Skip to content

Llifogydd yng Ngogledd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Estynnaf fy nghydeimdeimlad i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Mae cael llifogydd am yr eildro mewn blwyddyn yn sicr o beri gofid mawr. Byddaf yn ymweld â’r ardal yr effeithiwyd arni yn ddiweddarach yr wythnos hon i weld y sefyllfa drosof fy hun.

Yn dilyn y glaw mawr, cafwyd llifogydd mewn tua 50 o adeiladau yn nyffryn Conwy dros y penwythnos, a chymunedau Llanrwst a Threfriw oedd y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf eto. Bu ffyrdd dan ddwr, a difrodwyd rheilffordd dyffryn Conwy ac mae’n dal i fod ar gau, ac mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn ei lle. Asesir y difrod i’r cledrau dros y dyddiau nesaf.

Mae fy swyddogion mewn cysylltiad agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gael gwybod am y camau y mae’n eu cymryd i ymateb, a deallaf fod rhybuddion rhag llifogydd wedi’u cyhoeddi brynhawn Gwener a’u diweddaru dros y penwythnos. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn adrodd bod yr amddiffynfeydd presennol, a atgyweiriwyd ar ôl y digwyddiad y llynedd, wedi’u bylchu eto a bod dwr wedi’u gorlifo. Ymgymerir ag adolygiad pellach yn awr o’r perygl o lifogydd ac o’r amddiffynfeydd yn yr ardal.

Mae’r Cynulliad yn darparu cyllid i’r asiantaeth ar gyfer gwaith i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mae lefel y cymorth wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf. Rhoddir £3.77 miliwn eleni, a bydd y swm hwnnw’n codi i £6.0 miliwn yn 2005-06 a 2006-07, ac i £6.5 miliwn yn 2007-08.

Deallaf fod yr asiantaeth yn ystyried y dewisiadau ar gyfer lliniaru llifogydd yn y tymor hwy yn Llanrwst a Threfriw, ac fe’i hanogwn i gyflwyno cynigion cyn gynted ag y bo modd.