Skip to content

Ymateb Ysgrifenedig Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar "Y Celfyddydau, Chwaraeon ac Adfywio Cymunedol"

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar "Y Celfyddydau, Chwaraeon ac Adfywio Cymunedol".

Mae'r ymatebion i'r argymhellion yn yr Adroddiad wedi'u nodi isod. Mae'r argymhellion yn dilyn penawdau a threfn rifo'r Adroddiad.

Pennod 1:    Polisiau

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

• Mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydnabod rôl y celfyddydau a chwaraeon fel rhan annatod o'r holl broses o adfywio cymunedol; dylid gwneud hyn drwy bolisïau perthnasol gan y Llywodraeth, yn benodol ond nid yn gyfangwbl y rheini sy'n ymwneud ag Adfywio Cymunedol

Derbyn.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â'r Pwyllgor bod y celfyddydau a chwaraeon yn rhan annatod o'r broses o adfywio cymunedol.  Bydd y Bwrdd Diwylliant newydd yn gyfle i sicrhau bod adfywio cymunedol yn rhan greiddiol o bolisi newydd Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwylliant.

Mae hyn hefyd wedi ei nodi yn y strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Dringo'n Uwch, sy'n cyfeirio at y ffaith bod pobl mewn cymunedau tlotach yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a bod angen canolbwyntio ein hadnoddau ar gymunedau sydd â'r angen mwyaf ac sydd â'r mwyaf i'w ennill.



Rydym hefyd yn derbyn bod y pwyslais ar bolisiau adfywio cymunedol yn bwysig.  Nid oes rhwystrau yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf rhag buddsoddi yn y celfyddydau a chwarareon. Mae Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf, sy’n helpu Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i greu eu rhaglenni gwaith a chynlluniau gweithredu, yn argymell yn arbennig datblygu gweithgareddau ym meysydd y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon a fydd yn helpu i fagu hyder, gwella iechyd a datblygu sgiliau trosglwyddadwy.
Mae'r celfyddydau a chwarareon yn elfennau allweddol o'r rhaglen honno. Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yw bod polisiau a rhaglenni yn cael eu targedu (eu prif ffrydio) at ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Felly, mae'n hanfodol bod yr asiantaethau sy'n ymwneud â'r celfyddydau a chwaraeon yn cynnig cyngor a chymorth i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ar y materion hyn. Oherwydd bod Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen adfywio sy'n cael ei harwain gan y cymunedau eu hunain, mater i'r Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yw penderfynu a ydyw'r celfyddydau a chwaraeon yn flaenoriaethau allweddol yn y broses o adfywio eu hardaloedd hwy.

Byddaf yn gweithio gyda’m cydweithiwr, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i sicrhau bod Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn ymwybodol o’r manteision a’r cyfleoedd a ddaw o gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon. Byddaf yn sicrhau bod Cyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Chwaraeon yn mynd ati’n rhagweithiol i gynnig cymorth ac arweiniad i Bartneriaethau i annog rhyngweithio pellach.

Rwy’n cytuno â’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio bod cyfranogiad pobl ifanc mewn gweithgareddau chwaraeon a’r celfyddydau yn bwysig iawn i’w rhwystro rhag cael eu harwain ar gyfeiliorn gan drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud hyn yn amlwg yn ei strategaeth “Ymestyn Hawliau”. Un o’r deg hawl gyffredinol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yw’r hawl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, artistig, cerddorol ac awyr agored i ddatblygu dawn, ehangu gorwelion a hyrwyddo persbectif cytbwys. Mae’r hawliau cyffredinol hyn yn rhan bwysig iawn o Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn mynd ati i geisio datblygu cysylltiadau rhwng y celfyddydau a chwaraeon ac atal trosedd ymysg yr ifanc. Cynhaliwyd seminar yn y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol y llynedd, gyda chynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru. Bydd swyddogion yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r Cynghorau hyn yn fuan i drafod sut i weithredu’n gadarnhaol ar y mater.


Mae llawer o weithgareddau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon wedi eu cefnogi trwy gyfrwng y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r rhaglen wedi ariannu gweithgareddau yn y celfyddydau a chwaraeon ledled Cymru, o Ynys Môn, Wrecsam ac Abermaw, i Aberfan, Merthyr a Rhondda Cynon Taf.  Yn ogystal, rhoddwyd grantiau PLAY (o dan y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf) i awdurdodau lleol ar gyfer amryw o brosiectau megis meysydd y gellir chwarae gwahanol fathau o gemau arnynt, a pharciau sglefrfyrddio. Hefyd, mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf wedi rhoi grantiau bychain i grwpiau cymunedol ar gyfer, er enghraifft, offer a dillad chwaraeon, offerynnau a chostau trafnidiaeth.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog gwariant ar y celfyddydau a chwaraeon yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.  Er enghraifft, bu Clwyd Mobile Theatre yn targedu cymunedau difreintiedig, ac roedd pob un namyn un o'r lleoliadau y perfformiwyd ynddynt mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf.  Cafodd Mobile Theatre 2004 grant o £100,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o gyllideb y Celfyddydau Tu Allan i Gaerdydd a nawdd gan LloydsTSB, a Chelfyddydau a Busnes Cymru.  Teithiodd y theatr ledled Cymru yn ystod hydref 2004, gan ymweld â Chei Connah, Plas Madoc yn Wrecsam, Pillgwenlli yng Nghasnewydd, Tylorstown yn y Rhondda a Chaerffili cyn dod â'r daith i ben yng Nghlwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug ym mis Tachwedd.

Y goblygiadau ariannol: Dim

• Dylid ystyried integreiddio'r celfyddydau a chwaraeon ym mholisïau adfywio cysylltiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar iechyd, addysg, cyflogaeth a'r economi, a chydgysylltu'r polisïau hynny drwy fecanwaith sy'n cwmpasu'r cyfan

Derbyn.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio sicrhau bod yr holl bolisïau trawsbynciol yn cael eu rhoi ar waith ym mhob portffolio polisi.  Un enghraifft o hyn yw bod y gydberthynas rhwng chwaraeon a iechyd wedi'i nodi'n glir yn Dringo'n Uwch. Er mwyn bwrw ati â'r strategaeth Dringo'n Uwch a bodloni'r targedau strategol a osodwyd, mae Gweithgor Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol wedi'i sefydlu i baratoi cynllun gweithredu integredig ar gyfer yr adran.

Yng nghyd-destun polisïau trawsbynciol, priodol yw nodi bod angen i'r holl weithgareddau y cyfeirir atynt yn y papur hwn gael eu rhoi ar waith yn y fath fodd fel y gellir cymryd rhan ynddynt yn Saesneg ac yn y Gymraeg yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth y Cynulliad yn Iaith Pawb.

Wrth ddatblygu polisi newydd ar ddiwylliant, bydd y Bwrdd Diwylliant yn cyd-drafod â'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r meysydd polisi uchod, o fewn a thu allan i'r llywodraeth, ac yn derbyn tystiolaeth oddi wrthynt.

Ceir llawer o enghreifftiau o arferion da wrth gwrs, ac mae'r gwaith ymchwil a grybwyllir isod yn rhestru tipyn ohonynt.  Yn benodol, mae ymchwil Prifysgol Morgannwg wedi esgor ar wefan sy'n enwi sefydliadau sy'n ymgymryd â chelfyddydau yn y gymdeithas, ac yn rhestru arferion da yn y maes. Un enghraifft o weithgaredd trawsbynciol yw cynnig Homeless Link am wobr gelfyddydol i bobl ddigartref, gyda gwaith yr ymgeiswyr yn cael ei arddangos ledled Cymru, a gwaith y rheini sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael ei arddangos yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.


Y goblygiadau ariannol: Mae angen rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl leol ymwneud yn bositif â'u cymunedau eu hunain drwy gyfrwng chwaraeon a gweithgarwch corfforol a chelfyddydau yn y gymdeithas. Byddaf yn trafod y cyfleoedd yn y maes hwn, ynghyd â chamau i dargedu gweithgareddau sy'n ymwneud â'r celfyddydau a chwaraeon mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gyda'r Gweinidog dros Gyllid yng nghyd-destun Cylch Cynllunio Cyllideb 2005.


• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi rhagor o ystyriaeth i'r materion a amlygwyd yn y gwaith ymchwil gan Brifysgol Morgannwg a Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru

Derbyn. Lansiais waith ymchwil Prifysgol Morgannwg "Changing Spaces" mewn cynhadledd yn Abertawe ar 28 Ebrill ar gyfer y rheini sy'n ymwneud â chelfyddyd gymunedol.  Teitl y gynhadledd oedd 'Dweud y Stori - Tuag at Ddiffiniad o Werth Diwylliannol.'   Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r celfyddydau cymunedol ac ar ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwerthuso'r celfyddydau.

Nod 'Changing Spaces' , a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, yw:

• datblygu'r celfyddydau ym maes iechyd
• y celfyddydau a chynhwysiant cymdeithasol
• y celfyddydau a dysgu
• datblygu fwy fyth ar ymchwil yn y maes hwn

Mae 'Changing Spaces' ac ymchwil Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn elfennau sylfaenol o'r gwaith i lunio strategaeth newydd Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwylliant.  Mae'r astudiaethau hyn yn cael eu hategu gan waith pellach a gomisiynodd Llywodraeth y Cynulliad gan Brifysgol Morgannwg, "A Cultural Knowledge Index: Developing a Research and Evaluation Framework for Culture Strategy in Wales."

Y goblygiadau ariannol: Dim

Pennod 2: Arferion

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried cynnal archwiliad o weithgareddau adfywio cymunedol sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau a chwaraeon ac yn cael eu cyllido o'r coffrau cyhoeddus

Derbyn mewn egwyddor.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â'r Pwyllgor y dylid gwella'r dystiolaeth sy'n sail i'r polisi ar ddiwylliant. Mae'r ymchwil y mae adolygiad y Pwyllgor yn dyfynnu ohono yn fan cychwyn da, ond byddai archwiliad cynhwysfawr yn enwi'r arferion da yn y maes yn ogystal ag yn nodi'r bylchau sydd yn y ddarpariaeth.  Byddai hefyd yn bwysig er mwyn llywio gwaith y Bwrdd Diwylliant ac er mwyn rhoi'r polisi newydd ar ddiwylliant ar waith.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ystyried sut orau y gallant fwrw ati â gwaith sy'n edrych ar werth chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn lleol ac yn gymunedol.

Y goblygiadau ariannol:  Bydd goblygiadau ariannol i gomisiynu archwiliad llawn. Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ar ad-drefnu'r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, a'r ffaith bod elfennau ymchwil  a gwerthuso y Cyngor Celfyddydau a'r Cyngor Chwaraeon yn uno â Llywodraeth y Cynulliad, byddwn yn medru edrych yn strategol ar ein gofynion o ran gwybodaeth.


• Ni ddylid cyfyngu'r archwiliad hwn i weithgareddau a gefnogir gan yr asiantaethau diwylliannol ond dylai hefyd gynnwys y rheini a gefnogir gan awdurdodau lleol

Derbyn.

• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried dulliau ymarferol o rannu arferion gorau ymysg yr holl asiantaethau er mwyn cydgysylltu gwaith yn y maes hwn yn fwy effeithiol. Dylai hyn gynnwys datblygu canllawiau ar arferion gorau (yn seiliedig ar gyngor y rheini sy'n gweithio yn y maes).  Dylid dosbarthu'r canllawiau'n eang a defnyddio Cymru'n Creu neu'r Bwrdd Diwylliant newydd fel fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth yn y maes hwn

Derbyn.  Nodweddion allweddol ein prosesau ar gyfer ymchwilio i'r strategaethau Cymru Greadigol a Dringo'n Uwch, eu monitro a'u gwerthuso yw: cytuno ar fesurau gwaelodlin; datblygu dulliau casglu data; enwi a llenwi'r bylchau yn y dystiolaeth, gan gynnwys gwahanol ymyriadau polisi; ac enwi ac adolygu meysydd o arferion da, gan sicrhau bod ein partneriaid allweddol yn cael eu cynnwys yn y broses.  Hefyd, bydd rôl pwysig i'r Bwrdd Diwylliant fel fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth ac ar gyfer sicrhau deialog rhwng eraill sy'n bwysig yn y maes.

Y goblygiadau ariannol:  Mae goblygiadau o ran adnoddau i ddatblygu canllawiau ar arferion gorau.  Bydd yr uno rhwng elfennau gwaith y Cyngor Celfyddydau a'r Cyngor Chwaraeon ar strategaeth, polisi ac ymchwil, a Llywodraeth y Cynulliad yn gyfle da i sicrhau y gellir bwrw ymlaen â hyn yn effeithiol ac yn effeithlon.

Pennod 3:  Ariannu

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:


• Mae ar y celfyddydau a chwaraeon angen rhan mwy blaenllaw yn rhaglenni cyllido Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru

Derbyn, ond yn y cyd-destun priodol.  
Fel y nodir uchod, mae’r celfyddydau a chwaraeon yn gydrannau allweddol o’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac fe’u nodir fel blaenoriaethau yn y Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn hyrwyddo dull o adfywio sy’n canolbwyntio ar y gymuned a chyfrifoldeb y partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yw penderfynu a yw materion yn ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon yn flaenoriaethau allweddol yn y gwaith o adfywio eu hardaloedd. Dull o hwyluso’r broses yw’r gyllideb Cymunedau yn Gyntaf yn bennaf ac mae’r gyllideb honno yn gyfyngedig. Mae ein hymrwymiad i brif ffrydio Cymunedau yn Gyntaf yn holl bortffolios Llywodraeth y Cynulliad yn golygu ei bod yn hollbwysig bod yr asiantaethau sy’n gysylltiedig â datblygu ac ariannu’r celfyddydau a chwaraeon yn targedu ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf – ac yn gwneud hynny mewn modd sy’n cynnwys y cymunedau hynny yn llawn. Byddaf yn sicrhau bod y neges hon yn cael ei chyfleu’n glir ac yn effeithiol i Gyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Chwaraeon. Rwy’n siŵr y bydd Dringo’n Uwch yn ganllaw defnyddiol i’r bobl dan sylw, ac mae’r egwyddorion sy’n sail i Gymru Greadigol yn parhau i fod yn ddilys.

Y goblygiadau ariannol: Dim


• Mae angen ystyried pob rhaglen gymorth a gynigir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu eu potensial i gynorthwyo cymunedau yn y tymor hir. Lle bo'n bosibl, dylai ariannu y tu hwnt i bum mlynedd fod yn opsiwn, er bod angen llunio "strategaethau ymadael" priodol fel nad yw gwerth y datblygiad gwreiddiol yn cael ei golli unwaith y daw'r cyllid i ben.

Derbyn mewn egwyddor.   Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â'r Pwyllgor bod angen i raglenni cymorth gael eu hystyried yn nhermau eu potensial i gynorthwyo cymunedau yn y tymor hir.

Dyma sut y mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn paratoi a darparu ei raglenni. Maent wedi eu seilio ar grwpiau o ymyriadau gweithredol y gellir eu dewis a'u dethol yn y gymuned i ddatblygu cynlluniau sy'n benodol ar gyfer y gymuned honno. Mae hyn yn gysylltiedig â'r fframwaith gwerthuso yr ydym yn ei gyflwyno ar gyfer y cynllun Nofio am Ddim mewn cymunedau ledled Cymru.

Fel arfer, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru gytundebau cyllido tair blynedd gyda'i gleientiaid refeniw.

Y goblygiadau ariannol: Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl darparu ffigyrau ariannu dangosol fwy na thair blynedd o flaen llaw, o dan reolau'r Trysorlys.

• Mae angen symleiddio'r dull o gael gafael ar arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i wneud yn fwy hyblyg er mwyn hwyluso datblygiad a menter leol

Derbyn.  Dyma'n union pam y sefydlwyd y bartneriaeth rhyngom ag awdurdodau lleol er mwyn cyflwyno'r cynllun Nofio am Ddim. Mae'n caniatáu cryn hyblygrwydd i awdurdodau lleol addasu'n cynllun yn unol â'r anghenion a'r blaenoriaethau lleol o fewn fframwaith o feini prawf y cytunwyd arnynt.

Mae'r Cyngor Celfyddydau wedi symleiddio ac integreiddio ei gynlluniau ariannu er mwyn sicrhau ei bod yn haws ac yn symlach cael gafael ar gymorth ariannol.

Y goblygiadau ariannol: Dim.

• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi cydnabyddiaeth briodol i gelfyddyd gymunedol yng Nghymru drwy roi cyllid a chefnogaeth ychwanegol

Derbyn mewn egwyddor.  Mae celfyddyd gymunedol yn derbyn cydnabyddiaeth briodol yng Nghymru.  Mae adroddiad y Joseph Rowntree Foundation "Creative Regeneration: Lessons from ten community arts projects" yn dangos sut y mae deg prosiect celfyddydol yng Nghymru wedi cael effaith fawr ar eu cymunedau. Mae celfyddydau yn y gymdeithas yn un o gryfderau mawr Cymru.  Rydym yn derbyn bod y cynnydd mawr yn y cyllid a ddaw o'r loteri wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn nhwf y sector celfyddydau yn y gymdeithas, a bod y cynnydd hwn bellach wedi sefydlogi. Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cydnabod manteision cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon i’r gymuned ac unigolion; ac felly’r anogaeth a geir yn y Fframwaith Gweledigaeth. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymateb drwy gynyddu cyllid i gelfyddydau yn y gymuned, ac mae wedi gwneud cais am lawer o gyllid gan Ewrop i ategu’r gwaith hwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymateb trwy gynyddu'r cyllid ar gyfer celfyddyd gymunedol, ac mae wedi gwneud cais am swm mawr o arian Ewropeaidd er mwyn ategu'r gwaith hwn.