Skip to content

Heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons,Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y llynedd, gwnaethom gais i Is-grwp Cymru ar Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd edrych ar ffyrdd o gynhyrchu gwybodaeth gywir a hawdd i'w deall am heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.  Rydym am sicrhau bod gan gleifion y wybodaeth y maent ei hangen am risgiau sy'n gysylltiedig â heintiau, i helpu iddynt wneud penderfyniadau deallus.

Mae'r Is-grwp, sydd wedi bod yn flaenllaw ym maes casglu data bacteremia, wedi defnyddio eu harbenigedd i ddatblygu amlinelliad o'r hyn y gallai'r cynllun newydd ei gyflawni. Maent wedi darparu cynnig drafft a bydd fy swyddogion yn ei gyhoeddi cyn bo hir yn destun ymgynghoriad ffurfiol am dri mis, gan adrodd yn ôl unrhyw sylwadau a dderbyniwyd a rhoi cyngor i mi ar gynllun newydd.  Fe fyddaf yn sicrhau fod pawb yn derbyn copïau o'r ddogfen ymgynghori.

Rwyf am gymryd y cyfle hwn i bwysleisio fy ymrwymiad i sicrhau bod Ymddiriedolaethau yn cymryd camau i leihau nifer yr achosion o heintiadau mewn ysbytai; ac i sicrhau bod sefydliadau yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sy'n hawdd ei gael a fydd yn helpu cleifion a'u teuluoedd ar adeg pryd y gallent fod o dan straen ac yn agored i niwed.
Mae'n hanfodol bod cleifion a'r cyhoedd yn ganolog i unrhyw broses o wneud penderfyniadau ac rwyf am iddynt hwy gynnig ffyrdd ymlaen inni. Felly, rwyf wedi gofyn i'r Cynghorau Iechyd Cymuned helpu i drefnu nifer o grwpiau lle y bydd gan y cyhoedd gyfle i rannu eu syniadau fel rhan o'r broses ymgynghori.  

Y ffordd orau i gleifion gael gwybodaeth unigol am y perygl o gael heintiad yw trwy siarad â'u clinigydd, ond rwyf am i'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwell dealltwriaeth o natur Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal a'r risgiau sy'n gysylltiedig â hwy.