Skip to content

Cefnogaeth i'r diwydiant ffilm yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ac Alun Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, yGymraeg a Chwareon
Yn dilyn lansio'r Strategaeth Diwydiannau Creadigol mae mwy o fuddsoddi nag erioed yn cael ei wneud yn y sector. Mae Gwasanaeth Diwydiannau Creadigol newydd yn cael ei sefydlu a bydd yn weithredol yn y flwyddyn newydd. Mae hyn yn golygu y bydd cyngor ar gael i'r sector gan bobl â phrofiad yn y diwydiant.

Yn ogystal â hyn sefydlwyd cronfa Eiddo Deallusol o £7m ynghyd â phecyn hyfforddiant â mwy o ffocws iddo ar gyfer y sector.

Mae'r strategaeth yn cael ei llywio gan y diwydiant ac wedi'i datblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth â'r diwydiant. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu grwp Cynghori o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector ar hyn o bryd.

Wrth weithredu'r strategaeth mae newidiadau'n cael eu gwneud i'r strwythurau presennol er mwyn sicrhau bod mwy o ffocws i'r gwasanaethau yn y dyfodol ac i osgoi unrhyw orgyffwrdd. Fel rhan o'r newidiadau hyn bydd Sgrin yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2006. Bydd sefydliad ffilm newydd yn cael ei sefydlu i weithredu o fis Ebrill 2006. Bydd y sefydliad newydd yn canolbwyntio ar ffilm, ac fel yr unig asiantaeth ffilm sy'n bodoli, bydd yn sicrhau bod yr agweddau economaidd, diwylliannol, addysgol ac agweddau ar arddangos ffilm yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yng Nghymru, y DU a'r byd. Bydd y sefydliad yn canolbwyntio ar ddethol a datblygu sgriptiau, cynlluniau ffilm byr, ariannu rhannol a chynhyrchu ffilmiau micro a phrif ffilmiau sy'n derbyn cyllidebau llawn.

Trwy ymgynghori o fewn y diwydiant awgrymwyd yn glir mai dyma'r cyfeiriad i fynd. Mae'r sefydliad newydd yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng y WDA a Chyngor y Celfyddydau.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda bwrdd Sgrin ar faterion yn ymwneud â dirwyn y cwmni i ben a materion staff.