Yn fy natganiad ar 29 Tachwedd ynghylch Cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru, dywedais y buaswn yn tynnu sylw'r Aelodau at unrhyw ddatblygiadau newydd o bwys o ran iechyd y cyhoedd. Am hanner dydd, ddydd Llun 12 Rhagfyr, roedd cyfanswm o 192 o achosion o Cryptosporidium wedi eu cadarnhau ers 1 Hydref. Mae hyn yn gynnydd o 105 ar y nifer a nodwyd yn fy natganiad cyntaf ar 29 Tachwedd, a 69 yn fwy na'r nifer a nodwyd yn fy natganiad ar 2 Rhagfyr. Mae pob un o'r sianeli ymchwilio presennol yn parhau - gan gynnwys cadw golwg fanylach ar afiechydon, profi dŵr yn rheolaidd a dadansoddi DNA organeddau unigol o samplau dynol ac amgylcheddol.
Gan bod cryptosporidiwm yn aml yn ymledu'n eilaidd o un person i'r llall, rhoddwyd cyngor i olchi'r dwylo'n drylwyr ar ôl bod yn y toiled, a chyn paratoi neu fwyta bwyd. Dylai pobl sy'n derbyn eu cyflenwad dŵr o gronfa ddŵr Cwellyn barhau i ferwi, yna oeri eu dŵr cyn ei yfed.
Mae llinellau cymorth arbennig Galw Iechyd Cymru yn parhau i fod ar gael i bobl sydd â chwestiynau neu bryderon ynghylch eu hiechyd: Galw Iechyd Cymru 0845 850 9859 neu 0845 600 6086 (ar agor 9-6 yn ystod yr wythnos, a 9-5 ar benwythnosau). Mae'r wybodaeth gan Galw Iechyd Cymru yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae llinell gymorth Dŵr Cymru ar agor ar gyfer pobl sydd am wybod a yw’r 'Rhybudd Berwi Dŵr' yn effeithio arnynt: Dŵr Cymru 0800 052 0130 (ar agor 24 awr). Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar wefan Galw Iechyd Cymru ar www.nhsdirect.nhs.uk neu wefan Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ar www.nphs.wales.nhs.uk .
Mae Dŵr Cymru yn ysgrifennu at 9,000 o gwsmeriaid yng Ngogledd-orllewin Cymru i'w hysbysu nad oes angen iddynt bellach ferwi dŵr yfed o'r tap yn ystod yr achosion cyfredol o cryptosporidiwm. Maent yn cynnwys cwsmeriaid sydd bellach yn derbyn eu cyflenwad o ffynonellau eraill, yn hytrach na gweithfeydd trin dŵr Cwellyn, a'r rhai hynny a dderbyniodd lythyrau yn eu gorchymyn i ferwi dŵr, er eu bod yn byw y tu allan i'r ardal oedd yn derbyn eu cyflenwad o'r gweithfeydd. Bydd y cwsmeriaid hyn yn derbyn llythyrau cyn bo hir yn eu cynghori nad oes angen iddynt ferwi eu dŵr tap bellach. Fodd bynnag, mae'r cwmni yn gofyn i gwsmeriaid barhau i ferwi eu dŵr tap tan 9 Ionawr – oni bai eu bod wedi derbyn llythyr o 'Hysbysiad Dim Perygl'.
Mae'r Aelodau wedi holi cwestiynau am gyfrifoldebau a chyfathrebu o safbwynt iechyd y cyhoedd. Y sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd, yw fod gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ddyletswydd i ddiogelu poblogaethau lleol, a phan geir achosion o'r fath, mae'r boblogaeth yn cael ei diogelu trwy fwy o wyliadwriaeth, cyfyngu a rheoli risg. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn gyfrifol am fod yn wyliadwrus o cryptosporidiwm. Mewn blwyddyn arferol, bydd 300 o achosion yn cael eu nodi ledled Cymru, gyda chynnydd mewn achosion yn yr hydref a'r gwanwyn. Bu cynnydd uwch na'r arferol ledled y DU yn ystod hydref y llynedd. Nid oedd y sefyllfa yn Ynys Môn a Gwynedd yn wahanol i hyn o gwbl. Fodd bynnag, yn ystod wythnos gyntaf Tachwedd, cafwyd cynnydd uwch na'r hyn a gafwyd mewn mannau eraill. Oherwydd hyn, galwyd cyfarfod o'r Tîm Rheoli Digwyddiad ar 4 Tachwedd gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, o'r holl awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol Gwynedd a Môn.
Yn unol â'r canfyddiadau a gafwyd o'r goruchwylio a ddisgrifwyd uchod, ysgrifennodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol at bob Meddyg Teulu yn Ynys Môn a Gwynedd ar 4 Tachwedd. Roedd y llythyr yn hysbysu Meddygon Teulu o'r cynnydd diweddar mewn achosion o cryptosporidiosis, ac yn gofyn iddynt anfon samplau o achosion posibl i'r labordy. (Mae labordai y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn profi pob sampl gan gleifion sydd â dolur rhydd am cryptosporidiwm).
Ar 23 Tachwedd, cafodd Meddygon Teulu a grwpiau penodol o weithwyr clinigol (pediatregwyr, haematolegwyr, ffisegwyr arennol ac oncolegwyr) Ymddiriedolaeth GIG y Gogledd-orllewin eu cynghori o'r angen i gleifion sydd â system imiwnedd wan ferwi dŵr, mewn llythyr uniongyrchol gan Dr Mark Walker, Ymgynghorydd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ar Reoli Clefydau Trosglwyddadwy. Cyfeiriwyd at gyngor gan y Prif Swyddog Meddygol, sy'n bodoli eisoes, y dylai cleifion sydd â nam difrifol ar eu system imiwnedd ferwi dŵr yfed yn rheolaidd, o bob ffynhonnell. Gofynnwyd iddynt gysylltu â chleifion sydd â nam difrifol ar eu system imiwnedd, i'w hysbysu i ferwi eu dŵr yfed cyn ei ddefnyddio. I'r rhan fwyaf o'r bobl hyn, dyma gyngor y byddent wedi ei dderbyn yn arferol. Cafodd y cyngor ei bwysleisio eto yn ystod y cyfnod hwn, gan fod ymchwiliadau yn ystod y bythefnos flaenorol wedi dangos y posibilrwydd o bresenoldeb cryptosporidiwm yn y cyflenwad dŵr. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau cynghori gweddill y cyhoedd i ferwi eu dŵr, ac nid oedd yn bendant mai’r dŵr oedd ffynhonnell y broblem.
Er bod cryptosporidiosis yn salwch dolur rhydd amhleserus, mae'n hunan-gyfyngus, a heb gymhlethdodau hirdymor i'r rhan fwyaf o bobl. Y grŵp o unigolion sy'n fwyaf agored i niwed yw'r rhai hynny sydd â diffyg ar eu system imiwnedd (megis pobl sy'n dioddef o HIV/AIDS, neu'r rhai hynny sy'n cymryd dôs uchel o steroidau). Aethpwyd ati i gysylltu â'r bobl hyn a'u cynghori. Mae Dr Walker wedi cysylltu'n bersonol â Chyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth Ysbytai y Gogledd-orllewin, a chyda Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol Ymddiriedolaeth GIG y Gogledd-orllewin, trwy gydol y cyfnod y cododd yr achosion. Mae Tîm Rheoli Heintiau Ysbytai yn parhau i roi cyngor yn gysylltiedig â gofal cleifion yn yr ysbytai.
Gall pobl hŷn, boed mewn cartrefi nyrsio neu yn y gymuned, a phlant, ddioddef yn ddrwg o cryptosporidiosis, gan eu bod yn fwy tebygol o ddioddef o ddadhydradu yn dilyn salwch dolur rhydd. Cafodd taflenni cyngor eu paratoi a'u dosbarthu i bob aelod o'r Tîm Rheoli Achosion, i'w dosbarthu i gartrefi preswyl a sefydliadau eraill. Mae'r rhan fwyaf o’r achosion o cryptosporidiosis wedi codi o fewn y grŵp oedran 15 i 44. Mai llai na 10% o achosion wedi codi ymysg pobl sydd dros 65 oed. Nid oedd felly'n bosibl cyfyngu ar y risg ar unwaith trwy dargedu cartrefi hen bobl. Fodd bynnag, cyfeiriodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn benodol at y perygl i bobl hŷn ddadhydradu'n fuan yn ystod unrhyw salwch dolur rhydd, a rhoddwyd cyngor iddynt dderbyn gofal iechyd ar fyrder.
Daeth y Tîm Rheoli Digwyddiadau at ei gilydd fel Tîm Rheoli Achosion ar 29 Tachwedd, pan oedd yn amlwg ei fod yn delio ag achosion o cryptosporidiwm. Mae gwaith y grŵp yn parhau, ac yn cael ei arwain gan Dr Mark Walker. Mae'n cynnwys aelodaeth eang o sefydliadau ac o arbenigwyr, ac yn cynnwys cynrychiolwyr o Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Gwynedd, Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a Dŵr Cymru.
Corff cynghori yn unig yw'r Tîm Rheoli Achosion, ac nid oes ganddo bwerau statudol. Fodd bynnag, rhyngddynt, mae gan y cynrychiolwyr cyfansoddol unigol awdurdod sylweddol i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddosbarthu gorchmynion gwahardd penodol neu waith priodol gan swyddogion iechyd yr amgylchedd y cyngor lleol, neu gynnal ymchwiliadau epidemiolegol trwy gyfrwng y timau arolygu afiechydon trosglwyddadwy rhanbarthol a lleol. Mae gan Dŵr Cymru gyfrifoldeb statudol i gyhoeddi rhybuddion berwi dŵr. Yn ymarferol, mae gan y Tîm Rheoli Achosion ddigon o arbenigedd, ac awdurdod eang i sicrhau bod camau perthnasol yn cael eu cymryd.
Yn ystod yr achosion hyn, mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol wedi chwarae rhan ganolog ym maes iechyd y cyhoedd, gan arwain y timau rheoli digwyddiadau a rheoli achosion, a darparu arbenigedd o ran epidemoleg a chyfathrebu. Ceir mewnbwn pellach gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol trwy Dîm Diogelu Iechyd Lleol Gogledd Cymru, Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, a'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus ar alwad. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn cynnal swyddogaeth eirioli a chysylltu sylweddol gydag amrywiol gyrff sy'n bartneriaid, a thrwy gysylltiadau sy'n bodoli eisoes trwy'r Ymgynghorwyr Clefydau Trosglwyddadwy, gydag Unedau Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor Lleol a'u swyddogion iechyd yr amgylchedd sy'n gweithio yn y maes. Cyhoeddir adroddiad yn arferol wedi i unrhyw achosion mawr gael eu cadarnhau. Nid yw'r achos presennol o cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru yn eithriad. Mae adroddiad cronolegol o ddigwyddiadau yn rhan o'r adroddiad fel arfer, gan gynnwys y rhai hynny â'r asiantaethau partneriaid.
Fy mwriad yw cyhoeddi datganiad ysgrifenedig arall yr wythnos nesaf.