Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, ‘Bodloni’r Targedau Tirlenwi ac Ailgylchu’

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Yr wyf yn cymeradwyo’r pwyllgor am ystyried y pwnc pwysig hwn. Cyfeiriaf, wrth gwrs, at yr ymchwiliad i dirlenwi, a’r datganiad ysgrifenedig a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf.

Rheoli gwastraff yw’r mater amgylcheddol pwysicaf sy’n wynebu Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu strategaeth wastraff genedlaethol Cymru, ‘Yn Gall gyda Gwastraff’, sydd nid yn unig yn ceisio gwella cynaliadwyedd rheoli gwastraff yng Nghymru, yn unol â’n dyletswydd statudol i hybu datblygu cynaliadwy, ond hefyd yn ceisio cyflawni ein dyletswyddau dan ddeddfwriaeth y DU a’r UE.

Un o’r prif ofynion a nodwyd gan yr UE, sy’n cael sylw yn y strategaeth wastraff, yw’r angen i gyflawni gofynion y gyfarwyddeb tirlenwi er mwyn sicrhau nad yw gwastraff trefol pydradwy yn mynd i safleoedd tirlenwi yn unol â meini prawf llym y gyfarwyddeb. Mae adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn ymdrin â’r materion hyn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gallu derbyn bron bob un o’r argymhellion a wnaethpwyd gan y pwyllgor—yn wir, mewn sawl achos mae’r argymhellion yn adlewyrchu polisïau a gweithgareddau cyfredol. Lle nad ydym wedi gallu derbyn argymhelliad, mae’r papur a gyflwynais i’r Cyfarfod Llawn yn nodi’n glir beth yw’r rhesymau dros hynny.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod y bydd llai o gapasiti ar gyfer tirlenwi yng Nghymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r polisïau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn eu gweithredu eisoes yn golygu bod llai o wastraff trefol yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi; mae hyn wedi lleihau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwelwyd lleihad hefyd yn y gwastraff diwydiannol a masnachol a anfonir i safleoedd tirlenwi, gan gynnwys gwastraff peryglus. Mae’n bwysig sicrhau bod gennym bosibiliadau eraill yn lle tirlenwi, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn cael eu datblygu.

Yr ydym wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol i awdurdodau lleol, gan ein bod yn cydnabod y newidiadau y byddant yn gorfod eu gwneud, ac yr ydym wedi rhoi arweiniad clir drwy strategaeth wastraff Cymru. Yr ydym hefyd yn ariannu rhaglen weithredu berthnasol er mwyn helpu busnesau yng Nghymru i leihau eu gwastraff ac i’w reoli yn fwy cynaliadwy. Yr ydym hefyd wedi gweithio mewn cysylltiad agos ag ystod o randdeiliaid mewn llywodraeth leol, yn y sector cymunedol, mewn diwydiannau ac yn ehangach, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Yr wyf yn croesawu adroddiad y pwyllgor a byddaf yn parhau i hysbysu’r pwyllgor a’r Cynulliad cyfan ynglyn â datblygiadau yn y mater pwysig hwn.