Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad o’r Rhyng-gysylltiad rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Croesawaf adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adolygiad o’r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Gwerthfawrogaf y gwaith caled a wnaethpwyd wrth gasglu tystiolaeth gan nifer helaeth o sefydliadau ac unigolion er mwyn cynhyrchu adroddiad mor bellgyrhaeddol.

Yr oedd y cynfas yn eang a’r dasg yn bell o fod yn hawdd. Mae’n galonogol gweld y cydweithrediad traws-bleidiol agos sydd wedi sicrhau adroddiad teg a chytbwys ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd. Mae’r adroddiad yn gwneud 22 o argymhellion sy’n rhychwantu pum maes penodol lle gwelir iechyd a gofal cymdeithasol yn rhyng-gysylltu. Edrychodd y pwyllgor ar drefniadau ar y cyd i gynllunio a darparu gwasanaethau, atebolrwydd, effaith penderfyniadau a wneir mewn un lle ar rywle arall, y materion allweddol sy’n effeithio ar ansawdd a darpariaeth gwasanaethau di-fwlch a rôl y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol gyda hybu annibyniaeth cleifion ac atal gorfod eu derbyn i’r ysbyty’n ddiangen, a’u derbyn i’r ysbyty am yr eildro wedyn.

Yn ystod camau ymchwil a chasglu tystiolaeth yr adolygiad, derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan ddarparwyr rheng flaen a defnyddwyr gwasanaethau, gan ymweld droeon â phrosiectau fel Prosiect Assist Blaenau Gwent a chynllun ailalluogi Castell Nedd Port Talbot. Yr oedd y pwyllgor wedi edmygu yr hyn a welodd ac yn cydnabod ymroddiad a brwdfrydedd y staff a weithiai yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yr oedd hefyd wedi nodi’r ymrwymiad sy’n bodoli i weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon drwy chwalu rhwystrau, cydnabod pwysigrwydd gweledigaeth gyffredin a chyflawni amcanion a threfniadau cynaliadwy i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd, sy’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol yr agenda ar y cyd ac i systemau cyfan sy’n gweithio ledled Cymru. Mae mwy o waith partneriaeth rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a darparwyr gofal eraill yn ganolog i’r weledigaeth yng Nghymru ar gyfer gwasanaeth gofal di-fwlch, ymatebol ac sy’n rhoi’r claf yn gyntaf. Rhoddwyd hwb a sbardun pellach i’r weledigaeth hon drwy argymhellion yr adolygiad o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar sail cyngor gan Derek Wanless, ac mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw.

Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod angen datblygu ac adeiladu ar y partneriaethau rhwng y GIG a llywodraeth leol. Mae hyn yn bwysig ac yn gosod y sylfaen ar gyfer darparu gwasanaethau wedi eu hintegreiddio’n well lle gwelir iechyd a gofal cymdeithasol yn rhyng-gysylltu. Yr ydym wedi gweld cynnydd o ran cydweithio’n well rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae rhwystrau yn dal i fodoli. Nid mater o newid diwylliant yn unig yw darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y claf; mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod gan staff proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd rhyng-gysylltiol hyn yr arfau i wneud y gwaith, eu bod yn cael cyfle i hyfforddi a datblygu ar y cyd, a bod partneriaethau lleol yn creu amgylchedd sy’n annog gweithio mewn partneriaeth drwy gyfuno adnoddau. Mater ydyw hefyd o ganfod yr hyn sy’n gweithio ac o rannu arferion da. Gwyddom fod gan boblogaeth Cymru nifer gynyddol o bobl hyn ac mae hyn yn golygu y bydd cryn her o’n blaenau. Rhaid inni ei hwynebu os ydym am ddarparu gwasanaethau priodol. Rhaid i bolisi a chynllunio tymor hir gael eu goleuo gan ymchwil gadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae partneriaethau lleol effeithiol sy’n ymgysylltu gyda’r sectorau annibynnol a gwirfoddol, a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, yn allweddol i sicrhau strategaeth gadarn ar gyfer comisiynu a darparu gwasanaethau ar y cyd. Cytunais gyda’r pwyllgor pan ddywedodd pa mor hanfodol yw cydnabod pwysigrwydd ymgynghori digonol a’r effaith bwerus y mae gwasanaethau lleol yn ei gael ar iechyd a lles y bobl a wasanaethir ganddynt. Ymdrinnir â’r materion hyn oll yn yr adroddiad a derbyniaf y rhan fwyaf o’i argymhellion yn llawn, fel a nodir yn glir yn fy natganiad ysgrifenedig.

Cytunaf â’r pwyllgor o ran cydnabod pwysigrwydd rheoli perfformiad os ydym am sicrhau y darperir gwasanaethau yn unol â thargedau ac amserlenni lleol a chenedlaethol. Er mwyn sicrhau system rheoli perfformiad fwy cyhyrog, mae fframweithiau gwasanaeth ac ariannol, trefniadau archwilio, a chytundebau perfformiad wedi eu diwygio a cherdyn sgôr cytbwys wedi’i gyflwyno. Byddaf hefyd yn ymgynghori yn yr haf ar fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer pobl hyn. Mae amryw o’r argymhellion yn galw am ganllawiau diwygiedig neu adolygiad o’r canllawiau presennol. Yn y rhan fwyaf o achosion, yr wyf yn falch o ddweud bod y gwaith hwn eisoes wedi’i nodi a’i gomisiynu, er enghraifft gyda chynlluniau cymunedol, neu’r canllawiau ar gynllunio rhyddhau cleifion o’r ysbyty, sydd i’w cyhoeddi ar 13 Mai 2005. Yr ydym wedi cyflwyno cymhellion i wella cydweithrediad ac i ddatblygu gwasanaethau gofal mewn argyfwng, fel y cynllun cydweithredu ym maes gofal mewn argyfwng. Yr ydym wedi comisiynu astudiaeth gwmpasu ar gyfer archwilio gwasanaethau gofal canolraddol ac wedi sefydlu grwp ymgynghorol i’n cynghori ar ddatblygiadau asesu unedig yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn y broses o ddatblygu nifer o ddogfennau polisi a fframwaith. Bydd y rhain yn pwysleisio pwysigrwydd ymchwil a chasglu gwybodaeth i wella cynllunio strategol, a bod angen i strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles roi sylw i gynllunio tymor hir ar gyfer pob grwp cleient, gan gynnwys rhai gydag anghenion gofal corfforol a meddyliol. Yr oedd y pwyllgor yn iawn i nodi lledaenu arferion da fel un o hanfodion datblygu gwasanaethau gwell ledled Cymru. Byddwn yn parhau i bwysleisio achredu a lledaenu arferion da fel rhan o gydweithio gydag Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi Gofal Iechyd a Rhagoriaeth Cymru, gyda golwg, efallai, ar ymestyn y gwasanaethau a gynigir ganddynt ar hyn o bryd.

Fel Llywodraeth y Cynulliad, yr ydym yn pwysleisio’n barhaus bod angen cydweithio effeithiol pan fo’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhyng-gysylltu. Bwriadwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl, a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng nghyswllt darparu iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru. Rhaid inni gadw’r nod pen draw hwn ym mlaen ein meddyliau. Rhaid i unigolion dderbyn y gwasanaethau gorau posibl ni waeth sut y cawsant afael arnynt, na phwy sy’n eu darparu. Yr wyf yn siwr y byddwch yn cytuno mai dyma ddylai fod yn nod cyffredin inni.