Skip to content

Ymateb i adolygiad polisi’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes o Gludiant Ysgol

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad


Amlinellir ymatebion Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion yr Adroddiad isod:



Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Nid yw'n eglur beth yw'r sefyllfa gyfreithiol ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch drwy bob agwedd ar y daith ysgol. Ar wahân i reoliadau statudol perthnasol, y mae cyfrifoldebau amrywiol yr ysgolion, AALlau, gweithredwyr bysiau, rhieni a disgyblion wedi cael eu pennu dros y blynyddoedd gan gyfraith achosion. Ond y mae pob achos yn unigryw, ac felly y mae'r sefyllfa gyfreithiol braidd yn niwlog. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i egluro cyfrifoldebau ac atebolrwydd cyfreithiol. [2.28]


Cytuno

Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n diwygio canllawiau cyfredol ar gludiant ysgol (Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 19/95) i AALlau, ysgolion ac eraill, gan eu diweddaru a chanolbwyntio mwy ar ddiogelwch. Bwriedir dechrau ymgynghori ar y canllawiau diwygiedig cyn gwyliau’r haf. Mae cyfrifoldeb ysgolion, AALlau a gweithredwyr bysiau yn faterion i’r llysoedd; ac mae penderfynu a oes unrhyw ddyletswydd gofal o ran cyfraith gyffredin wedi ei thorri yn dibynnu ar ffeithiau pob achos.  Byddwn yn cwmpasu’r materion hyn ond dim ond fel mynegiant ystyriol o farn Llywodraeth y Cynulliad am y gyfraith bresennol a sut y gellir rhoi’r gyfraith ar waith mewn sefyllfaoedd o’r fath y gellir ystyried y canllawiau.

Goblygiadau Ariannol

Arian o gyllidebau cyfredol ar gyfer yr Is-adran Rheolaeth Ysgolion fydd yn talu am y gost o baratoi a chyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymgynghoriad ag AALlau ac ysgolion, gyhoeddi canllawiau ar baratoi codau ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol, a dylid cynnwys ymgynghori â disgyblion yn y codau ymddygiad. [2.35]


Cytuno

Mae nifer o awdurdodau eisoes yn defnyddio codau ymddygiad, sy’n ffordd ddefnyddiol a rhad o wella safonau ymddygiad disgyblion ar gludiant ysgol. Bydd ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig yn annog AALlau i sefydlu codau ymddygiad ar gyfer yr ymddygiad a ddisgwylir gan ddisgyblion ar gludiant ysgol – yn gysylltiedig, lle’n briodol, â chosbau pan na fodlonir safonau – a bydd yn cynnwys enghreifftiau o arfer gorau o ran fformat a chynnwys. Bydd y canllawiau hefyd yn amlinellu’r angen i AALlau ymgynghori a chynnwys pobl ifanc yn y gwaith o baratoi eu polisïau cludiant ysgol.

Goblygiadau Ariannol

Gweler 2.28 uchod.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth y Cynulliad adolygu'r arferion presennol o ran asesu risg, ynghyd ag unrhyw ymchwil academaidd berthnasol, a chyhoeddi canllawiau i ysgolion ac AALlau.  [2.48]

Cytuno

Goblygiadau Ariannol

Amcangyfrifir y byddai adolygiad manwl yn costio tua £30,000, gyda’r arian yn dod o gyllidebau cyfredol Uned Teithio Cynaliadwy y Grŵp Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. Bwriedir cynnal yr adolygiad yn hydref 2005. Bydd y gwaith o ddosbarthu’r canfyddiadau yn rhan o’r prosiect.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid rhoi tocynnau bysiau yn flynyddol i bob plentyn sydd â hawl i gael cludiant ysgol statudol, a hynny'n gysylltiedig, efallai, â chynllun arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad i roi tocyn bws am hanner y pris i rai 16 i 18 oed.  Mae'r cynllun cyfredol Cymru-gyfan sy'n galluogi pensiynwyr i deithio ar fysiau am ddim yn seiliedig ar ddefnyddio 'cerdyn call'. Teimlwn y byddai'n fanteisiol i seilio unrhyw gynllun ar gyfer pobl 16 i 18 oed ar dechnoleg debyg. Byddai hyn yn rhoi cyfle, rywbryd yn y dyfodol, i gyflwyno cynllun yn seiliedig ar 'gerdyn call' ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd. [2.72]

Gwrthod

Mae’r rhan fwyaf o AALlau eisoes yn cyflwyno tocynnau bysiau blynyddol i bob plentyn sydd â hawl i gael cludiant ysgol statudol. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r defnydd o docynnau bysiau’n cael ei orfodi ym mhob ardal, ac mae yna bosibilrwydd y gall disgyblion nad oes ganddynt hawl i deithio am ddim gamddefnyddio cludiant ysgol. Bydd ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig yn rhoi arweiniad ar y mater hwn.

Caiff cynlluniau peilot ar gyfer tocynnau am hanner pris i rai 16-18 oed eu lansio gan ddau awdurdod lleol yn ystod haf 2005. Bydd y cynlluniau hyn yn profi’r materion ymarferol ac ariannol cysylltiedig. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i’r cynlluniau peilot ddefnyddio ‘cardiau call’. Mewn cydweithrediad â chonsortia trafnidiaeth awdurdodau lleol ac eraill, rydym yn adolygu’r potensial ar gyfer system ‘cerdyn call’ sy’n cydymffurfio â’r ITSO ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Ar yr un pryd, rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cerdyn hawliau integredig Cymru-gyfan. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ymrwymo’n gadarn i ddefnyddio cardiau call ar gludiant ysgol.

Goblygiadau Ariannol

Amherthnasol.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Bydd y Mesur Cludiant Ysgol, fel y cafodd ei ddiwygio yn Nhŷ'r Cyffredin, yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol, i'w cynorthwyo i baratoi ceisiadau am gynlluniau treialu. Argymhellwn y dylai hyn ystyried awgrymiadau'r Pwyllgor ynghylch y Mesur drafft. Gwelir yr awgrymiadau yn Atodiad 2. [2.75]

Cytuno mewn egwyddor

Ni dderbyniodd Mesur Cludiant Ysgol 2004 Gydsyniad Brenhinol cyn i Senedd y DU gael ei diddymu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Hyd yma, nid yw Llywodraeth y DU wedi dod i benderfyniad ar ddyfodol y Mesur.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar hyn o bryd.








Argymhellion i gyrff eraill

Llywodraeth y DU

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid dileu'r consesiwn ‘tri am ddau’. [2.14]

Mae’r consesiwn ‘tri am ddau’ yn galluogi tri phlentyn hyd at 14 oed i rannu sedd ddwbl ac mae’n berthnasol i bob bws gwasanaeth cyhoeddus â seddau mainc – boed yn fws cludiant ysgol neu’n fws gwasanaethau cyhoeddus. Lle bo gan gerbydau ysgol wregysau diogelwch, nid yw’r consesiwn yn berthnasol. Mae canlyniadau arolwg o drefniadau trafnidiaeth awdurdodau lleol a gynhaliwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ddiwedd 2003 yn nodi nad oes llawer o awdurdodau yng Nghymru’n defnyddio’r consesiwn.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod hwn yn fater i’r Adran Drafnidiaeth. Er nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ‘thri am ddau’, byddwn yn ysgrifennu at Weinidogion yr Adran Drafnidiaeth i dynnu eu sylw at argymhelliad y Pwyllgor.

Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol/Ysgolion/AALlau

Mae’r rhan fwyaf o argymhellion eraill y Pwyllgor yn ymwneud ag AALlau – sydd â chyfrifoldeb statudol dros gludiant o’r cartref i’r ysgol – neu ysgolion. Ni all Llywodraeth y Cynulliad ymrwymo AALlau neu ysgolion i dderbyn yr argymhellion na’u gorfodi i’w rhoi ar waith. Yn ddiweddar, mae llawer o AALlau wedi cyflwyno mentrau i wella diogelwch cludiant ysgol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu ac yn cefnogi’r ymdrechion hyn, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gydag AALlau, ysgolion a gweithredwyr bysiau i asesu beth arall y gellir ei wneud. Byddwn felly’n tynnu sylw AALlau ac ysgolion at yr argymhellion ac yn ymgynghori â swyddogion a chyrff eraill â buddiant ar eu rhinweddau a’u dichonoldeb. Dyma farn gychwynnol Llywodraeth y Cynulliad am yr argymhellion, cyn cynnal y trafodaethau hyn.

Awdurdodau addysg lleol

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai contractau ar gyfer bysiau ysgol, yn gyffredinol, nodi terfyn o 15 mlynedd ar gyfer hyd y contractau.  [2.12]

Mae adroddiad ELL yn cydnabod tystiolaeth y Comisiynydd Traffig a’r Asiantaeth Gweithredwyr a Safonau Cerbydau fod bysiau cludiant ysgol yng Nghymru mewn cyflwr mecanyddol da ac yn cael eu cynnal a’u cadw yn rheolaidd. Er hynny, rydym yn cytuno ei bod yn bwysig i AALlau ystyried oedran cerbydau wrth gontractio cludiant o’r cartref i’r ysgol a byddwn yn amlygu hyn yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai pob plentyn ar fws ysgol dan gontract gael gwregys diogelwch. [2.13]

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid gosod gwregysau diogelwch ar bob bws mini (waeth beth yw ei oedran) a bws moethus a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf wedi 1 Hydref 1988; ac ar bob bws mini, bws moethus a math arbennig o fws sy’n cludo plant a adeiladwyd ar ôl Hydref 2001, boed yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant ysgol neu deithwyr eraill. Fodd bynnag, mae rheoliadau gwahanol yn berthnasol i fysiau ‘trefol’, boed a ydyn nhw’n gweithredu dan gontract i AALl neu’n gweithredu ar lwybr bws cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae’r bysiau hyn wedi eu cynllunio i alluogi teithwyr i aros ar eu traed am eu bod yn teithio ar gyflymder isel ac yn aros yn gyson, felly mae defnyddio gwregysau diogelwch yn llai ymarferol. Yn aml, ni ellir gosod gwregysau diogelwch ar fysiau o’r fath.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol i blant ar fysiau wisgo gwregysau diogelwch, hyd yn oed os ydynt yn cael eu darparu, er bod Cyfarwyddeb yr UE yn debygol o newid hyn. Rydym yn cydnabod bod hyn yn ei gwneud yn anodd i yrwyr orfodi plant (yn enwedig plant o oedran uwchradd) i wisgo gwregysau diogelwch. Fodd bynnag, gall defnyddio codau ymddygiad a pharhau i godi ymwybyddiaeth disgyblion o ddiogelwch ar fysiau helpu i wella’r sefyllfa.  

Mae gweithredwyr yn ystyried bod defnyddio gwregysau diogelwch ar gerbydau a ddefnyddir i weithredu gwasanaethau masnachol yn anymarferol am nifer o resymau. Gallai leihau nifer y teithwyr, yn arbennig pan fo llwythi amrywiol, gan arwain at y posibilrwydd y gall y ddarpariaeth cludiant ysgol anstatudol gael ei diddymu. Hefyd, gall un nam i wregys diogelwch ei gwneud yn anghyfreithlon i ddefnyddio’r cerbyd a gall hyn hefyd effeithio ar ddarpariaeth cludiant ysgol anstatudol. Bydd angen i ni drafod y materion yn fwy manwl gyda gweithredwyr ac AALlau. Yn y cyfamser, bydd ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig yn egluro ar ba fathau o gerbyd y dylid gosod gwregysau diogelwch ac yn amlygu y dylai AALlau ystyried defnyddio gwregysau diogelwch wrth gontractio ar gyfer mathau eraill o gerbyd.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid gosod camerâu teledu cylch cyfyng ar fysiau maint llawn a ddefnyddir ar gontractau ysgol. [2.19]

Rydym yn cytuno y byddai defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng yn ddull defnyddiol o atal disgyblion rhag camymddwyn ac i nodi pa rai sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau. Mae Bro Morgannwg wedi llwyddo i dreialu cynllun camerâu teledu cylch cyfyng ar 7 cerbyd ar lwybrau lle’r oedd ymddygiad disgyblion yn destun pryder. Bydd ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig yn annog AALlau i ystyried defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng ar gerbydau lle bo hynny’n briodol ac ymarferol.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai'r defnydd o fysiau deulawr ar gontractau ysgol gael ei ddileu yn raddol a dylid defnyddio coetsys unllawr, neu gerbydau arbenigol ar gyfer ysgolion. Dylid cyflawni hyn erbyn 2010. Sylweddolwn y byddai'r polisi hwn yn golygu costau ychwanegol i weithredwyr ac AALlau. Fodd bynnag, ystyriwn y byddai'r gost ychwanegol yn cael ei lliniaru gan ddefnydd mwy effeithiol o gerbydau. [2.22]

Rydym yn deall y rheswm dros argymhelliad y Pwyllgor. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod llawer o weithredwyr yn poeni y gallai dileu bysiau deulawr arwain at broblemau o ran y cyflenwad o yrwyr – mae prinder gyrwyr eisoes yn destun pryder ledled Cymru. Mae rhai awdurdodau hefyd wedi nodi na all rhai gweithredwyr lleol ddarparu cerbydau unllawr yn unig. Nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw bwerau i orfodi awdurdodau lleol i ddileu bysiau deulawr gan mai mater contract i AALlau yw hyn. Fodd bynnag, byddwn yn trafod yr argymhelliad, gan gynnwys y goblygiadau ariannol, gydag AALlau a gweithredwyr bysiau.  


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Bydd angen, efallai, hebryngwyr sy'n oedolion ar rai llwybrau bysiau ac ar gyfer pob contract sy'n cynnwys plant o dan 8 mlwydd oed. [2.25]

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid gwneud defnydd helaethach o hebryngwyr sy'n oedolion ar fysiau sy'n cludo disgyblion ysgol uwchradd. [2.26]

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o AALlau yn defnyddio hebryngwyr ar gerbydau sy’n cludo plant o ysgolion cynradd ac mae rhai awdurdodau’n eu defnyddio ar fysiau sy’n cludo disgyblion ysgolion uwchradd, yn enwedig ar lwybrau lle mae ymddygiad yn destun pryder. Rydym yn cytuno bod gan hebryngwyr swyddogaeth glir ar fysiau arbennig, yn enwedig i helpu i reoli ymddygiad afreolus. Rydym yn gwybod bod AALlau a gweithredwyr bysiau yn cael trafferth i recriwtio a chadw hebryngwyr, ond byddwn yn trafod ymhellach sut i fynd i’r afael â’r mater hwn gydag AALl a gweithredwyr.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Y mae codau ymddygiad yn ceisio egluro cyfrifoldebau beunyddiol disgyblion, eu rhieni, contractwyr a'u staff, ac ysgolion, i sicrhau bod gwasanaethau cludiant ysgol yn cael eu gweithredu'n esmwyth. Dangosodd yr adroddiad CLlLC/SCYA fod codau o'r fath yn cael eu cyflwyno'n fwy cyffredinol a'u bod yn llwyddo, at ei gilydd, i godi ymwybyddiaeth disgyblion a gyrwyr ynghylch safonau ymddygiad derbyniol. Yr ydym yn ystyried y dylai canllawiau o'r fath gael eu cyhoeddi gan bob AALl. [2.29]

Gweler 2.35 uchod.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Cefnogwn yr adroddiad CPT/ATCO ynghylch diogelwch. Dylid gwneud archwiliadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar bawb a gyflogir fel un o'r staff o weithwyr yn y gwasanaethau cludiant ysgol, yn cynnwys y rheini sy'n gweithio ar fysiau a ddefnyddir gan ddisgyblion sy'n talu am eu cludiant. Dylid gwneud archwiliadau ar y lefel uwch a'u hailadrodd bob tair blynedd. Dylid rhoi bathodyn adnabod i bawb a gyflogir fel un o'r staff o weithwyr a gymeradwywyd ar gyfer gwasanaethau cludiant ysgol, a dylai dyddiad terfynol y bathodyn adnabod gyd-ddigwydd ag archwiliad dilysu tair blynedd y Swyddfa Cofnodion Troseddol. [2.39]

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid cael cyswllt agosach rhwng adrannau o fewn awdurdodau lleol unigol o ran archwiliadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol, er mwyn osgoi dyblygu. Mae angen datblygu meini prawf safon genedlaethol i asesu'r wybodaeth a ddatgelir yn archwiliadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar y staff o weithwyr cludiant ysgol, er mwyn sicrhau cysondeb. Argymhellwn y dylai awdurdodau lleol gydweithio ar sail ranbarthol i gytuno ynghylch safonau cyson ac i sefydlu a chynnal cronfa ddata o staff o weithwyr a gymeradwywyd. [2.40]

Mae’n hanfodol i bawb a gyflogir fel aelod o staff y gwasanaethau cludiant ysgol ac sy’n bodloni’r diffiniad o ‘unigolyn rheoleiddiedig’ dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2002 gael archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae’r diffiniad yn cynnwys pobl sy’n gweithio mewn swydd sy’n cynnwys dyletswyddau gofalu, hyfforddi neu oruchwylio plant. Byddai’r diffiniad hwn yn berthnasol i yrwyr ar wasanaethau contract ysgolion ond mae’n annhebygol o fod yn berthnasol i yrwyr gwasanaethau masnachol sy’n cludo disgyblion ysgol oherwydd nad y gyrrwr hwnnw fyddai ‘unig oruchwylydd’ disgyblion sy’n teithio ar fws o’r fath. Fel cyflogwyr, byddai angen i weithredwyr drafod pa mor ymarferol fyddai ymestyn y diffiniad o ‘unigolyn rheoleiddiedig’ i yrwyr gwasanaeth cyhoeddus gyda’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, sef cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref, yn y lle cyntaf. Byddwn yn cwmpasu materion yn ymwneud ag archwiliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar yrwyr a hebryngwyr yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig. Byddwn hefyd yn trafod gydag AALlau a gweithredwyr sut i sicrhau cysylltiad agosach rhwng adrannau awdurdodau lleol unigol a pha mor ymarferol fyddai datblygu trefniadau cydgysylltiedig.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai pob awdurdod lleol sefydlu 'siop un stop' gydag un rhif ffôn a staff o weithwyr wedi eu hyfforddi i ymdrin yn gydymdeimladol ag ymholiadau o'r fath. Ar gyfer ysgolion, gweithredwyr bysiau a'r cyhoedd yn gyffredinol, dylid rhoi cyhoeddusrwydd eang i'r gwasanaeth hwn.  [2.42]

Mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn cynnig gwasanaeth cydgysylltiedig ar gyfer cludiant ysgol sy’n gweithredu un ai o fewn yr adran addysg neu’r adran drafnidiaeth. Rydym yn croesawu’r datblygiadau hyn ac yn cefnogi ymdrechion awdurdodau i barhau i wella cysylltiadau AALlau/rhieni/ysgolion/gweithredwyr, un ai trwy ‘siop un stop’ neu drefniant tebyg. Byddwn yn cynnig awgrymiadau ar drefniadau o’r fath, ac enghreifftiau o arfer gorau, yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Yr ydym yn ystyried y dylai AALlau nodi bod pob gweithredwr yn gwneud asesiadau risg o'r fath, cyn i gontractau cludiant ysgol ddod i rym. Dylai'r asesiadau hyn gael eu diweddaru'n gyson, o leiaf bob tair blynedd. Dylai gweithredwyr gadw cofnod i ddangos pa weithrediadau a gyflawnwyd i leihau'r risgiau a nodwyd. Ar sail y wybodaeth honno, mae'n bosibl y byddai llwybrau'r bysiau'n cael eu newid, un ai dros dro neu'n barhaol.  [2.45]

Rydym yn cytuno y gallai asesiadau risg fod yn ddefnyddiol ond byddai angen iddyn nhw fod yn gyfatebol i’r llwybr a’r math o gerbyd dan sylw. Bydd adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o arfer presennol ar asesiadau risg (gweler 2.48 uchod) yn helpu i nodi arfer gorau yn y maes hwn.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid hefyd ddefnyddio asesiadau risg mewn sefyllfaoedd lle mae'r disgybl yn byw o fewn pellter cerdded statudol o'r ysgol, ond mae amheuon ynghylch diogelwch hyn, i benderfynu a oes hawl gan y disgybl i gael cludiant ysgol am ddim. Dylai AALlau sefydlu methodoleg a meini prawf cyson i'w cynorthwyo i wneud y penderfyniadau yma, a byddem yn argymell hynny o gofio'r cynnydd enfawr mewn traffig ers i'r pellter cerdded statudol gael ei bennu am y tro cyntaf. Dylai'r fethodoleg hon ddisgrifio dulliau i amcangyfrif diogelwch cymharol llwybrau cerdded amgen, gan ystyried oedran y plant sy'n eu defnyddio, agosrwydd a main y traffig cerbydau ac unrhyw beryglon penodol megis anhawster i weld wrth droadau ac argaeledd pwyntiau croesi i gerddwyr ar ffyrdd prysur ac amgylchiadau eraill a allai beri risg i blant. [2.47]

O ran asesu risg y llwybr cerdded, dylai AALlau sicrhau bod y llwybr yn ddiogel i’r disgybl ei gerdded a bod oedolyn cyfrifol yn ei hebrwng lle bo angen. Os ystyrir nad yw llwybrau o’r fath yn ddiogel ac nad oes llwybr cerdded diogel arall o fewn y pellter cerdded statudol, dylai’r ysgol ddarparu cludiant ysgol am ddim. Byddwn yn nodi hyn yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig. Byddwn hefyd yn nodi y dylai’r fethodoleg a’r meini prawf a ddefnyddir gan AALlau gynnwys y ffactorau a awgrymir gan Bwyllgor ELL.  


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai awdurdodau lleol fabwysiadu amodau contract safonol a chymeradwyo'r model a bennir yn Atodiad A adroddiad y CPT/ATCO. Dylid cynnwys fel nodweddion safonol yr eitemau a drafodwyd yn flaenorol: er enghraifft, oedran a chyflwr cerbydau, teledu cylch cyfyng, gwregysau seddau, gofod storio addas a'r broses o brofi cerbydau a'u tystysgrio yn unol â chanllawiau statudol. Dylid nodi eitemau eraill ar gyfer llwybrau bysiau penodol: er enghraift, hebryngwyr ac offer clyweledol ar gyfer adloniant. [2.51]

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai'r cyfnod ar gyfer contractau cludiant ysgol fod rhwng pump a saith mynedd, i ganiatáu i weithredwyr gynhyrchu elw rhesymol o'u buddsoddiad mewn cerbydau modern, cynnal a chadw, hyfforddi staff a rheolaeth. Yn achos cerbydau newydd, ystyriwn y byddai hyd at ddeng mlynedd yn briodol. [2.52]

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai awdurdodau lleol gydweithredu er mwyn cytuno ar feini prawf gwerthuso cyffredin a chydnabod nad y tendr isaf, o angenrheidrwydd, sy'n cynnig y gwerth gorau am arian. Dylid ystyried ffactorau eraill megis ansawdd y cerbydau, cynnal a chadw, hyfforddi staff a'r damweiniau a gofnodwyd. Dylid hefyd sicrhau dull cytunedig o addasu'n flynyddol y costau contactio, a gofalu bod hynny'n cael ei gymhwyso'n gyson gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. [2.53]

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylid defnyddio cerbydau ysgol neilltuedig yn ehangach ar hyd a lled Cymru. Dylid rhoi cymhellion i weithredwyr fuddsoddi mewn cerbydau o'r fath, gan gynnwys darparu contractau hwy, rhoi'r cyfle i ddefnyddio'r cerbydau yn y cyfnodau llai prysur (ar gyfer teithiau ysgol i gyfleusterau chwaraeon neu gyfleusterau addysgol) ac efallai ar gyfer 'teithio dwbl' yn ystod y cyfnodau brig. [2.62]

Mae’r argymhellion uchod yn ymwneud â materion caffael a chontract y mae AALlau yn gyfrifol amdanynt. Mae o leiaf dau awdurdod (Wrecsam a Sir Ddinbych) wedi cyflwyno cerbydau arbenigol fel rhan o’u contractau cludiant ysgol, ac mae un gweithredwr (Trafnidiaeth Casnewydd) wedi prynu bws melyn arbennig fel penderfyniad masnachol.  Croesewir y defnydd o gerbydau arbenigol ond rydym yn cydnabod y byddai cyflwyno mwy ohonynt yn arwain at oblygiadau ariannol sylweddol i AALlau.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

A bwrw bod codau ymddygiad yn cael eu defnyddio'n ehangach gan ysgolion, mae'r Pwyllgor yn ystyried y dylai awdurdodau lleol drefnu cyrsiau hyfforddi proffesiynol ar gyfer gyrwyr a hebryngwyr, cyn dechrau pob blwyddyn ysgol. [2.66]

Rydym yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan yrwyr brofiad addas a/neu eu bod wedi eu hyfforddi i weithio gyda phlant: gall hyn fod yn allweddol wrth fynd i’r afael â materion ymddygiad disgyblion ar fysiau. Nid oes gennym farn arbennig ar a ddylai awdurdodau lleol neu weithredwyr gynnig hyfforddiant, ond byddem yn disgwyl iddynt weithio gyda’i gilydd ar lefel AALl i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir o safon ac ansawdd cyson.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Y mae cyfle i AALlau gyd-gysylltu'n well i adolygu'n systematig ddiogelwch a chludiant ysgol yn ôl ardal.  [2.73]

Rydym yn cytuno y dylid cydgysylltu mentrau yn well a byddwn yn trafod sut i gyflawni hyn gydag AALlau ac eraill.






Awdurdodau addysg lleol ac ysgolion

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Yn ogystal â bod yn ddiogel, dylai'r daith yn ôl ac ymlaen i'r ysgol fod yn gyfforddus. Argymhellwn y dylid rhoi sylw pellach i faterion ymarferol, megis lleoedd i storio bagiau ysgol, bagiau chwaraeon ac offerynnau cerddorol. Gellid gosod systemau adloniant mewn bysiau, yn weddol rad. Teimlwn y byddai chwarae cerddoriaeth yn gymorth i dawelu disgyblion a lleihau camymddygiad. Ni fyddem yn mentro argymell math arbennig o gerddoriaeth; dylid ymgynghori â disgyblion ynghylch beth fyddai eu dewis hwy. [2.36]

O ran cludiant, dylai AALlau sicrhau bod taith y disgyblion yn ddiogel a chyfforddus. Er hynny, rydym yn cytuno y gellir gwneud mwy i wella ansawdd y daith yn ôl ac ymlaen i’r ysgol o ran lle storio bagiau, gosod systemau adloniant ac ati. Byddwn yn nodi y dylai AALlau ystyried y materion hyn wrth gontractio ar gyfer cludiant ysgol yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig.    

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai rhagor o ysgolion gydweithredu i wasgaru amseroedd dechrau a gorffen, i hyrwyddo defnyddio bysiau ysgol mewn modd mwy effeithlon. Teimlwn y dylai AALlau roi arweiniad drwy nodi clystyrau o ysgolion lle byddai cydweithredu o'r fath yn effeithiol. Yna byddai'n fater i gyrff llywodraethu ysgolion gytuno yn ei gylch, mewn ymgynghoriad ag athrawon a rhieni. Mewn rhai achosion, byddai addasu'r amseroedd dechrau a gorffen o gyn lleied â 15 munud yn caniatáu i weithredwyr ddefnyddio'r un cerbyd ar gyfer dwy daith yn y cyfnodau brig yn y bore a'r hwyr. Byddai arbedion costau sylweddol yn deillio o hynny. [2.63]

Rydym yn cytuno y byddai gwasgaru amseroedd dechrau a gorffen ysgolion yn hyrwyddo defnyddio bysiau ysgol mewn ffordd fwy effeithlon a hefyd gwella diogelwch os byddai’r arbedion o weithredu effeithlon yn cael eu hail-fuddsoddi. Byddem yn annog AALlau i archwilio’r posibiliadau ar sail ardal, gan gydnabod y byddai angen mynd i’r afael â materion ymarferol amrywiol, yn arbennig i rieni sydd â phlant mewn gwahanol ysgolion. Yn y pen draw, cyfrifoldeb cyrff llywodraethu yw penderfynu ar amseroedd dechrau a gorffen ysgolion, ac mae’n rhaid iddynt ymgynghori ar unrhyw newidiadau.

Ysgolion

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai ysgolion ddarparu trefniadau arolygu ar gyfer mannau ar dir yr ysgol, neu'r mannau cyfagos, lle mae disgyblion yn ymgasglu cyn mynd ar y bws ar gyfer y daith adref yn y prynhawn, neu ar ôl dod allan o'r bws yn y bore. Dylai mannau ymgynnull o'r fath gael eu nodi'n glir, a dylid gofalu nad oes unrhyw rwystrau, gan gynnwys ceir wedi eu parcio, yn y mannau hynny. [2.27]

Fel y nodwyd eisoes (gweler 2.28), byddwn yn cynnig canllawiau cyffredinol ar arfer da o ran goruchwylio mannau ymgynnull yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai ysgolion gynhyrchu polisi eglur ar gyfer ymdrin â chamymddygiad ar fysiau ysgol, gyda chyfres o gosbau wedi eu graddio ac yn gymesur â'r digwyddiad. Dylid pennu'r polisi hwn yn y cod ymddygiad. O ran y gweithdrefnau disgyblu, dylid eu gweithredu'n gyflym a chyson, a dylent fod yn rhan o gontract rhwng yr ysgol, y disgybl, y rhiant a'r cwmni bysiau. [2.34]

Gweler 2.35 uchod.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai ysgolion gyflawni asesiadau risg o'r mannau lle mae cerbydau'n cael eu parcio neu eu symud a lle mae disgyblion yn ymgasglu cyn mynd i mewn i'r bysiau neu ar ôl dod allan ohonynt. Dylid cofnodi ac adolygu'r asesiadau hyn yn rheolaidd. Dylent fod ar gael i'w harchwilio ar gais rhieni neu ddisgyblion, a dylent gael eu harchwilio gan Estyn fel rhan o'u cylch arolygu ysgolion arferol. [2.46]

Lle bo disgyblion yn mynd i mewn neu’n dod allan o’r bysiau ar dir ysgol, dylai’r ysgol gynnal asesiad o risg fel rhan o’u cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch ar dir yr ysgol.  Lle bo disgyblion yn mynd i mewn i’r bysiau neu’n dod allan ohonynt oddi ar dir yr ysgol, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol fel awdurdod y priffyrdd sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelwch y ffordd yw gweithredu trefniadau goruchwylio. Byddwn yn cwmpasu’r materion yn ein canllawiau cludiant ysgol diwygiedig.


Awdurdodau addysg lleol a’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Cytunwn â'r adroddiadau CPT/ATCO a CLlLC/SCYA y dylai awdurdodau lleol, yn y tymor hwy, anelu at ddileu'r gwahaniaethau rhwng amodau contractio ar gyfer gwasanaethau ysgol, a gwasanaethau lleol. Cytunwn hefyd y dylid gofyn i'r consortia trafnidiaeth ranbarthol i ymchwilio i'r dulliau gorau o weithredu'r diwygiad hwn. [2.54]

Dyma fater i awdurdodau lleol yng nghyd-destun eu cyfrifoldeb fel awdurdodau addysg a thrafnidiaeth lleol.