Skip to content

Deddf Mabwysiadau a Phlant 2002

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cafodd Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 y Cydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd 2002.  Mae'r Ddeddf yn ailwampio'r holl fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer mabwysiadu yn y wlad hon a rhwng gwledydd fel y’i sefydlwyd o dan Ddeddf Mabwysiadu 1976.

Ein bwriad gwreiddiol oedd dod â'r Ddeddf a'i rheoliadau cysylltiedig i rym yn llawn ym mis Medi 2005.  Er hynny, rwyf yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod  awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn cael digon o amser i baratoi ar gyfer y newid deddfwriaethol mawr hwn.  Mae'r Gweinidogion yn yr Adran Addysg a Sgiliau, yr Adran Materion Cyfansoddiadol a minnau felly wedi cytuno y dylid dod â'r ddeddfwriaeth i rym yn llawn bellach ar 30 Rhagfyr 2005.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfle llawn i drafod yr holl reoliadau hyn yn y Cyfarfod Llawn.

Bydd hyn yn caniatáu i asiantaethau yng Nghymru gael naw mis i baratoi o'r amser y bwriedir gwneud Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) craidd yn Ebrill, a chwe mis i baratoi ar gyfer rheoliadau cysylltiedig sy'n cwmpasu Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu,  Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu, Mynediad at Wybodaeth, penderfyniadau'r Adolygiad Annibynnol o Asiantaethau Mabwysiadu a Gwarchodaethau Arbennig.  

Byddwn yn cynnal cyfres o seminarau datblygu a gwybodaeth i asiantaethau dros y misoedd sydd i ddod fel rhan o'r broses weithredu.

Wrth gwrs rydym eisoes wedi gweithredu rhai o ddarpariaethau allweddol y Ddeddf yng Nghymru, gan gynnwys:

  • 1 Mehefin 2004 - gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n gwneud cwyn o dan Ddeddf Plant 1989 ddiwygiedig
  •  1 Medi 2004 - ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol benodi swyddogion adolygu annibynnol ar gyfer yr adolygiad o achosion plant
  •  1 Hydref 2004 - gwasanaethau cymorth mabwysiadu i'w darparu gan yr awdurdodau lleol ledled Cymru

Nid yw darpariaethau eraill ynghylch rheolau achosion llysoedd teuluol wedi'u datganoli, ac maent wedi'u gweithredu yng Nghymru a Lloegr ar y cyd, gan gynnwys:

  • 1 Rhagfyr 2003 - rhoi cyfrifoldeb rhiant i dadau dibriod sy'n cofrestru genedigaeth eu plentyn ar y cyd gyda'r fam
  •  31 Ionawr 2005 - ehangu'r diffiniad o "harm" i gynnwys unrhyw nam ar iechyd neu ddatblygiad plentyn o ganlyniad i fod yn dyst i gamdriniaeth rhywun arall

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithredu Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn effeithiol.  Rwyf o'r farn bod gohirio gweithredu'r Ddeddf tan ddiwedd y flwyddyn yn gam doeth.  Bydd yn sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r rheoliadau y mae eu hangen er mwyn gweithredu darpariaethau craidd y Ddeddf, bod canllawiau yn gynhwysfawr a bod asiantaethau'n cael digon o amser i baratoi.  Rwyf yn siwr y caiff hyn ei groesawu gan yr awdurdodau lleol ac eraill yng Nghymru y mae angen iddynt gynllunio a pharatoi ar gyfer y newid hwn yn y byd mabwysiadu.