Skip to content

Y Daeargryn yn Kashmir

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Fel y gwyddom, bu daeargryn ar 8 Hydref, gyda’i uwchganolbwynt ym Mhacistan ger y ffin ag India. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi cydymdeimlad llwyraf pobl Cymru i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y trychineb, a chredir yn awr y gallai nifer y marwolaethau fod dros 30,000. Estynnwn ein cydymdeimlad i bawb sydd wedi dioddef, gan gynnwys perthnasau yng Nghymru a’r tu hwnt.

Yr ydym wedi bod mewn cysylltiad â’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, sydd wedi ymrwymo i gyfrannu bron i £1 miliwn mewn cymorth, gan gynnwys $250,000 i gynorthwyo Sefydliad Iechyd y Byd i gludo pecynnau iechyd a thrawma i Bacistan. Mae wyth deg wyth o bobl wedi eu hanfon o’r Deyrnas Unedig hyd yma: 75 o staff chwilio ac achub, ynghyd â phump o gwn, wyth o staff ymateb brys y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a phump o staff dyngarol yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol. Maent wedi cyhoeddi bod timau chwilio ac achub y Deyrnas Unedig wedi bod yn gweithio yn Islamabad ac yn ardal Muzaffarabad. Bydd deng mil tarpolin, 1,000 o bebyll gaeaf ar gyfer teuluoedd a 700 o blancedi’n cael eu trosglwyddo i Islamic Relief i’w dosbarthu yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd rhagor o blancedi, pebyll a tharpolin yn cael eu cludo ag awyren o Dubai a’r Deyrnas Unedig mewn ymateb i geisiadau gan gyrff anllywodraethol.

Bydd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn talu am gludo’r offer a’r nwyddau i’r ardal ar ran y Pwyllgor Argyfwng, fel a wnaethpwyd yn ystod trychineb y tsunami. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl arian a roddir gan y cyhoedd ym Mhrydain yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cymorth, yn hytrach na chostau cludiant.

Mae Oxfam eisoes wedi prynu 4,000 o bebyll a defnydd ar gyfer 8,000 o lochesi dros dro. Mae’n caffael cyfanswm o 60,000 o bebyll yn lleol a bydd yn eu cludo i’r ardaloedd sydd wedi dioddef cyn gynted â phosibl. Yn ogystal ag achub y rhai sydd wedi eu claddu gan y daeargryn, y prif flaenoriaethau fydd sicrhau bod gan y rhai sydd wedi goroesi loches dros dro, cyflenwad o fwyd, dwr yfed a chyfleusterau glanweithdra sylfaenol.

Mae’r tîm wyth person gyda’r cwn synhwyro o Lanfairfechan, sy’n cael eu hadnabod wrth yr enw BIRD, neu Gwn Chwilio ac Achub Rhyngwladol Prydain eisoes wrth eu gwaith yn Muzaffarabad. Mae’n rhan o dîm achub 38 aelod o Brydain. Mae’r tîm o Ogledd Cymru a’i gi synhwyro, Charcoal, wedi tynnu gwr 20 oed o weddillion adeilad a oedd wedi dymchwel, lle bu’n gaeth am 54 awr. Deellir ei fod yn un o ddim ond dau berson a gafwyd yn fyw gan y timau achub yn Muzaffarabad ddoe. Daw aelodau tîm achub Cymru o’r Rhyl, Penmaenmawr, Llandudno, Bae Colwyn ac mae wythfed person wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon. Yr ydym yn ddiolchgar tu hwnt iddynt am eu sgiliau a’u hymroddiad i’w dyletswyddau.

Mae Cyngor Moslemiaid Cymru wedi bod yn cydlynu’r ymdrechion ymhlith cymunedau yng Nghymru. Maent wedi bod yn eithriadol o hael, a hyd yma, mae £70,000 wedi ei gyfrannu at yr apêl. Mae mosgiau o bob rhan o Gymru wedi bod yn casglu arian a byddant yn derbyn nwyddau o ddydd Gwener ymlaen. Er nad yw’r pwerau i ariannu cymorth tramor yn uniongyrchol wedi eu datganoli, yr ydym yn gweithio gydag asiantaethau i sicrhau bod digon o flancedi, pebyll a bwyd ar gael. Byddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y gymuned Foslemaidd o fewn y diwrnod neu ddau nesaf. Yr ydym yn deall hefyd bod nifer o fusnesau cyfanwerthu wedi cyfrannu bwyd priodol, hynny yw, bwyd Halal yn bennaf, i’w gludo i’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

Gall y sawl sy’n dymuno cyfrannu wneud hynny trwy wefan y Pwyllgor Argyfwng yn www.dec.org.uk. Mae llinell roddion awtomatig hefyd ar gael trwy ffonio 0870 6060900. Mae nifer o linellau cymorth hefyd ar gael, sef 07946 476616, 020 76649284 ar gyfer Pacistan yn benodol a 020 78368484 ar gyfer India’n benodol. Mae gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd linell gymorth ar 020 70081500. Mae Cyngor Moslemiaid Cymru wedi cytuno i gydlynu ymdrechion a gellir cysylltu â hwy ar 029 20344555.

Pan fyddwn ni yng Nghymru’n gweld adroddiadau am drychineb yn taro am 9a.m., gydag ysgolion newydd agor am y diwrnod, ac yna rhieni, perthnasau a gweithwyr achub yn tyrchu’n wyllt, gyda dim ond eu dwylo’n aml, ac adroddiadau ar y cyfryngau’n sôn am ‘genhedlaeth gyfan o blant wedi’i cholli’, mae’r tebygrwydd gydag Aberfan yn ddychrynllyd o drawiadol, ac er bod bron i 40 mlynedd wedi mynd heibio, mae’n dal i deimlo fel ddoe i lawer ohonom. Dyna pam yr wyf yn siwr fy mod yn llefaru ar ran pob un ohonom a phawb yng Nghymru wrth fynegi ein cydymdeimlad llwyraf i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau trasig hyn.