Skip to content

Ddyfodol y Ganolfan Ragoriaeth Awyrofod

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Mae penderfyniad y Weinyddiaeth Amddiffyn ddoe i gau'r Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn yn Sain Tathan erbyn mis Ebrill 2007 yn ergyd fawr i weithlu talentog ac amyneddgar DARA, y diwydiant awyrofod a’r Deyrnas Unedig. Er hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn dal yn hyderus, ac wedi ymrwymo i greu canolfan ragoriaeth peirianneg awyrofod o’r radd flaenaf yn Sain Tathan.

Dyma i chi ychydig o hanes y prosiect hwn. Ym mis Awst 2004, cymerwyd safle RAF Sain Tathan gan Awdurdod Datblygu Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, oddi ar y Weinyddiaeth Amddiffyn. Yr oedd dau reswm dros wneud hynny: yn gyntaf, i ddatblygu canolfan rhagoriaeth awyrofod sifil, ac yn ail i gefnogi’r gwaith o gadw ac ehangu DARA a’i weithlu. Fel rhan o’r cytundeb hwnnw, gwnaed penderfyniad i adeiladu cyfleuster mawr newydd, sef awyrendy mawr y Ddraig Goch. Rhoddodd y cyfleuster hwn bob cyfle posibl i DARA ad-drefnu ei weithgareddau gwahanol ar safle Sain Tathan mewn un adeilad. Hefyd, yr oedd yn galluogi DARA i wneud arbedion ariannol a gweithredol sy’n angenrheidiol i wasanaethu’r cwsmer milwrol a darpar gwsmeriaid awyrofod sifil yn y dyfodol. Cwblhawyd yr adeilad ym mis Chwefror 2005, a dechreuodd DARA ddefnyddio’r adeilad yn fuan wedyn. Felly, o’r cychwyn cyntaf, sylfaenwyd prosiect Sain Tathan ar bartneriaeth gref rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, Llywodraeth Cynulliad Cymru a DARA. Hyd yn hyn, mae wedi ei gefnogi gan fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus gwerth dros £100 miliwn.

Yr oedd hyn yn rhoi'r gallu i DARA ddatblygu sylfaen busnes cryf ar gyfer y dyfodol, a defnyddio’i bresenoldeb yn Sain Tathan i helpu datblygu parc awyrofod gyda’r gallu i greu nifer sylweddol iawn o swyddi ychwanegol dros y 15 mlynedd nesaf. Ers hynny, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ni ac eraill yn barod iawn i gydnabod llwyddiannau DARA yn sicrhau gwelliannau anferthol o ran costau ac effeithlonrwydd.

Bryd hynny, yr oedd Papur Gwyn cyfatebol gan yr Adran Drafnidiaeth ar ddyfodol trafnidiaeth awyr yn y DU yn nodi angen mawr am ganolfannau rhagoriaeth rhanbarthol ar gyfer cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio, a dywedai fod yn Sain Tathan botensial cryf i ddiwallu’r angen hwnnw. Mae’r sector awyrofod yn hanfodol i Gymru, mae’n cynhyrchu dros £4 biliwn ac yn cyflogi mwy na 20,000 o bobl mewn mwy na 150 o gwmnïau. Gyda chwech o blith y 10 cwmni awyrofod ac amddiffyn gorau yn y byd yn gweithredu yma, a chyda thua 40 y cant o fusnes cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio y DU, mae Cymru mewn sefyllfa dda i elwa o'r twf yn y sector hwn yn fyd eang. Mae Sain Tathan yn un o’r safleoedd prin a all gynnig tir datblygu sylweddol, ac felly mae’n rhan ffisegol hanfodol o unrhyw strategaeth i ehangu a diogelu'r sector awyrofod yng Nghymru a’r DU.

Ym mis Medi 2004, penderfynodd y Weinyddiaeth Amddiffyn drosglwyddo gwaith ar yr Harrier a’r Tornado o DARA i brif safleoedd gweithredu’r RAF. Yr ydym wedi ceisio darbwyllo’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyson i gadw’r gwaith hwn yng Nghymru. Golyga cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ddoe y bydd DARA Sain Tathan yn cau ynghynt nag y bwriadwyd, ym mis Ebrill 2007, gan golli 500 o swyddi eraill. Yr wyf fi, fel Gweinidog, a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi teimlo o’r cychwyn fod y penderfyniad hwn yn anghywir. Nid ydym yn deall, ar ôl adeiladu cyfleuster penodol newydd ar gyfer sefydliad sydd wedi rhagori ar dargedau’n barhaus ac wedi lleihau’r amseroedd cwblhau gwaith cynnal a chadw, sut y gall fod yn well o ran gwerth i fynd â’r gwaith hwn yn ôl i brif safleoedd gweithredu lle nad oes cyfleusterau o’r fath yn bodoli.

Fodd bynnag, mae’n fwy hanfodol nawr nag erioed inni edrych i’r dyfodol. Felly, er yr ergyd fawr ddoe, byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i greu cyfleoedd masnachol gwahanol a sylweddol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y gweithlu medrus yn DARA y mae'r cyhoeddiad ddoe yn effeithio arno. Gan fod phrinder peirianwyr awyrofod ar hyd e lled y byd ac yn y DU, gweithlu medrus presennol Sain Tathan yw’r gonglfaen ar gyfer ailddatblygu’r sector awyrofod yn llwyddiannus yng Nghymru, ac mae’n hanfodol inni gadw sgiliau fel y rhain yng Nghymru. Bydd y cyhoeddiad ddoe i gyflymu’r amserlen o ran diswyddiadau yn Sain Tathan yn gwneud y dasg yn anoddach nag yr oedd ei angen.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn arloesol ac yn adeiladol ar hyd y daith, ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i drawsnewid Sain Tathan yn ganolfan rhagoriaeth awyrofod a fydd yn cyflogi nifer sylweddol o bobl mewn swyddi gyda chyflogau da. Gan gadw hynny mewn cof, yn dilyn y cyhoeddiad am adolygiad cynhwysfawr, ffurfiwyd grwp datblygu rhwng Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chynrychiolaeth o Swyddfa Cymru a’r Adran Masnach a Diwydiant, i hyrwyddo prosiect Sain Tathan. Mae’r gweithgor yn gweithredu o swyddfa brosiect barhaol ar safle Sain Tathan, gydag adnoddau dynol ac ariannol pwrpasol wedi’u neilltuo gan y ddau bartner. Gallaf gadarnhau i'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn gefnogol iawn yn y gwaith hwn ar y cyd. Afraid dweud bod ei hymrwymiad parhaus, fel rhan o Whitehall, nawr yn fwy hanfodol byth.
Mae’r tîm datblygu hwn wedi cael llwyddiant cynnar trwy ddenu tri deiliad awyrofod sifil—ATC Lasham Cyf, TES Group ac S&C Thermofluids Cyf—i Sain Tathan. Bydd hynny’n creu hyd at 300 o swyddi awyrofod newydd. Mae nifer o weithredwyr awyrofod yn parhau i ddangos diddordeb mawr, ac yr ydym yn hyderus fod achos busnes Sain Tathan mor gryf ag erioed.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Thîm Cymru yn parhau i weithio i sicrhau dyfodol disglair i Sain Tathan. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r sector preifat i ddenu datblygiadau a buddsoddiadau newydd o werth uchel i’r safle. Mae Sain Tathan yn cynnig gweithlu a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Yr ydym yn hollol ffyddiog yn ei allu i ffynnu a datblygu, ac mae gweithlu DARA yn y de yn haeddu hynny o leiaf.