Skip to content

Sefydlu Grw^p Cynllunio Etholiadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex , Y Gweinidog dros Gyllid,lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn 2003 gofynnais i'r Comisiwn Etholiadol lunio adroddiad ar etholiadau lleol 2004 yng Nghymru.  Comisiynwyd yr adroddiad at ddiben pennu meincnod ar gyfer etholiadau yng Nghymru a dyma adroddiad cyntaf y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau lleol yn y DU. Cafodd yr adroddiad hwnnw, o'r enw 'Etholiadau Lleol yng Nghymru 2004', ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2004.

Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn Etholiadol am ei waith caled ac am lunio dogfen gynhwysfawr o ganlyniadau a dadansoddiadau sy'n archwilio mewn manylder sawl agwedd ar yr etholiadau.

Un o argymhellion yr adroddiad yw y dylid sefydlu grw^p cynllunio etholiadau ar gyfer Cymru gyfan a arweinir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ystyrir mai manteision grw^p o'r fath yw ei fod yn fforwm ar gyfer trafod gweithdrefnau etholiadau, yn ffordd o fynd i'r afael â phroblemau posibl ac yn ddull strategol o baratoi etholiadau ac o rannu arferion gorau.

Gan nad oes gan y Cynulliad unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'i etholiadau ei hun, a chan nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â chynnal etholiadau lleol ac etholiadau Ewropeaidd, gwahoddwyd sylwadau gan randdeiliaid ynghylch yr argymhelliad hwn, ac yn arbennig ynghylch y rhan y gallai Llywodraeth y Cynulliad ei chwarae.

Gwnaeth yr ymatebwyr gymeradwyo'n llwyr argymhelliad y Comisiwn Etholiadol ar gyfer grw^p cynllunio etholiadau a'r argymhelliad y dylai Llywodraeth y Cynulliad ei arwain.

O'r herwydd rwy'n cynnig y dylid gweithredu yn unol ag argymhelliad y Comisiwn Etholiadol. Rwy'n cynnig y dylid sefydlu grw^p cynllunio etholiadau ar gyfer Cymru gyfan, o dan gadeiryddiaeth Dr Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr yr Adran Llywodraeth Leol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Diwylliant.

Bydd aelodaeth y grw^p yn cynnwys rhanddeiliaid sydd â chyfrifoldeb am etholiadau, sefydliadau sydd â diddordeb yn y broses etholiadau a'r rhai sy'n cynrychioli buddiannau grwpiau o bleidleiswyr (er enghraifft, yr anabl) sydd â gofynion penodol y dylai trefniadau etholiadau eu bodloni.

Byddaf yn adrodd wrth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar waith y grw^p fel y bo angen.