Skip to content

Hysbysu’r Cynulliad am Newidiadau i’r Cabinet

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog

Ddoe gwneuthum newid bach o ran ailddyrannu cyfrifoldebau gweinidogol y Cabinet. Daw Brian Gibbons yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Daw Jane Hutt yn Drefnydd, a chanddi gyfrifoldeb strategol cyffredinol o fewn y Llywodraeth dros gyfathrebu, cyfle cyfartal, cysylltu â San Steffan a chydlynu rhaglen newid Llywodraeth y Cynulliad.

Yr wyf wedi penderfynu rhannu swydd y Trefnydd a’r prif chwip. Gan hynny, bydd Karen Sinclair yn parhau fel prif chwip y Llywodraeth a bydd yn bresennol yng nghyfarfodydd y Cabinet, er na fydd yn aelod ohono bellach. Yr wyf yn ddiolchgar iddi am y gwaith a wnaeth o ran helpu’r weinyddiaeth Lafur hon i droi’r maniffesto y’n hetholwyd ar ei sail yn fesurau ar lawr y Cynulliad â mwyfrif o un. Mae’r ffaith ein bod wedi colli cyn lleied o bleidleisiau o dan yr amgylchiadau hyn yn deyrnged i ddisgyblaeth y grwp a hefyd i’r parch a deimlir at y prif chwip.

Mae Jane Hutt wedi gwneud cyfraniad aruthrol tuag at ddatblygu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y Gymru ddatganoledig, fel y bydd unrhyw Aelod Cynulliad teg ei farn yn cydnabod. Yn awr mae’n trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i Brian Gibbons, a’r gostyngiad yn yr arosiadau hir yn y GIG wedi’i sefydlu’n gadarn. Mae’n amlwg bod pethau’n newid er gwell. Ar fater y 90 y cant o weithgarwch y GIG nad yw’n ymwneud â rhestrau aros—yr agenda iechyd cyhoeddus, yr agenda gofal sylfaenol, a gwasanaethau argyfwng ac achosion brys—mae’r pum mlynedd ac wyth mis a wasanaethodd Jane Hutt wedi ein rhoi ar y blaen o ran diwygio ym maes iechyd. Yr wyf wedi gofyn yn awr i Jane gymryd swydd allweddol arall yn y Cabinet lle y gall helpu i gydlynu a chyfleu ein hagenda a’i throi’n gamau ymarferol.

Os oes rhywun a fwriodd brentisiaeth i fod yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, Brian Gibbons—neu efallai y dylwn ddweud Dr Brian Gibbons—yw hwnnw, gan fod ganddo brofiad unigryw o fod wedi gwasanaethu fel ymarferwr cyffredinol yng nghanol y Cymoedd am sawl degawd ac o fod yn Ddirprwy Weinidog i Jane Hutt am ddwy flynedd, ac, yn fwy diweddar, i Andrew Davies. Cymeradwyaf yr ad-drefnu hwn i’r Cynulliad.