Skip to content

Cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad ar 29 Tachwedd ynghylch Cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru, dywedais y byddwn yn tynnu sylw'r Aelodau at unrhyw ddatblygiadau newydd sylweddol o ran iechyd y cyhoedd.  Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd:  

• Ganol dydd ddoe, roedd 123 o achosion o Cryptosporidiwm wedi'u cadarnhau gan labordy yn ardal Gwynedd ac Ynys Môn. Dyma gynnydd o 36 ar y nifer a nodwyd yn fy natganiad blaenorol. Disgwylir cynnydd pellach yn nifer yr achosion

• Mae'r ymchwiliadau yn dal i ganolbwyntio ar gronfa ddwr Llyn Cwellyn.

• Ar 29 Tachwedd, rhoddwyd cyngor i ferwi dwr, ac mae'r cyngor hwn yn sefyll. Cynghorir pobl i ferwi, ac yna oeri'r holl ddwr a ddefnyddir ar gyfer yfed, paratoi bwyd, golchi dannedd, gwneud rhew a pharatoi bwyd babanod, neu ddefnyddio dwr potel. Dylai'r rheiny â system imiwnedd diffygiol, sy'n fwy agored i afiechydon difrifol, ddefnyddio dwr wedi'i ferwi yn unig. Gellir cael mynediad at gwestiynau ac atebion i bryderon unigol am y cyngor i ferwi dwr drwy wefan Galw Iechyd Cymru, neu drwy'r Llinell Gymorth, sydd hefyd wedi'i darparu gan Galw Iechyd Cymru.
 
• Cynghorir pobl sydd wedi dioddef o afiechyd diarëig parhaus i beidio â mynd i ysgolion, gweithleoedd neu safleoedd sefydliadol eraill am 48 awr ar ôl iddynt wella'n iawn o'u symptomau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n trin bwyd a phobl sy'n gweithio mewn cyfleusterau gofal iechyd. Dylent hefyd ymatal rhag defnyddio pyllau nofio am bythefnos ar ôl iddynt wella'n iawn.
 
• Mae Dwr Cymru yn anfon llythyrau at gartrefi yn nalgylch Llyn Cwellyn, sy'n rhoi gwybod iddynt am yr angen i ferwi dwr cyn ei yfed.
 
• Mae'r Tîm Rheoli Achosion wedi anfon yr un wybodaeth eto i'r holl feddygon teulu yn yr ardal yr effeithiwyd arni, yn dilyn y cyngor a roddwyd yn wreiddiol ar 23 Tachwedd.

• Mae Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Gwynedd ac Ynys Môn hefyd wedi rhoi llythyrau o gyngor i reolwyr yr holl byllau nofio lleol.
  
• Mae'r rhybudd i ferwi dwr wedi arwain at gynnydd disgwyliadwy yn y galw am gymorth oddi wrth y Llinell Gymorth, sydd wedi ychwanegu ail rif ffôn.
 
• Mae'r Tîm Rheoli Achosion wedi trefnu i'r Llinell Gymorth aros ar agor yn hirach a chyflogi mwy o staff er mwyn sicrhau y gellir delio'n effeithlon â'r holl ymholiadau gan y cyhoedd. Dyma rifau ffôn y Llinell Gymorth: 0845 850 9850 a 0845 600 6086. Yr oriau estynedig cyfredol yw rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9am a 5pm ar y penwythnos.