Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Ad Hoc ar Ysmygu Mewn Mannau Cyhoeddus.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiad y Pwyllgor Ad Hoc ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus.

Amlinellir yr ymatebion i'r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad isod. Mae'r argymhellion wedi eu rhifo fel yn Adroddiad y Pwyllgor ond maent mewn grwpiau sy'n dilyn thema.

Prif Argymhelliad: cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn gweithleoedd caeedig a mannau cyhoeddus caeedig

Argymhelliad 1: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gael pwerau a fyddai'n ei alluogi i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn gweithleoedd caeedig a mannau cyhoeddus caeedig (gydag eithriadau penodol) o fewn cyfnod o ddwy i dair blynedd. Dylid cael yr eithriadau canlynol:
• anheddau preifat, a allai fod yn weithleoedd hefyd;
• mannau dynodedig mewn unedau arhosiad hir mewn ysbytai;
• mannau dynodedig mewn cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio;
• mannau dynodedig mewn carchardai;
• Ystafelloedd gwely dynodedig neu gyfres o ystafelloedd mewn gwestai a lletyau gwely a brecwast, a ddefnyddir yn unig gan ymsygwr neu ysmygwr gydag eraill a gytunodd iddo ef neu hi ysmygu, yn unol â pholisïau ysmygu'r rheolwyr.

Ni ddylai cyflogwyr fod â hawl i ofyn i rai nad ydynt yn ysmygu wasanaethu neu lanhau mannau dynodedig.


1. Derbyn.  Ysmygu sy'n bennaf gyfrifol am salwch a marwolaeth cynnar yng Nghymru lle y mae modd eu rhwystro. Rydym yn ymwybodol ers peth amser pa mor niweidiol yw ysmygu i ysmygwyr.  Ond mae tystiolaeth glir erbyn hyn bod dod i gysylltiad â mwg ail law yn achosi salwch anadlol, marwolaeth yn y crud, haint clust ganol a phyliau asthmatig mewn plant.  Mae cynnydd sylweddol yn y risg o ganser yr ysgyfaint, clefyd y galon a chlefydau cronig yr ysgyfaint mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu sy'n dod i gysylltiad â mwg ail law.  Mae ysmygu ail law yn risg difrifol i iechyd y cyhoedd ac mae angen mynd i'r afael â hyn.  Rydym felly'n derbyn y dadleuon a gyflwynwyd gan y Pwyllgor o blaid gwahardd ysmygu yn gyfan gwbl mewn gweithleoedd caeedig a mannau cyhoeddus caeedig.  

2. Wrth ddod i'r casgliad hwn mae Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi'n benodol yr angen i sicrhau bod pob gweithiwr wedi eu diogelu rhag mwg ail law, gan gynnwys gweithwyr yn y sector lletygarwch, lle mae nifer ohonynt ar hyn o bryd mewn perygl sylweddol iawn o ddod i gysylltiad â mwg.  Rydym wedi nodi'r doreth o dystiolaeth wyddonol sy'n cefnogi'r farn nad oes lefel ddiogel o fod mewn cysylltiad â mwg ail law, ac nad yw systemau awyru, er eu bod yn gwneud pethau'n fwy cyfforddus trwy gael gwared ar yr arogl a'r mwg y gellir ei weld, yn cael gwared o'r carsinogenau gwenwynig o'r aer.

3. Nid ydym yn disgwyl y bydd crynswth y canlyniadau economaidd i fusnesau yn debygol o fod yn fawr.  Mae angen pwyso a mesur unrhyw effaith economaidd negyddol yn erbyn y manteision sylweddol posibl i iechyd ac arbedion i'r GIG.  

4. Mae'r Mesur Gwella a Diogelu Iechyd a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn cynnig dull o ddarparu'r pwerau angenrheidiol i Gymru.  Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol ar ddarpariaethau di-fwg y Mesur gan Adran Iechyd y DU a Swyddfa Cymru ar 20 Mehefin.  Argymhellir y dylid galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan delerau'r Mesur i wneud darpariaeth ar gyfer mannau cyhoeddus di-fwg yn unol â'r polisi y byddwn yn ei lunio mewn perthynas â'r mater hwn. Bydd ymatebion o Gymru i ddogfen ymgynghori yr Adran Iechyd, a all fod yn berthnasol i broses ddeddfwriaethol Cymru, yn cael eu derbyn a’u dadansoddi gan Lywodraeth y Cynulliad. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i fynegi eu barn. Dylid anfon ymatebion at Y Gangen Ffyrdd o Fyw, Yr Is-adran Hybu Iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy ebost at: lifestyles@wales.gsi.uk.

5. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr eithriadau a argymhellir gan y Pwyllgor, sy'n cyfeirio at fannau sy'n anheddau neu yn lety unigol.  Bydd rhestr gynhwysfawr o sefydliadau gofal preswyl i oedolion yn cael ei baratoi cyn drafftio'r rheoliadau. Mater i'r Swyddfa Gartref yw carchardai, ond mae papur ymgynghori'r Adran Iechyd yn nodi mai'r bwriad presennol yw gwneud carchardai a chanolfannau cadw eraill yn eithriadau.

6. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn mewn egwyddor yr amserlen o ddwy i dair blynedd a argymhellir gan y Pwyllgor.  Bydd hyn yn dibynnu ar hynt y Mesur Gwella a Diogelu Iechyd drwy'r Senedd a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar reoliadau drafft sy'n gysylltiedig â Chymru.

7. Goblygiadau ariannol: Dim.  Mae costau gweithredu yn cael eu trafod isod mewn perthynas ag argymhellion manwl y Pwyllgor.

Gorfodi a monitro
Argymhelliad 4: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai gorfodi fod yn gyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol.


8. Derbyn.  Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi mynegi eisoes eu cefnogaeth dros weithredu eithriadau yng Nghymru ac wedi nodi y byddai llywodraeth leol yn fodlon cynnwys gwaith monitro ac arolygu fel rhan o'i swyddogaeth yn amddiffyn y cyhoedd.  

9. Goblygiadau ariannol:  Dim yn ystod y flwyddyn ariannol hon.    Mae CLILC yn mesur hyd a lled y gwaith a'r goblygiadau o ran adnoddau ar hyn o bryd.  
Argymhelliad 5: Dylid sefydlu trefniadau ar gyfer gorfodi a monitro mewn pryd ar gyfer y broses weithredu.  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried sefydlu llinell gymorth ar gyfer cydymffurfio, ac ystyried defnyddio arfau eraill megis gwefan ryngweithiol i ymdrin ag ymholiadau.


10. Derbyn. Yn amlwg, dylid sefydlu trefniadau monitro a gorfodi mewn da bryd.  Mae profiad Iwerddon yn awgrymu bod y llinell gymorth, a sefydlwyd i ddelio â galwadau am wybodaeth ynghylch gofynion y ddeddfwriaeth a chwynion am achosion o beidio â chydymffurfio, yn elfen allweddol o gael pobl i gydymffurfio. Bydd angen trafodaethau â llywodraeth leol i benderfynu ar y trefniadau mwyaf addas i Gymru. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda CLlLC er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o weithredu’r gwaharddiad ac o fonitro cydymffurfiaeth.

11. Goblygiadau ariannol:  Dim yn ystod y flwyddyn ariannol hon.  Bydd yn bosibl ariannu gwefan yn cynnwys gwybodaeth a llinell gymorth cydymffurfiaeth (amcangyfrifir y bydd angen £150,000 yn 2006-07 a £500,000 yn 2007-08) o ffigurau dangosol yn llinell gyllidebol Her Iechyd Cymru.
Argymhelliad 6: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid dechrau trafodaethau cyn gynted ag y bo modd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r awdurdodau lleol ynghylch goblygiadau'r gwaith o safbwynt adnoddau.
12. Derbyn.   Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol rhwng y Cynulliad a swyddogion CLlLC ar 11 Mai.  Byddwn yn trefnu cyfarfodydd pellach cyn gynted â bod CLlLC wedi cwblhau'r broses o fesur hyd a lled y gweithlu.

13. Goblygiadau ariannol. Dim.
Cyd-gysylltu ar lefel Cymru gyfan
Argymhelliad 8: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu grwp llywio yn cynwys y prif randdeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, byrddau iechyd lleol, undebau llafur, cyflogwyr a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin ynghylch y materion dan sylw a'u bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gyson.  Gellid cael is-grwpiau ar gyfer datblygu deunyddiau penodol i'r sector ac ar gyfer eu profi yn y maes.

14. Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i gydweithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol wrth weithredu'r gwaharddiad. Mae Grwp Gorchwyl a Gorffen o'r math a argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ffordd briodol o sicrhau  dull cydlynol o weithredu yn ystod y paratoadau cyn cyflwyno'r ddarpariaeth di-fwg, ac ar ddechrau'r cyfnod y daw i rym. Bydd hefyd yn fforwm defnyddiol i ddelio â phryderon rhanddeiliaid.

15. Goblygiadau ariannol: Oes.    Gellid talu am gostau cynnal y Grwp Gorchwyl a Gorffen ac is-grwpiau (amcangyfrifir y bydd angen tua £6,000) o linell gyllidebol bresennol Rheoli Tybaco.

Materion sy'n gysylltiedig â'r sector twristiaeth a lletygarwch

Argymhelliad 2: Byddai'r Pwyllgor yn annog y diwydiant twristiaeth a'r diwydiant croeso i baratoi ar gyfer gwaharddiad drwy hyrwyddo'r buddion a geir o gael amgylchedd di-fwg i ddenu mwy o bobl nad ydynt yn ysmgygu.


16. Derbyn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi safbwynt y Pwyllgor. Mae'r ymgyrchoedd marchnata yn hyrwyddo Iwerddon yn bositif nawr fel cyrchfan di-fwg, ac mae'n ymddangos bod y gwaharddiad yno wedi cael croeso cyffredinol gan dwristiaid domestig a thramor.  Gallai Cymru elwa o fenter debyg.

17. Goblygiadau ariannol:  Dim i'r Cynulliad.  Byddai'n rhaid i'r diwydiannau twristiaeth a chroseso fod yn gyfrifol am unrhyw gostau marchnata ychwanegol yn sgîl hyrwyddo manteision amgylchedd di-fwg i dwristiaid, ac mewn sefydliadau, neu i'r gost gael ei chynnwys o fewn adnoddau marchnata lleol, rhanbarthol neu genedlaethol presennol.  

Argymhelliad 11: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda chyrff yn y diwydiant twristiaeth ac yn arbennig y fasnach drwyddedig i annog a chefnogi'r trawsnewid i amgylcheddau di-fwg ac i ddatblygu y cyfleoedd marchnata a ddaw yn sgîl hynny.


18. Derbyn. Bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei fodloni trwy ddarparu deunyddiau gwybodaeth penodol ar gyfer y sectorau hyn (Argymhelliad 7) a thrwy gyfraniad y sector i'r Grwp Gorchwyl a Gorffen arfaethedig (Argymhelliad 8).

19. Goblygiadau ariannol: Oes.  Gweler paragraffau 15 a 23.

Cyd-gysylltu a gwella gweithgareddau rheoli tybaco Llywodraeth Cynulliad Cymru
Argymhelliad 3: Mae'r Pwyllgor yn argymell, cyn i'r gwaharddiad gael ei gyflwyno, dylid cynyddu ymdrechion i addysgu'r cyhoedd, ac i annog pobl i roi'r gorau i ysmgygu a'u cefnogi yn yr ymdrech.  Dylid targedu mesurau newydd penodol at blant a phobl ifanc i'w hannog i beidio ag ysmygu ac i'w hatal rhag arbrofi a mynd yn gaeth.


20. Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn bwriadu cryfhau ei rhaglen rheoli tybaco fel rhan o'i hymateb i Her Iechyd Cymru. Mae gwaith arloesol gyda phobl ifanc (prosiectau i gael pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a rhoi prosiect addysgu cyfoedion ASSIST ar waith) yn rhan o'r camau sy'n cael eu hargymell.

21. Goblygiadau ariannol: Oes. Mae llinell gyllidebol bresennol yn gyfrifol am ariannu prosiectau i gael pobl ifanc i roi'r gorau i ysmgyu.  Gellid ariannu prosiect addysgu cyfoedion ASSIST (£250,000 yn 2006-07 a £250,000 yn 2007-08) o ffigurau dangosol yn llinell gyllidebol Her Iechyd Cymru.

Argymhelliad 7: Mae'r Pwyllgor yn argymell, cyn gynted ag y gwneir penderfyniad i gyflwyno'r gwaharddiad, dylid cael ymgyrch ar y cyd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd.  Dylai hyn barhau dros flwyddyn gyntaf y broses weithredu.  Dylid ystyried comisiynu cwmni cysylltiadau cyhoeddus i ymgymryd â pheth o'r gwaith.  Dylai'r ymgyrch gwmpasu materion megis:
• Cyflwyno negeseuon craidd am beryglon mwg ail law; agweddau cadarnhaol tuag at ysmygwyr a chymorth iddynt roi'r gorau i ysmgyu;
• taflenni gwybodaeth i wahanol gynulleidfaoedd, yn cynnwys cyflogwyr, gwestywyr, tafarnwyr a chyflogeion;
• Briffio'r wasg a'r cyfryngau;
• Dulliau arloesol o gyfleu'r neges, er enghraifft drwy friffio sefydliadau a phersonél priodol ar draws Cymru i weithredu fel llefarwyr lleol ac i fod yn rhyngweithiol â'r cyfryngau lleol;
• Nodi dulliau arloesol o gyfathrebu negeseuon; a
• Datblygu deunyddiau hysbysebu.



22. Derbyn.  Mae'r camau sy'n cael eu hargymell yn adlewyrchu sylfaen y dystiolaeth ryngwladol ar gyfer gweithredu gwaharddiad llwyddiannus ar ysmygu. Mae ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ehangach wedi ei nodi eisoes fel rhan o ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Her Iechyd Cymru.

23. Goblygiadau ariannol: Oes. Mae gwaith datblygu'r ymgyrch yn 2005-06 yn cael ei dalu o linellau gwariant presennol. Gellid ariannu datblygiadau pellach i'r ymgyrch, a'u gweithredu (£750,000 yn 2006-07 a £850,000 yn 2007-08) o ffigurau dangosol yn llinell gyllidebol Her Iechyd Cymru.

Argymhelliad 9: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cael adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, a dylid hyrwyddo'r gwasanaethau hynny.  Dylai'r gwasanaethau a'r llinell gymorth gael eu briffio'n dda a chael digon o adnoddau i gwrdd â'r galw uwch.


24. Derbyn. Mae'r camau sy'n cael eu hargymell yn adlewyrchu sylfaen y dystiolaeth ryngwladol ar gyfer gweithredu gwaharddiad llwyddiannus ar ysmygu. Mae camau i ymestyn y gwasanaethau i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu wedi eu nodi eisoes fel rhan o ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Her Iechyd Cymru.

25. Goblygiadau ariannol: Oes. Gellid ariannu gwasanaethau gwell i gael pobl i roi'r gorau i ysmygu (£450,000 yn 2006-07 a £500,000 yn 2007-08) ac i roi hwb i'r ymgyrch bresennol i ysgogi pobl sy'n rhoi'r gorau i ysmygu (£4000,000 yn 2006-07 a £250,000 yn 2007-08) o ffigurau dangosol yn llinell gyllidebol Her Iechyd Cymru.

Argymhelliad 10: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod y gwaith o weithredu'r gwaharddiad yn cael ei gysylltu â gweithgareddau eraill sy'n rheoli tybaco.


26. Derbyn. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad eisoes raglen rheoli tybaco sy'n gynhwysfawr ac yn gydlynol.  Mae'r rhaglen hon yn cynnwys themâu megis cael plant a phobl ifanc i beidio â dechrau ysmygu, rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am risgiau ysmygu i'w hiechyd, rhoi cymorth i ysmygwyr sydd am roi'r gorau a hyrwyddo amgylchedd di-fwg.  Bydd cyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn estyniad naturiol o hyn.

27. Goblygiadau ariannol: Dim.