Skip to content

Gamau i Ffrwyno Goryfed

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Mae mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol wedi’i ymgorffori’n gadarn yn ein strategaeth, ac mae ymdrin â goryfed yn un o’r agweddau sylfaenol ar yr agenda honno. Gwyddom ei bod yn broblem gyffredinol sydd wedi treiddio i’n cymdeithas, ond nid oes unrhyw atebion hawdd ac nid oes ateb i bopeth. Yr ydym wedi gweithredu mewn llawer ffordd. Ers imi fod yn gyfrifol am faes camddefnyddio sylweddau, yr wyf wedi manteisio ar bob cyfle a gaf i lobïo San Steffan ar amrywiol faterion yn gysylltiedig â goryfed a chamddefnyddio alcohol yn fwy cyffredinol.

Yn fy nghyfarfodydd dwyochrog gydag Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru, byddwn yn cael trafodaeth reolaidd ar faterion yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol, ac ar lawer achlysur yr wyf wedi manteisio ar y cyfle i fynegi fy mhryderon i, a phryderon y Cynulliad, ar faterion penodol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â goryfed. Yn fwy diweddar, ysgrifennais ato yn mynegi pryderon am y cysylltiadau rhwng goryfed ac ymosodiadau ar staff rheng flaen y GIG. Yr wyf yn pryderu’n arbennig am y ffordd y caiff alcohol ei hysbysebu a’i bortreadu, ac mae hwn yn fater yr wyf wedi’i drafod yn rheolaidd yn fy nghyfarfodydd dwyochrog. Er nad yw hysbysebu’n fater sydd wedi ei ddatganoli, bu inni fabwysiadu ymagwedd gadarn iawn ar ymgynghoriad y Swyddfa Gyfathrebu ynglyn â hysbysebu alcohol ar y teledu. A gwnaethom yn glir y byddem yn dymuno gweld hysbysebu alcohol wedi’i wahardd yn gyfan gwbl. Mae angen inni anfon neges glir i bobl ifanc fod yfed yn ormodol a pheri trafferth yn annerbyniol. Mae angen iddynt gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd a bod yn ymwybodol o’r pwysau y mae trais a achosir gan alcohol yn ei roi ar yr heddlu a’r gwasanaethau brys. Dyna pam yr wyf yn teimlo’n gryf y dylem wahardd hysbysebu sy’n ceisio mawrygu’r diwylliant goryfed presennol. Nid oes dim yn hudolus nac yn glyfar ynglyn ag effeithiau goryfed.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yr wyf wedi trafod goblygiadau’r cyfreithiau trwyddedu newydd, a materion sy’n ymwneud â goryfed yn gyffredinol, yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yng Nghymru. Mae gennym rôl bwysig wrth weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau ein bod yn rhoi’r newidiadau hyn ar waith mor ddi-dor â phosibl, gan sicrhau bod ein trefi a’n dinasoedd yn cael eu paratoi ar gyfer y newidiadau. Yn ogystal, yr wyf yn awyddus i sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i ddefnyddio’r trefniadau newydd i gynorthwyo ein hymdrechion i fynd i’r afael â goryfed yng Nghymru. Er enghraifft, bydd yr amseroedd agor hyblyg a ddaw yn sgîl trwyddedu 24 awr yn helpu lleihau’r goryfed sy’n gysylltiedig â’r ‘amser gorffen diod’ cyffredinol. A bydd caniatáu i drwyddedeion gael amseroedd cau gwahanol yn golygu mwy o amser pan fydd pobl yn gadael ac yn mynd o’r ardal. Fel y dywedais yn gynharach, nid oes unrhyw atebion hawdd, ac ni all un sefydliad unigol ddatrys problemau goryfed—mae angen ymdrech gydweithredol, unedig. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r cychwyn bob amser yw hyrwyddo yfed synhwyrol yng nghyd-destun ffordd o fyw iach. Mae gan y 22 o bartneriaethau diogelwch cymunedol rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â goryfed. Yr wyf droeon wedi tynnu sylw at enghreifftiau o rai o’r mentrau llwyddiannus ledled Cymru, megis cynlluniau prawf oedran, cynlluniau prynu prawf, cynlluniau atal yfed mewn mannau cyhoeddus, parthau di-alcohol, a chynlluniau hyfforddi staff bariau a goruchwylwyr drysau.

Yn ddiau, mae goryfed yn broblem yng nghanol trefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad, ac mae wedi ei gysylltu’n agos â throseddau ac anhrefn a achosir gan alcohol. Mae gan yr heddlu nifer o ddulliau i fynd i’r afael ag anhrefn sy’n gysylltiedig ag alcohol, megis dirwyon yn y fan a’r lle, creu parthau di-alcohol, gorchmynion cau ar gyfer eiddo sy’n gysylltiedig ag anhrefn, ac ardaloedd penodedig lle gall yr heddlu orchymyn chwalu grwpiau sy’n creu anhrefn. Yr oeddwn yn falch cael cefnogi cynhadledd Heddlu De Cymru yn ddiweddar ar reoli’r economi nos. Gwnaeth y negeseuon a ddeilliodd o’r gynhadledd honno argraff arnaf, ac yr wyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i ystyried ffyrdd inni sicrhau'r potensial mwyaf posibl i'n priod bolisïau i helpu mynd i’r afael â materion yr economi nos. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda’r heddlu a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i hyrwyddo’r gwaith o reoli fframwaith yr economi nos a ddatblygwyd gan Heddlu De Cymru. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw ymdrin â’r canlyniadau sy’n deillio o gamddefnyddio alcohol a goryfed yn ddigon. Rhaid sicrhau mai addysg yw’r cam cyntaf, ac yr wyf yn awyddus i gefnogi hyn. Dyna pam y rhoddais dros £3 miliwn i gynorthwyo’r rhaglen ysgolion i Gymru gyfan, sydd â’r nod o addysgu pobl ifanc am beryglon alcohol a chyffuriau eraill.

Yn gynharach eleni cytunais ar gyfraniad o dros £90,000 i gefnogi ymgyrch gweithredu cymdeithasol y BBC ar oryfed. Roedd dau reswm dros fy nghefnogaeth. Y rheswm cyntaf oedd y ffaith fod elfen o addysg yn yr ymgyrch. Yr ail oedd oherwydd fy mod yn teimlo bod ymagwedd y BBC at y pwnc yn synhwyrol, yn hytrach na chreu cyffro ynghylch y mater. Daeth system wybodaeth newydd am atgyfeiriadau triniaeth am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru i rym ar 1 Ebrill eleni. Ein system genedlaethol newydd ni yw’r unig un yn y DU i drin alcohol ar yr un sail ag unrhyw gyffur arall at ddibenion cofnodi. Er ei bod yn gynnar eto, yn y dyfodol agos byddwn yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i helpu targedu polisïau a rhaglenni ar gamddefnyddio alcohol ar lefel genedlaethol a lleol. I grynhoi, pwysleisiaf y byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod hyn yn parhau’n fater sy'n cael sylw mawr yn San Steffan ac yn yr awdurdodau sy’n gyfrifol yng Nghymru. Ni fydd yn hawdd newid y diwylliant goryfed sydd wedi datblygu dros y genhedlaeth ddiwethaf. Ni ellir ei newid dros nos, ond bydd sicrhau ymrwymiad pawb a gweithio gyda’n gilydd tuag at yr un nod, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth ac yn ein helpu i weld rhywfaint o gynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.