Skip to content

Cyfarfod o’r Cyngor Prydeinig – Gwyddelig, Ynys Manaw, 19-20 Mai 2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Prif Weinidog
Cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y Cyngor Prydeinig – Gwyddelig ar Ynys Manaw ar 19-20 Mai. Roedd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yno i gynrychioli Cymru. Roedd llywodraethau’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Gweinyddiaeth yr Alban a thair gweinyddiaeth yr ynys, i gyd yn cael eu cynrychioli yno. Roedd Peter Hain yno fel aelod o ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig, yn cynrychioli buddiannau Gogledd Iwerddon.
Dechreuodd y cyfarfod trwy gael diweddariad gan Lywodraethau Iwerddon a Phrydain ynglŷn â’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Nodwyd y bu anawsterau difrifol ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ym mis Tachwedd, a bod y gobaith a fynegwyd yr adeg honno heb gael ei wireddu. Ond yn awr bod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig wedi cael ei gynnal, bu ymgysylltu o’r newydd rhwng y pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.  Bydd yn rhaid disgwyl i weld pa gynnydd y gellir ei wneud. Mynegodd y Cyngor ei gefnogaeth gref i’r gwaith yr oedd y ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo iddo, a chadarnhawyd eu cefnogaeth i gytundeb Dydd Gwener y Groglith fel y fframwaith ar gyfer cynnydd yn y broses heddwch.

Wedyn nododd y Cyngor y rhaglen waith oedd ar y gweill gan y gwahanol weithgorau sy’n gweithio dan ei adain. Tynnais sylw at y trafodaethau newydd, sydd yn awr yn cael eu hailgychwyn ar ein rhan gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn y Grŵp ar Ieithoedd Lleiafrifol a Chynhenid. Mae Cymru hefyd yn cymryd rhan amlwg yn y gweithgorau eraill. Mae’r Grwpiau hyn yn cael eu cefnogi gan ysgrifenyddiaeth y Cyngor, sy’n dal i  fod yn grŵp ad hoc o swyddogion o Lywodraethau’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Fe fu awgrym y dylid ailsefydlu’r Ysgrifenyddiaeth ar seiliau parhaol gyda sylfeini ehangach. Pe bai hynny’n digwydd byddem yn barod iawn i’r Ysgrifenyddiaeth gael ei lleoli yng Nghymru, ond nid yw’n debygol y bydd penderfyniad buan ar hyn.  

Y prif fater ar yr agenda oedd adroddiad un o’r gweithgorau ar Delefeddygaeth. Roedd pob un o’r dirprwyaethau yn cydnabod pwysigrwydd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu o ran darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hanes Cymru yn y maes hwn yn un sy’n werth ei dweud, a bu ein swyddogion yn ymwneud yn agos iawn â pharatoi’r adroddiad. Mae’n rhy hawdd o lawer meddwl bod datblygiadau technolegol yn nod ynddynt eu hunain, lle'r oedd Brian Gibbons yn mynnu dangos sut yr oedd y datblygiadau yn arwain at welliant ym mhrofiad y cleifion. Yng Nghymru, fel yn yr Alban, un o fanteision enfawr Telefeddygaeth yw bod pobl mewn cymunedau anghysbell neu anhygyrch yn gallu cael gwasanaethau arbenigol heb orfod teithio i ganolfannau arbenigol. Mae’r dull hwn o wneud y dinesydd yn ganolog i’r ddarpariaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn agos iawn at ysbryd y rhaglen Creu’r Cysylltiadau. Fe gymeradwywyd y papur ar Delefeddygaeth gan y Cyngor, a gofynnodd am i waith ychwanego gael ei ddatblygu yn y maes.

Mae testun yr ohebiaeth derfynol ynghlwm. Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor yng Ngwanwyn 2006.