Skip to content

Y Cynllun Stoc Trig Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Mae nifer o adroddiadau wedi bod yn y wasg, ac mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi, fel y Gweinidog perthnasol, yn ddiweddar am y Cynllun Stoc Trig Cenedlaethol, yn enwedig yn y Gogledd Orllewin.  Da o beth felly fyddai gwneud datganiad ar rôl Llywodraeth y Cynulliad yn y mater ac esbonio wrth Aelodau’r Cynulliad yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud gyda’i phartneriaid i leddfu’r sefyllfa.

Hoffwn ei gwneud yn glir bod ffermwyr wedi’u gwahardd rhag claddu stoc marw ers Mai 2003 pryd y daeth Rheol berthnasol yr UE i rym yng Nghymru. Nid yw hwn felly yn beth newydd i’r diwydiant.  Mae Llywodraeth y Cynulliad, fodd bynnag, a’r gweinyddiaethau eraill wedi bod yn awyddus i i helpu’r diwydiant i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.  Rhoddais felly £3.2 miliwn dros dair blynedd ar gyfer sefydlu Cynllun Stoc Trig Cenedlaethol.  Y gobaith yw gweld y diwydiant yn arwain y cynllun a chynnig gwasanaeth cystadleuol i ffermwyr ar gyfer casglu a chael gwared ar stoc marw.  Lansiwyd y cynllun ym mis Tachwedd 2004.  Bydd pob rhan o Gymru’n cael ei wasanaethu, ond yn y Gogledd, mae’r sefyllfa’n anodd gan mai dim ond un casglwr sydd ac mae’r ddaearyddiaeth yn ei gwneud yn anodd i’r casglwr hwnnw ateb y galw.  Mae’r sefyllfa wedi’i gwaethygu gan y tymor wyna.

Roeddwn innau, fel yr Aelodau a’r diwydiant, yn poeni am y sefyllfa a dyna pam y gofynnais i’m swyddogion gynnal cyfarfod ar frys gyda’r Cwmni Stoc Trig Cenedlaethol, undebau’r ffermwyr, yr asiantaethau gorfodi, Awdurdod Datblygu Cymru a’r cwmni casglu dan sylw i ystyried beth y gellid ei wneud.  Cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw yn y Gogledd ar 17 Mawrth lle penderfynwyd ar nifer o gamau tymor byr a chanolig.  Yn eu plith:

• Lleihau’r tâl a godir ar aelodau’r cynllun sy’n mynd â charcasau’n syth at y casglwr.

• Anfon rhai o aelodau’r cynllun at gasglwyr eraill er mwyn ysgafnhau’r baich ar gwmni casglu’r Gogledd.

• Cynnig i sefydlu is-ganolfannau casglu mewn mannau strategol yn y Gogledd.

• Cymorth gan y WDA i ddatblygu busnesau casglu a gwaredu.      

• Annog asiantaethau gorfodi i fod yn fwy pragmatig a chymwynasgar.

• Ystyried ffyrdd gwahanol o storio, casglu a gwaredu, o fewn rheolau’r ddeddfwriaeth


Dylai’r mesurau hyn liniaru rhywfaint ar yr anawsterau sy’n cael eu profi ac rydym ninnau hefyd yn gwneud popeth posibl o dan yr amgylchiadau i helpu.
Hoffwn ailddatgan bod y Rheol hon wedi bod mewn grym ers blwyddyn dda.  Nid mater newydd mohono.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio’n galed gyda’i phartneriaid i ddatrys y broblem.