Skip to content

Taliadau i Ffermwyr: y Cynllun Taliad Sengl - Taliad Cyntaf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Mae diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol wedi golygu bod yr ystod o gymorthdaliadau i ffermwyr yn y DU wedi cael eu disodli gan Gynllun y Taliad Sengl (SPS) o 2005. Er bod y DU gyfan wedi mabwysiadu’r Taliad Sengl, mae’r pedwar rhanbarth yn gweithredu ychydig yn wahanol.  Yng Nghymru, bydd y taliad newydd yn seiliedig ar gyfartaledd y taliadau a wnaed i ffermwyr rhwng 2000 a 2002.

Am fod angen rheoli rhai agweddau ar y Taliad Sengl ar draws y DU, er enghraifft y Gronfa Genedlaethol, ni fydd yn bosibl gwneud taliad llawn yng Nghymru o fis Rhagfyr ymlaen fel y gobeithiwyd. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn trafod gyda’r Comisiwn Ewropeaidd i ganiatáu i’r taliad sengl gael ei wneud mewn dwy ran, gyda’r rhan gyntaf yn cael ei gwneud yn gynnar yn y cyfnod talu Ewropeaidd fydd ar agor o 1 Rhagfyr 2005 tan 30 Mehefin 2006.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd erbyn hyn wedi gwneud darpariaeth fel bod ffermwyr sy’n gwneud cais am y Taliad Sengl (SPS) yn medru cael taliadau 2005 mewn dau randaliad.  Ond ni fydd y taliad cyntaf i ffermwr yn fwy na’r swm y mae’n gymwys i’w gael.   Bydd y swm hwnnw wedi’i bennu yn dilyn gwiriadau (dilysiad) sydd wedi’u gwneud yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004.  Nid oes perygl y bydd y cyfanswm terfynol sydd eto i’w bennu yn llai na’r rhandaliad cyntaf.

Rwyf wedi cytuno y gall ffermwyr yng Nghymru gael taliad cyntaf o 80% o’r Taliad Sengl amodol.  (Bydd pethau fel modiwleiddio ac unrhyw gosbau a all fod yn berthnasol yn cael eu tynnu o’r taliad cyntaf o 80%.)

Rwyf yn falch bod cyfran sylweddol o geisiadau ffermwyr Cymru wedi pasio’r profion dilysu perthnasol ac y bydd y ffermwyr hynny yn gymwys i gael eu taliadau cyntaf o dan y Cynllun Taliad Sengl, hyd at y lefel o 80% o'r cyfanswm amodol, cyn y Nadolig.