyfrif y gallwn ei wneud o ran faint o dwf y bydd awdurdodau lleol yn ei greu ar sail dadansoddiad o'r tueddiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyfanswm yr adnoddau ychwanegol sydd ar gael yn cael eu hystyried yn rhan o'r Gwariant a Reolir yn Flynyddol ac yn destun adolygiad ddwywaith y flwyddyn. Felly er nad yw'n rhan o Derfyn Adrannol y Cynulliad, at ddibenion tryloywder dangosir hyn fel llinell ar wahân yn y gyllideb derfynol. Mae'r cynllun hwn yn gwobrwyo ac yn rhoi cymhelliant i awdurdodau lleol Cymru am eu llwyddiant ym maes datblygu economaidd, yn ogystal â darparu'r adnoddau i awdurdodau lleol gynnal twf pellach.

Setliad Cyfalaf

O ran y setliad cyfalaf, mae'r dyraniad cyfalaf ar gyfer 2006-07, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol wedi cynyddu i £620 miliwn, sef cynnydd o 4.4%.

Mae'r Gronfa Cyfalaf Cyffredinol yn parhau'n agos i lefel y llynedd yn 2006-2007 ac mae'n dod i ryw £213 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a thelir £48.5 miliwn ohono fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £164.1 miliwn, fel cymorth i fenthyca (cymeradwyaethau credyd gynt).

O ran grantiau cyfalaf penodol, mae'r rhain wedi cynyddu 5.9% i £404 miliwn.

Daw'r cynnydd hwn yn sgil grant cyfalaf strategaeth wastraff ychwanegol a chyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub.

Wrth gloi, rwyf wedi rhyddhau'r holl wybodaeth hon nawr er mwyn rhoi gwybodaeth i awdurdodau cyn gynted â phosibl iddynt seilio eu cynlluniau cyllidebol eu hunain arni, gan wybod beth y gallant ddisgwyl ei dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Rwyf o'r farn bod hwn yn setliad da i awdurdodau lleol. Mae'n cydnabod y prif bwysau sydd ar lywodraeth leol. Rwy'n llawn ddisgwyl i'r awdurdodau ystyried yn ofalus wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol gydag awdurdodau lleol ar y setliad dros dro. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i law.