Skip to content

Cyllidebau Awdurdodau Heddlu ac Unedol 2005-2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, y Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Rwy’n ysgrifennu at yr holl awdurdodau unedol a heddlu heddiw i ofyn iddynt am eu bwriadau ar gyfer cyllideb 2005-06.

Mewn llythyrau blaenorol ac mewn cyfarfodydd, rwyf eisoes wedi esbonio’r gofynion y byddaf yn disgwyl i awdurdodau eu bodloni o ran eu cyllidebau.  Yng ngoleuni hyn, calondid imi yw gweld bod cyllidebau llawer o awdurdodau wedi tyfu i raddau helaeth yn unol â’m disgwyliadau.  Rwyf wedi ysgrifennu at yr awdurdodau heddiw i esbonio’r disgwyliadau hyn yn fanylach fyth.  Er mwyn medru gwneud hynny yn y ffordd fwyaf diamwys, rwyf yn eu gosod ar ffurf egwyddorion drafft o dan Adran 52B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.  Amgaeaf gopi o’r drafft hwnnw.

Mae’r egwyddorion drafft hyn yn diffinio’r terfynau y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn teimlo y dylai cyllidebau awdurdodau lleol gadw o’u mewn.  Rhydd Deddf 1992 y pwerau imi roi’r egwyddorion gerbron y Cynulliad.  Unwaith y bydd y Cynulliad wedi cadarnhau’r egwyddorion yn ffurfiol, bydd y ffordd yn glir imi allu cymryd camau ffurfiol, os bydd angen, i enwi awdurdodau sydd wedi pennu cyllidebau sy’n torri’r egwyddorion.

Er nad oes gofyn imi ymgynghori o dan y ddeddf, rwy’n awyddus i roi cyfle i awdurdodau fynegi’u barn i sicrhau ein bod i gyd yn deall ar ba sail y caiff ffigurau cyllidebau 2004-05 a 2005-06 eu diffinio.  Rwy’n siwr bod awdurdodau yn gwerthfawrogi’r eglurder rwy’n eu rhoi iddynt.  Wrth baratoi’r egwyddorion, rwyf wedi dibynnu ar drafod helaeth a rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol ac rwy’n ddiolchgar iddynt.  Rwyf wedi cytuno â CLlLC y daw’r cyfnod ymgynghori i ben erbyn 17 Chwefror.

Ar ôl ymgynghori, os gwelir bod angen bwrw ymlaen â’r cynigion, fy mwriad fydd gofyn i’r Cynulliad roi sêl ei fendith iddynt yn ffurfiol mewn cyfarfod llawn.  Caiff Aelodau’r Cynulliad gyfle i drafod y mater bryd hynny.  Unwaith y bydd yr awdurdodau unedol wedi pennu’u cyllidebau eu hunain, a bydd gofyn iddynt wneud hynny erbyn 11 Mawrth yn unol â'r gyfraith, byddaf yn cymharu’r cyllidebau hynny â’r egwyddorion.