Skip to content

Grant Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy 2005-06 TAN 2007-08

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Heddiw, rwy'n cyhoeddi buddsoddiad sylweddol pellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella'r broses o reoli gwastraff yn gynaliadwy yng Nghymru.   Dros y tair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dyrannu £93 miliwn i'r awdurdodau lleol trwy gyfrwng y grant rheoli gwastraff yn gynaliadwy. Bydd £26 miliwn yn cael ei ddyrannu yn 2005-06 a'r swm dangosol ar gyfer 2006-07 fydd £32 miliwn a £35 miliwn ar gyfer 2007-08.  

Dangosodd y data a ryddhawyd yn 2004-05 fod yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi defnyddio'r grant rheoli gwastraff yn gynaliadwy a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ragori ar y targed o 15% ar gyfer ailgylchu a chompostio yn 2003-04 yn strategaeth wastraff Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol yng ngwariant yr awdurdodau lleol yn eu helpu i gyrraedd y targedau hwyrach a bennwyd yn y strategaeth wastraff ar gyfer ailgylchu a compstio sef 25% yn 2006-07 ac wedyn 40% erbyn 2010.  

Fel y blynyddoedd blaenorol, bydd pob awdurdod lleol yn cael grant yn seiliedig ar ei anghenion gwariant sy'n deillio o'r Asesiad o Wariant Safonol. Fodd bynnag, byddaf yn disgwyl i bob awdurdod lleol roi manylion am sut y mae'n bwriadu defnyddio'r adnoddau hyn, er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario.